Mathau o ymddiriedolaethau

Y prif fathau o ymddiriedolaethau yw:

  • ymddiriedolaethau gwag
  • ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant
  • ymddiriedolaethau amodol
  • ymddiriedolaethau cronnol
  • ymddiriedolaethau cymysg
  • ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr
  • ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl

Trethir bob math o ymddiriedolaeth yn wahanol. Mae ymddiriedolaeth yn cynnwys ‘ymddiriedolwr’, ‘setlwr’ a ‘buddiolwr’.

Ymddiriedolaethau gwag

Cedwir asedion mewn ymddiriedolaethau gwag yn enw ymddiriedolwr. Fodd bynnag, mae’r buddiolwr â’r hawl i gael holl gyfalaf ac incwm yr ymddiriedolaeth ar unrhyw adeg os yw’n 18 neu’n hŷn (yng Nghymru neu Lloegr), neu 16 neu’n hŷn (yn yr Alban). Mae hyn yn golygu bod yr asedion sydd wedi’u neilltuo gan setlwr bob tro’n mynd yn uniongyrchol i’r buddiolwr arfaethedig.

Defnyddir ymddiriedolaeth wag yn aml i drosglwyddo asedion i bobl ifanc - mae’r ymddiriedolwyr yn gofalu amdanynt hyd nes bod y buddiolwr yn ddigon hen.

Enghraifft

Rydych y gadael arian i’ch chwaer yn eich ewyllys. Cedwir yr arian mewn ymddiriedolaeth.

Mae hawl gan eich chwaer i’r arian ac i unrhyw incwm (er enghraifft llog) y mae’n ennill. Gall hi hefyd gymryd meddiant o’r arian ar unrhyw adeg.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Mae’r rhain yn ymddiriedolaethau lle bo’r ymddiriedolwr yn gorfod trosglwyddo holl incwm yr ymddiriedolaeth i’r buddiolwr fel y mae’n codi (llai unrhyw dreuliau).

Enghraifft

Rydych yn creu ymddiriedolaeth ar gyfer pob cyfranddaliad roeddech yn berchen arno.

Yn ôl telerau’r ymddiriedolaeth, mae’r incwm o’r cyfranddaliadau hynny yn mynd at eich gwraig am weddill ei hoes ar adeg eich marwolaeth. Pan mae hi’n marw, bydd y cyfranddaliadau yn mynd at eich plant.

Eich gwraig yw buddiolwr yr incwm ac mae ganddi ‘fuddiant mewn meddiant’ yn yr ymddiriedolaeth. Nid oes ganddi hawl i’r cyfranddaliadau eu hunain.

Ymddiriedolaethau amodol

Yn y rhain, gall ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau penodol ynghylch sut i ddefnyddio incwm yr ymddiriedolaeth, ac weithiau’r cyfalaf.

Yn ddibynnol ar y weithred ymddiriedolaeth, gall ymddiriedolwyr benderfynu:

  • beth sy’n cael ei dalu allan (incwm neu gyfalaf)
  • pa fuddiolwr i wneud taliadau iddo
  • pa mor aml y gwneir taliadau
  • unrhyw amodau i’w gosod ar y buddiolwyr

Crëir ymddiriedolaeth amodol weithiau er mwyn neilltuo asedion ar gyfer:

  • angen yn y dyfodol, megis ar gyfer ŵyr a allai fod angen mwy o help ariannol na buddiolwyr eraill ar ryw adeg yn ei fywyd
  • buddiolwyr sydd ddim â’r gallu, neu sydd ddim digon cyfrifol, i ddelio â’r arian eu hunain

Ymddiriedolaethau cronnol

Yn y rhain, gall yr ymddiriedolwyr gronni incwm o fewn yr ymddiriedolaeth a’i ychwanegu at gyfalaf yr ymddiriedolaeth. Mae’n bosibl y gallant hefyd dalu incwm allan, fel gydag ymddiriedolaeth amodol.

Ymddiriedolaethau cymysg

Mae’r rhain yn gyfuniad o fwy nag un math o ymddiriedolaeth. Mae’r rhannau gwahanol o’r ymddiriedolaeth yn cael eu trin yn ôl y rheolau treth sy’n gymwys i bob rhan.

Ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr

Yn y rhain mae’r setlwr neu ei briod neu ei bartner sifil yn elwa o’r ymddiriedolaeth. Gall yr ymddiriedolaeth fod yn:

  • ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant
  • ymddiriedolaeth gronnol
  • ymddiriedolaeth amodol

Enghraifft

Ni allwch weithio mwyach o ganlyniad i salwch. Gwnaethoch greu ymddiriedolaeth amodol er mwyn sicrhau bod gennych arian yn y dyfodol.

Chi yw’r setlwr - mae’n bosibl y byddwch hefyd yn elwa o’r ymddiriedolaeth oherwydd gall yr ymddiriedolwyr wneud taliadau i chi.

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl

Dyma ymddiriedolaeth lle nad yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Mae’r rheolau treth ar gyfer ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn Saesneg) yn gymhleth iawn.