Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth

Mae’n rhaid cofrestru’r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau. Mae rhai achosion lle na fydd yn rhaid i chi gofrestru.

Nid oes yn rhaid i chi byth gofrestru ymddiriedolaeth a orfodwyd gan lys neu a grëwyd drwy ddeddfwriaeth.

Gallwch gael cyngor gan gyfreithiwr (yn Saesneg) neu ymgynghorydd treth (yn Saesneg) ynghylch pryd y dylid cofrestru ymddiriedolaeth.

Os yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi’r DU

Fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) os daw’n agored i unrhyw un o’r canlynol:

  • Treth Enillion Cyfalaf

  • Treth Incwm

  • Treth Etifeddiant

  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn

  • Treth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yn yr Alban)

  • Treth Trafodiadau Tir (yng Nghymru)

Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru ymddiriedolaeth er mwyn hawlio rhyddhad treth.

Ymddiriedolaethau dibreswyl

Mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth ddibreswyl (yn Saesneg) os daw’n agored i’r canlynol:

  • treth ar incwm yn y DU

  • treth ar asedion yn y DU

Os nad yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi’r DU

Mae’n rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth, hyd yn oed os nad yw’n agored i drethi’r DU – oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn wir.

Nid oes yn rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r ymddiriedolaeth yn dal arian neu asedion cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU – megis cynllun pensiwn galwedigaethol

  • mae’r ymddiriedolaeth yn dal polisïau bywyd neu ymddeoliad (ar yr amod mai dim ond yn sgil marwolaeth, salwch angheuol neu ddifrifol, neu anabledd parhaol y mae’r polisi’n talu, neu i dalu costau gofal iechyd y person sydd wedi’i yswirio)

  • mae’r ymddiriedolaeth yn dal buddiannau polisi yswiriant a gafwyd ar ôl marwolaeth y person sydd wedi’i yswirio (cyn belled â bod y buddiannau’n cael eu talu gan yr ymddiriedolaeth cyn pen 2 flynedd i’r farwolaeth)

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth elusennol sydd wedi’i chofrestru fel elusen yn y DU neu nad yw’n ofynnol iddi gofrestru fel elusen

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ‘beilot’ a sefydlwyd cyn 6 Hydref 2020 ac nid yw’n dal mwy na £100 – bydd angen i ymddiriedolaethau peilot a sefydlwyd ar neu ar ôl 6 Hydref 2020 gofrestru

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth gydberchnogol a sefydlwyd i ddal cyfrannau o eiddo neu asedion eraill a berchenogir ar y cyd gan 2 neu fwy o bobl ar eu rhan eu hunain fel ‘tenantiaid cydradd’

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ewyllys a grëwyd gan ewyllys person ac sy’n dod i rym adeg ei farwolaeth (ar yr amod mai dim ond am hyd at 2 flynedd ar ôl i’r person farw y mae’r ymddiriedolaeth yn dal asedion yr ystâd)

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ar gyfer plant mewn profedigaeth o dan 18 oed, neu oedolion 18 i 25 oed, a sefydlwyd o dan ewyllys (neu ddiewyllysedd) rhiant ymadawedig neu’r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ‘ariannol’ neu ‘fasnachol’ a grëwyd wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol neu gynnal trafodion busnes er mwyn dal arian neu asedion eraill i gleientiaid

Nid yw rhai cynhyrchion a threfniadau ariannol sydd ag ‘Ymddiriedolaeth’ yn eu disgrifiad (megis y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant neu Ymddiriedolaethau Cyfalaf Menter) yn ymddiriedolaethau mewn gwirionedd. Mynnwch gyngor gan gyfreithiwr (yn Saesneg) neu ymgynghorydd treth (yn Saesneg) os nad ydych yn siŵr.

Sut i gofrestru

Mae sut rydych yn cofrestru ymddiriedolaeth yn dibynnu a ydych yn:

Mae yna broses wahanol os oes angen i chi gofrestru ystâd rhywun sydd wedi marw.