Ymddiriedolaethau a threthi
Ymddiriedolaethau a Threth Incwm
Mae incwm o wahanol fathau o ymddiriedolaethau yn agored i wahanol gyfraddau o Dreth Incwm.
Trethir pob math o ymddiriedolaeth yn wahanol. Mae ymddiriedolaethau yn cynnwys ‘ymddiriedolwr’, ‘setlwr’ a ‘buddiolwr’.
Ymddiriedolaethau cronnol neu amodol
Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am dalu treth ar incwm a gafwyd gan ymddiriedolaethau cronnol neu ymddiriedolaethau amodol. Trethir y £1,000 cyntaf ar y gyfradd safonol.
Os oes gan y setlwr fwy nag un ymddiriedolaeth, rhannir y £1,000 hwn rhwng y nifer o ymddiriedolaethau sydd gan y setlwr. Fodd bynnag, os oes gan y setlwr 5 ymddiriedolaeth neu fwy, yr haen gyfradd safonol ar gyfer bob ymddiriedolaeth yw £200.
Mae’r cyfraddau treth i’w gweld isod.
Incwm yr ymddiriedolaeth hyd at £1,000
Math o incwm | Cyfradd dreth |
---|---|
Incwm o fath difidend | 8.75% |
Pob incwm arall | 20% |
Incwm yr ymddiriedolaeth dros £1,000
Math o incwm | Cyfradd dreth |
---|---|
Incwm o fath difidend | 39.35% |
Pob incwm arall | 45% |
Difidendau
Nid yw ymddiriedolwyr yn gymwys ar gyfer y lwfans difidend (yn Saesneg). Mae hyn yn golygu bod ymddiriedolwyr yn talu treth ar bob difidend yn ddibynnol ar yr haen draeth y maent yn dod o dani.
Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant
Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu Treth Incwm ar y cyfraddau isod.
Math o incwm | Cyfradd Treth Incwm |
---|---|
Incwm o fath difidend | 8.75% |
Pob incwm arall | 20% |
Weithiau, mae ymddiriedolwyr yn ‘mandadu’ incwm i’r buddiolwr. Mae hyn yn golygu ei fod yn mynd y syth i’r buddiolwr yn hytrach na chael ei drosglwyddo drwy’r ymddiriedolwyr.
Os bydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid i’r buddiolwr ei gynnwys ar ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad (yn Saesneg) a thalu treth arno.
Ymddiriedolaethau gwag
Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag, chi sy’n gyfrifol am dalu treth ar incwm ohoni.
Mae angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.
Ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr
Mae’r setlwr yn gyfrifol am Dreth Incwm ar yr ymddiriedolaethau hyn, hyd yn oed os nad yw peth o’r incwm yn cael ei dalu allan iddo. Fodd bynnag, caiff y Dreth Incwm ei thalu gan yr ymddiriedolwyr fel y maent yn cael yr incwm.
-
Mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Incwm ar incwm yr ymddiriedolaeth drwy lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd.
-
Maent yn rhoi datganiad i’r setlwr o’r holl incwm a’r cyfraddau treth a godir arno.
-
Mae’r setlwr yn rhoi gwybod i CThEF am y dreth y mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu ar ei ran ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Mae’r gyfradd Treth Incwm yn ddibynnol ar ba fath o ymddiriedolaeth yw’r ymddiriedolaeth pan fo buddiant gan setlwr.
Mathau eraill o ymddiriedolaethau
Mae rheolau arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau rhieni ar gyfer plant, ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed ac ymddiriedolaethau lle nad yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Gelwir y rhain yn ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn Saesneg).
Os mai chi yw’r buddiolwr
Yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth a’ch incwm, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio peth o’r Incwm Treth yn ôl.
Os mai chi yw’r ymddiriedolwr
Help wrth lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd (yn Saesneg).
Os oes angen rhagor o help arnoch
Mae arweiniad mwy manwl ar ymddiriedolaethau a Threth Incwm (yn Saesneg).
Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn Saesneg) os oes angen help arnoch.