Ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf

Treth Enillion Cyfalaf (yn Saesneg) yw treth ar yr elw (‘enillion’) pan fo rhywbeth (‘ased’) sydd wedi cynyddu mewn gwerth yn cael ei gymryd allan o ymddiriedolaeth neu’n cael ei roi i mewn i un.

Pryd mae’n bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy

Os rhoddir asedion i mewn i ymddiriedolaeth

Caiff treth ei thalu gan naill y person sy’n:

  • gwerthu’r ased i’r ymddiriedolaeth
  • trosglwyddo’r ased (y ‘setlwr’)

Os cymerir asedion allan o ymddiriedolaeth

Fel arfer, rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu’r dreth os ydynt yn gwerthu neu’n trosglwyddo asedion ar ran y buddiolwr.

Nid oes treth i’w thalu mewn ymddiriedolaethau gwag os yw’r asedion yn cael eu trosglwyddo i’r buddiolwr.

Weithiau, efallai y caiff ased ei drosglwyddo i rywun arall ond nid yw Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy. Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn marw ac mae ‘buddiant mewn meddiant’ yn dod i ben.

Mae buddiolwr yn cael rhywfaint o’r asedion, neu’r holl asedion, sydd mewn ymddiriedolaeth

Weithiau, daw ‘hawl absoliwt’ i fuddiolwr ymddiriedolaeth, a gall roi gwybod i’r ymddiriedolwyr beth i’w wneud â’r asedion, er enghraifft pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.

Yn yr achos hwn, mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf yn seiliedig ar werth marchnadol (yn Saesneg) yr asedion pan fo’r buddiolwr yn cael yr hawl iddynt.

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU

Mae’r rheolau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU (yn Saesneg) yn gymhleth. Gallwch gael help gyda’ch treth (yn Saesneg).

Cyfrifo cyfanswm yr enillion

Rhaid i ymddiriedolwyr gyfrifo cyfanswm yr enillion trethadwy (yn Saesneg) er mwyn gwybod a oes angen iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Costau a ganiateir

Gall ymddiriedolwyr ddidynnu costau er mwyn lleihau enillion - mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • cost yr eiddo (gan gynnwys unrhyw ffioedd gweinyddu)
  • ffioedd proffesiynol, er enghraifft ar gyfer cyfreithiwr neu brocer stoc
  • costau gwella eiddo neu dir er mwyn cynyddu ei werth, er enghraifft adeiladu ystafell wydr (ond nid atgyweirio neu gynnal a chadw rheolaidd)

Rhyddhad Treth

Mae’n bosibl y bydd ymddiriedolwyr yn gallu lleihau neu ohirio swm y dreth y mae’r ymddiriedolaeth yn ei thalu os yw’r enillion yn gymwys ar gyfer ryddhad treth.

Rhyddhad Disgrifiad
Rhyddhad Preswylfan Preifat (yn Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu eiddo y mae’r ymddiriedolaeth yn berchen arno. Mae’n rhaid iddo fod y prif fan preswylio ar gyfer rhywun sy’n cael byw yno o dan reolau’r ymddiriedolaeth.
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn Saesneg) Mae ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf o 10% ar enillion cymwys os ydynt yn gwerthu asedion a ddefnyddir ym musnes buddiolwr, sydd bellach wedi dod i ben. Mae’n bosibl iddynt hefyd cael rhyddhad pan fyddant yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni lle’r oedd gan y buddiolwr o leiaf 5% o’r cyfranddaliadau a’r hawliau pleidleisio.
Rhyddhad Daliol (yn Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw dreth os ydynt yn trosglwyddo asedion i’r buddiolwyr (neu ymddiriedolwyr eraill mewn rhai achosion). Mae’r derbynnydd yn talu treth pan fydd yn gwerthu neu’n gwaredu’r asedion, oni bai ei bod hefyd yn hawlio rhyddhad.

Lwfans rhydd o dreth

Dim ond os yw cyfanswm yr enillion trethadwy (yn Saesneg) yn fwy na lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’) y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau yw:

Os oes yna fwy nag un buddiolwr, gall y lwfans uwch fod yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt sy’n agored i niwed.

Gweler lwfansau rhydd o dreth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn Saesneg).

Mae’n bosibl i’r lwfans rhydd o dreth gael ei ostwng os yw setlwr yr ymddiriedolaeth wedi creu mwy nag un ymddiriedolaeth (‘setliad’) ers 6 Mehefin 1978.

Mae yna wybodaeth fwy manwl am Dreth Enillion Cyfalaf a Hunanasesiad ar gyfer ymddiriedolaethau (yn Saesneg).

Rhoi gwybod i CThEF am enillion

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eiddo preswyl yn y DU, a’i thalu, gan ddefnyddio cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU (yn Saesneg). Mae’n rhaid iddynt wneud hyn cyn pen:

  • 60 diwrnod o werthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau ar neu ar ôl 27 Hydref 2021
  • 30 diwrnod o werthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2020 a 26 Hydref 2021

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am asedion eraill sy’n cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

Ewch ati i lawrlwytho a llenwi ffurflen Treth Enillion Cyfalaf Ymddiriedolaeth ac Ystâd (SA905) (yn Saesneg) os ydych yn ymddiriedolwr ac yn anfon Ffurflen Dreth drwy’r post.

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.

Os oes angen rhagor o help arnoch

Mae yna arweiniad mwy manwl ar Dreth Enillion Cyfalaf (yn Saesneg).

Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn Saesneg) os oes angen help arnoch.