Ymddiriedolaethau a Threth Etifeddiant

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddiant ar ystâd person (ei arian a’i eiddo) pan fydd yn marw.

Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus ar 40% ar unrhyw beth sydd dros y trothwy (yn Saesneg) - ond mae yna gyfradd is, sef 36%, os yw ewyllys y person yn gadael mwy na 10% o’i ystâd i elusen.

Gall Treth Etifeddiant hefyd fod yn berthnasol pan eich bod yn fyw os ydych yn trosglwyddo peth o’ch ystâd i mewn i ymddiriedolaeth.

Pryd mae Treth Etifeddiant yn ddyledus

Y prif sefyllfaoedd lle mae Treth Etifeddiant yn ddyledus yw:

Yr hyn yr ydych yn talu Treth Etifeddiant arno

Rydych yn talu Treth Etifeddiant ar ‘eiddo perthnasol’ (yn Saesneg) - asedion megis arian, cyfranddaliadau, tai neu dir. Mae hyn yn cynnwys yr asedion yn y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau.

Mae yna rai achlysuron pan efallai na fydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant - er enghraifft pan fo’r ymddiriedolaeth yn cynnwys eiddo wedi’i eithrio (yn Saesneg).

Rheolau arbennig

Mae rhai mathau o ymddiriedolaethau yn cael eu trin yn wahanol ar gyfer Treth Etifeddiant.

Ymddiriedolaethau gwag

Gyda’r rhain, mae asedion mewn ymddiriedolaeth yn cael eu cadw yn enw ymddiriedolwr, ond maent yn mynd yn uniongyrchol i’r buddiolwr, sydd â hawl i asedion ac incwm yr ymddiriedolaeth.

Gall trosglwyddiadau i mewn i ymddiriedolaethau gwag hefyd fod wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant, cyn belled â bod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad dal yn fyw 7 mlynedd ar ôl gwneud y trosglwyddiad.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Yn yr ymddiriedolaethau hyn, mae gan y buddiolwr hawl i incwm yr ymddiriedolaeth wrth iddo gael ei gynhyrchu - gelwir hyn yn ‘fuddiant mewn meddiant’.

Nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu ar asedion a drosglwyddwyd i mewn i’r math hwn o ymddiriedolaeth cyn 22 Mawrth 2006.

Gall y tâl Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd fod yn ddyledus ar asedion a drosglwyddwyd ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006.

Yn ystod oes yr ymddiriedolaeth, nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu cyn belled â bod yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau i fod yn ‘fuddiant’ y buddiolwr.

Rhwng 22 Mawrth 2006 a 5 Hydref 2008:

  • gall buddiolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant drosglwyddo’u buddiant mewn meddiant i fuddiolwyr eraill, megis eu plant
  • gelwid hyn yn gwneud ‘buddiant cyfresol trosiannol’
  • does dim Treth Etifeddiant i’w thalu yn y sefyllfa hon

O 5 Hydref 2008 ymlaen:

  • ni all buddiolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant drosglwyddo’u buddiant fel buddiant cyfresol trosiannol
  • os yw buddiant yn cael ei drosglwyddo ar ôl y dyddiad hwn, mae’n bosibl y bydd tâl o 20% a thâl Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd yn daladwy oni bai ei fod yn ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl

Os ydych yn etifeddu ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant oddi wrth rywun sydd wedi marw, nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu ar achlysur 10 mlynedd. Yn lle hynny, bydd treth o 40% yn ddyledus pan fyddwch yn marw.

Os sefydlwyd yr ymddiriedolaeth gan ewyllys

Efallai y bydd rhywun yn gofyn bod rhai o’u hasedion, neu eu hasedion i gyd, yn cael eu rhoi i mewn i ymddiriedolaeth. Gelwir hyn yn ‘ymddiriedolaeth ewyllys’.

Rhaid i gynrychiolydd personol yr ymadawedig sicrhau bod yr ymddiriedolaeth wedi’i chreu yn y ffordd gywir, a bod yr holl drethi yn cael eu talu, a rhaid i’r ymddiriedolwyr sicrhau bod Treth Etifeddiant yn cael ei thalu ar unrhyw daliadau yn y dyfodol.

Os yw’r ymadawedig wedi trosglwyddo asedion i mewn i ymddiriedolaeth cyn iddo farw

Os ydych yn prisio ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi gael gwybod p’un a ydyw wedi gwneud unrhyw drosglwyddiadau yn ystod y 7 mlynedd cyn iddo farw. Os yw wedi gwneud hynny, ac mae wedi talu Treth Etifeddiant o 20%, bydd angen i chi dalu 20% ychwanegol o’r ystâd.

Hyd yn oed os nad oedd Treth Etifeddiant i’w thalu ar y trosglwyddiad, mae’n dal yn rhaid i chi ychwanegu ei werth at ystâd y person pan fyddwch yn ei phrisio at ddibenion Treth Etifeddiant.

Ymddiriedolaethau ar gyfer plant dan oed mewn profedigaeth

Plentyn dan oed mewn profedigaeth yw person o dan 18 oed sydd wedi colli o leiaf un rhiant neu lys riant. Pan fo ymddiriedolaeth wedi’i chreu ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth, nid oes taliadau Treth Etifeddiant os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r asedion yn yr ymddiriedolaeth wedi’u neilltuo ar gyfer y plentyn dan oed mewn profedigaeth yn unig
  • mae’n cael hawl llwyr i’r asedion erbyn iddo droi’n 18 oed

Gall ymddiriedolaeth ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth gael ei chreu fel ymddiriedolaeth 18 i 25 oed - nid yw’r tâl bob 10 mlynedd yn berthnasol. Fodd bynnag, dyma’r prif wahaniaethau:

  • rhaid i’r buddiolwr gael hawl llwyr i’r asedion yn yr ymddiriedolaeth erbyn iddo droi’n 25 oed
  • pan fo’r buddiolwr rhwng 18 oed a 25 oed, gall taliadau ymadael Treth Etifeddiant fod yn berthnasol

Ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr sy’n anabl

Nid oes tâl bob 10 mlynedd na thâl ymadael ar y math hwn o ymddiriedolaeth, cyn belled â bod yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau i fod yn ‘fuddiant’ y buddiolwr.

Hefyd, nid oes rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant wrth drosglwyddo asedion i mewn i ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl cyn belled â bod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad dal yn fyw 7 mlynedd ar ôl gwneud y trosglwyddiad.

Talu Treth Etifeddiant

Rydych yn talu Treth Etifeddiant (yn Saesneg) drwy ddefnyddio ffurflen IHT100.

Os ydych yn prisio ystâd rhywun sydd wedi marw, efallai y bydd angen i chi brisio asedion eraill ar wahân i ymddiriedolaethau i weld a oes Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Rhagor o help a gwybodaeth

Mae yna arweiniad mwy manwl ar ymddiriedolaethau a Threth Etifeddiant (yn Saesneg).

Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn Saesneg) os oes angen help arnoch.