Ymddiriedolaethau a threthi

Printable version

1. Trosolwg

Mae ymddiriedolaeth yn ddull o reoli asedion (arian, buddsoddiadau, tir neu eiddo) ar gyfer pobl. Mae gwahanol fathau o ymddiriedolaethau ac maent yn cael eu trethu’n wahanol.

Mae ymddiriedolaeth yn cynnwys:

  • y ‘setlwr’ - y person sy’n rhoi asedion i mewn i ymddiriedolaeth
  • yr ‘ymddiriedolwr’ - y person sy’n rheoli’r ymddiriedolaeth
  • y ‘buddiolwr’ - y person sy’n elwa o’r ymddiriedolaeth

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Yr hyn y mae ymddiriedolaethau ar ei gyfer

Caiff ymddiriedolaethau eu creu am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • er mwyn rheoli a diogelu asedion teuluol
  • pan mae rhywun yn rhy ifanc i ddelio â materion treth ei hunain
  • pan na all rhywun ddelio â materion treth ei hunain oherwydd analluogrwydd
  • er mwyn trosglwyddo asedion tra’ch bod dal yn fyw
  • er mwyn trosglwyddo asedion pan eich bod yn marw (‘ymddiriedolaeth ewyllys’)
  • o dan reolau etifeddiaeth os yw rhywun yn farw heb ewyllys (yng Nghymru a Lloegr)

Yr hyn y mae setlwr yn ei wneud

Mae setlwr yn penderfynu sut y dylai asedion mewn ymddiriedolaeth gael eu defnyddio - fel arfer nodir hyn mewn dogfen o’r enw ‘gweithred ymddiriedolaeth’.

Weithiau gall y setlwr hefyd gael buddiant o’r asedion mewn ymddiriedolaeth - gelwir hyn yn ymddiriedolaeth ‘pan fo buddiant gan y setlwr’ ac mae ganddo reolau treth arbennig. Dysgwch ragor drwy ddarllen yr wybodaeth am wahanol fathau o ymddiriedolaethau.

Yr hyn y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud

Yr ymddiriedolwyr yw perchnogion cyfreithlon yr asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth. Eu rôl yw:

  • delio â’r asedion yn unol â dymuniadau’r setlwr, fel y nodir yn y weithred ymddiriedolaeth neu ei ewyllys
  • rheoli’r ymddiriedolaeth o ddydd i ddydd a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus
  • penderfynu sut i fuddsoddi neu ddefnyddio asedion yr ymddiriedolaeth

Os yw’r ymddiriedolwyr yn newid, gall yr ymddiriedolaeth barhau o hyd, ond mae rhaid bod yna o leiaf un ymddiriedolwr drwy’r amser.

Buddiolwyr

Efallai y bydd mwy nag un buddiolwr, megis teulu cyfan neu grŵp penodol o bobl. Mae’n bosibl iddynt elwa o’r canlynol:

  • incwm o ymddiriedolaeth yn unig, er enghraifft o roi tŷ a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar osod
  • y cyfalaf yn unig, er enghraifft cael cyfranddaliadau a ddelir mewn ymddiriedolaeth wrth iddynt gyrraedd oedran penodol
  • yr incwm a’r cyfalaf a ddelir mewn ymddiriedolaeth

Os oes angen help arnoch

Cysylltwch â ymgynghorydd cyfreithiol (yn Saesneg) neu ymgynghorydd treth (yn Saesneg). Gallant hefyd siarad â Chyllid a Thollau EF (CThEF) ar eich rhan os ydych yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny.

Gallwch hefyd gael help gan y Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau.

2. Mathau o ymddiriedolaethau

Y prif fathau o ymddiriedolaethau yw:

  • ymddiriedolaethau gwag
  • ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant
  • ymddiriedolaethau amodol
  • ymddiriedolaethau cronnol
  • ymddiriedolaethau cymysg
  • ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr
  • ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl

Trethir bob math o ymddiriedolaeth yn wahanol. Mae ymddiriedolaeth yn cynnwys ‘ymddiriedolwr’, ‘setlwr’ a ‘buddiolwr’.

Ymddiriedolaethau gwag

Cedwir asedion mewn ymddiriedolaethau gwag yn enw ymddiriedolwr. Fodd bynnag, mae’r buddiolwr â’r hawl i gael holl gyfalaf ac incwm yr ymddiriedolaeth ar unrhyw adeg os yw’n 18 neu’n hŷn (yng Nghymru neu Lloegr), neu 16 neu’n hŷn (yn yr Alban). Mae hyn yn golygu bod yr asedion sydd wedi’u neilltuo gan setlwr bob tro’n mynd yn uniongyrchol i’r buddiolwr arfaethedig.

Defnyddir ymddiriedolaeth wag yn aml i drosglwyddo asedion i bobl ifanc - mae’r ymddiriedolwyr yn gofalu amdanynt hyd nes bod y buddiolwr yn ddigon hen.

Enghraifft

Rydych y gadael arian i’ch chwaer yn eich ewyllys. Cedwir yr arian mewn ymddiriedolaeth.

Mae hawl gan eich chwaer i’r arian ac i unrhyw incwm (er enghraifft llog) y mae’n ennill. Gall hi hefyd gymryd meddiant o’r arian ar unrhyw adeg.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Mae’r rhain yn ymddiriedolaethau lle bo’r ymddiriedolwr yn gorfod trosglwyddo holl incwm yr ymddiriedolaeth i’r buddiolwr fel y mae’n codi (llai unrhyw dreuliau).

Enghraifft

Rydych yn creu ymddiriedolaeth ar gyfer pob cyfranddaliad roeddech yn berchen arno.

Yn ôl telerau’r ymddiriedolaeth, mae’r incwm o’r cyfranddaliadau hynny yn mynd at eich gwraig am weddill ei hoes ar adeg eich marwolaeth. Pan mae hi’n marw, bydd y cyfranddaliadau yn mynd at eich plant.

Eich gwraig yw buddiolwr yr incwm ac mae ganddi ‘fuddiant mewn meddiant’ yn yr ymddiriedolaeth. Nid oes ganddi hawl i’r cyfranddaliadau eu hunain.

Ymddiriedolaethau amodol

Yn y rhain, gall ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau penodol ynghylch sut i ddefnyddio incwm yr ymddiriedolaeth, ac weithiau’r cyfalaf.

Yn ddibynnol ar y weithred ymddiriedolaeth, gall ymddiriedolwyr benderfynu:

  • beth sy’n cael ei dalu allan (incwm neu gyfalaf)
  • pa fuddiolwr i wneud taliadau iddo
  • pa mor aml y gwneir taliadau
  • unrhyw amodau i’w gosod ar y buddiolwyr

Crëir ymddiriedolaeth amodol weithiau er mwyn neilltuo asedion ar gyfer:

  • angen yn y dyfodol, megis ar gyfer ŵyr a allai fod angen mwy o help ariannol na buddiolwyr eraill ar ryw adeg yn ei fywyd
  • buddiolwyr sydd ddim â’r gallu, neu sydd ddim digon cyfrifol, i ddelio â’r arian eu hunain

Ymddiriedolaethau cronnol

Yn y rhain, gall yr ymddiriedolwyr gronni incwm o fewn yr ymddiriedolaeth a’i ychwanegu at gyfalaf yr ymddiriedolaeth. Mae’n bosibl y gallant hefyd dalu incwm allan, fel gydag ymddiriedolaeth amodol.

Ymddiriedolaethau cymysg

Mae’r rhain yn gyfuniad o fwy nag un math o ymddiriedolaeth. Mae’r rhannau gwahanol o’r ymddiriedolaeth yn cael eu trin yn ôl y rheolau treth sy’n gymwys i bob rhan.

Ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr

Yn y rhain mae’r setlwr neu ei briod neu ei bartner sifil yn elwa o’r ymddiriedolaeth. Gall yr ymddiriedolaeth fod yn:

  • ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant
  • ymddiriedolaeth gronnol
  • ymddiriedolaeth amodol

Enghraifft

Ni allwch weithio mwyach o ganlyniad i salwch. Gwnaethoch greu ymddiriedolaeth amodol er mwyn sicrhau bod gennych arian yn y dyfodol.

Chi yw’r setlwr - mae’n bosibl y byddwch hefyd yn elwa o’r ymddiriedolaeth oherwydd gall yr ymddiriedolwyr wneud taliadau i chi.

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl

Dyma ymddiriedolaeth lle nad yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Mae’r rheolau treth ar gyfer ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn Saesneg) yn gymhleth iawn.

3. Ymddiriedolaethau rhieni ar gyfer plant

Ymddiriedolaethau yw’r rhain a grëir gan rieni ar gyfer plant sydd o dan 18 oed ac nad ydynt erioed wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Nid ydynt yn fath o ymddiriedolaeth yn eu hunain ond byddant yn un o’r canlynol:

  • ymddiriedolaeth wag
  • ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant
  • ymddiriedolaeth gronnol
  • ymddiriedolaeth amodol

Darllenwch yr wybodaeth ar y mathau o ymddiriedolaeth i ddysgu rhagor.

Treth Incwm

Caiff Treth Incwm ar incwm o’r ymddiriedolaeth ei thalu gan yr ymddiriedolwyr, ond y ‘setlwr’ sy’n gyfrifol amdani. Mae hyn yn golygu:

  1. Mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Incwm ar incwm yr ymddiriedolaeth drwy lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

  2. Maent yn rhoi datganiad i’r setlwr o’r holl incwm a’r cyfraddau treth a godir arno.

  3. Mae’r setlwr yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y dreth mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu ar ei ran wrth lenwi’i Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

4. Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed

Mae rhai ymddiriedolaethau ar gyfer plant neu bobl ag anabledd yn cael triniaeth treth arbennig. Gelwir y rhain yn ‘ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr sy’n agored i niwed’.

Pwy sy’n gymwys fel buddiolwr sy’n agored i niwed

Buddiolwr sy’n agored i niwed yw rhywun sydd naill ai o dan 18 oed sydd â rhiant wedi marw neu berson anabl sy’n gymwys ar gyfer unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol (hyd yn oed os nad yw’n eu cael):

Gall buddiolwr sy’n agored i niwed hefyd fod yn rhywun na all reoli’i faterion ei hun oherwydd cyflwr iechyd meddwl - gwiriwch gyda gweithiwr meddygol proffesiynol ei fod wedi’i gwmpasu gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Ymddiriedolaethau sy’n gymwys ar gyfer triniaeth treth arbennig

Nid yw ymddiriedolaeth yn gymwys ar gyfer triniaeth Treth Incwm arbennig os yw’r person sy’n ei chreu yn gallu elwa o incwm yr ymddiriedolaeth. Fodd bynnag, o 2008 i 2009 byddai’n gymwys ar gyfer triniaeth Treth Enillion Cyfalaf arbennig.

Fel arfer caiff ymddiriedolaethau ar gyfer plant sydd wedi colli rhiant eu creu yn ôl ewyllys rhiant, neu yn ôl rheolau arbennig etifeddiaeth os nad oes ewyllys.

Os yw rhywun yn marw heb ewyllys yn yr Alban, mae ymddiriedolaeth a grëwyd yno ar gyfer eu plant fel arfer yn cael ei thrin fel ymddiriedolaethau gwag at ddibenion treth.

Os oes mwy nag un buddiolwr

Os oes buddiolwyr sydd ddim yn agored i niwed, mae’n rhaid i’r asedion a’r incwm ar gyfer y buddiolwr sy’n agored i niwed:

  • wedi eu nodi a’u cadw ar wahân
  • eu defnyddio ar gyfer y person hwnnw yn unig

Dim ond y rhan honno o’r ymddiriedolaeth sy’n cael triniaeth treth arbennig.

Hawlio triniaeth treth arbennig

Er mwyn hawlio triniaeth arbennig ar gyfer Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf, rhaid i’r ymddiriedolwyr lenwi’r ffurflen ‘Dewis Person sy’n Agored i Niwed’.

Os oes mwy nag un buddiolwr sy’n agored i niwed, mae angen ffurflen ar wahân ar bob un ohonynt.

Rhaid i’r ymddiriedolwyr a’r buddiolwr lofnodi’r ffurflen.

Os yw’r person sy’n agored i niwed yn marw neu os nad yw’n agored i niwed mwyach, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr roi gwybod i CThEF (yn Saesneg).

Treth Incwm

Mewn ymddiriedolaeth sydd â buddiolwr sy’n agored i niwed, mae’r ymddiriedolwyr â’r hawl i gael didyniad yn eu Treth Incwm. Fe’i cyfrifir drwy’r dull canlynol:

  1. Mae ymddiriedolwyr yn cyfrifo beth fyddai Treth Incwm eu hymddiriedolaeth os nad oedd hawliad am driniaeth arbennig - bydd hyn yn newid yn ôl pa fath o ymddiriedolaeth ydyw.

  2. Maent wedyn yn cyfrifo’r Dreth Incwm y byddai’r person sy’n agored i niwed wedi ei thalu pe bai incwm yr ymddiriedolaeth wedi’i dalu yn uniongyrchol iddynt fel unigolyn.

  3. Gallant yna hawlio’r gwahaniaeth rhwng y 2 ffigur hyn fel didyniad o’u rhwymedigaeth Treth Incwm eu hunain.

Mae hwn yn gyfrifiad cymhleth ond mae enghraifft fanwl wedi’i chyfrifo (yn Saesneg) ar wefan CThEF.

Treth Enillion Cyfalaf

Mae’n bosibl bydd Treth Enillion Cyfalaf (yn Saesneg) yn ddyledus os yw asedion yn cael eu gwerthu, eu rhoi, eu cyfnewid neu eu trosglwyddo mewn dull arall a bod eu gwerth wedi cynyddu ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth.

Dim ond os yw’r asedion wedi cynyddu mewn gwerth dros lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’) y mae ymddiriedolwyr yn talu’r dreth.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau yw:

  • £6,000 ar gyfer pobl sy’n agored i niwed
  • £3,000 ar gyfer ymddiriedolwyr eraill

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus. Os yw’r ymddiriedolaeth ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, gall ymddiriedolwyr hawlio gostyngiad, a hynny drwy’r dull canlynol:

  1. Maent yn cyfrifo’r hyn y byddent yn ei dalu os nad oedd gostyngiad.

  2. Maent wedyn yn cyfrifo beth fyddai’r buddiolwr wedi ei dalu pe bai’r enillion wedi dod yn uniongyrchol atynt.

  3. Gallant hawlio’r gwahaniaeth rhwng y 2 ffigur hyn fel gostyngiad ar yr hyn sydd yn rhaid iddynt ei dalu mewn Treth Enillion Cyfalaf drwy ddefnyddio ffurflen SA905 (yn Saesneg).

Nid yw’r driniaeth Treth Enillion Cyfalaf arbennig hon yn berthnasol yn y flwyddyn dreth y bu farw’r buddiolwr ynddi.

Treth Etifeddiant

Dyma’r sefyllfaoedd pan mae ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yn cael triniaeth Treth Etifeddiant (yn Saesneg) arbennig:

  • ar gyfer person anabl sydd ag ymddiriedolaeth a grëwyd cyn 8 Ebrill 2013 - rhaid i o leiaf hanner y taliadau o’r ymddiriedolaeth fynd at y person anabl yn ystod ei oes
  • ar gyfer person anabl sydd ag ymddiriedolaeth a grëwyd ar ôl 8 Ebrill 2013 - rhaid i’r taliadau fynd at y person anabl, ar wahân i £3,000 y flwyddyn (neu 3% o’r asedion, os yw’n is) a all gael eu defnyddio er budd rhywun arall
  • pan mae rhywun sydd â chyflwr a ddisgwylir eu gwneud yn anabl yn sefydlu ymddiriedolaeth drosto’i hun
  • ar gyfer plentyn dan oed a brofodd brofedigaeth - rhaid iddynt gymryd yr asedion a’r incwm i gyd pan mae’n troi’n 18 oed (neu cyn troi’n 18 oed)

Ni chodir Treth Etifeddiant:

  • os yw’r person a wnaeth greu’r ymddiriedolaeth yn dal i fyw 7 mlynedd ar ôl y dyddiad creu
  • ar drosglwyddiadau a wnaed allan o ymddiriedolaeth i fuddiolwr sy’n agored i niwed

Pan mae buddiolwr yn marw, caiff unrhyw asedion a ddelir yn yr ymddiriedolaeth ar ei ran eu trin fel rhan o’r ystâd a gellir codi Treth Etifeddiant.

Fel arfer mae Treth Etifeddiant yn cael ei chodi bob 10 mlynedd ar ymddiriedolaethau, ond mae eithriad o ran ymddiriedolaethau sydd â buddiolwyr sy’n agored i niwed.

5. Ymddiriedolaethau a Threth Incwm

Mae incwm o wahanol fathau o ymddiriedolaethau yn agored i wahanol gyfraddau o Dreth Incwm.

Trethir pob math o ymddiriedolaeth yn wahanol. Mae ymddiriedolaethau yn cynnwys ‘ymddiriedolwr’, ‘setlwr’ a ‘buddiolwr’.

Ymddiriedolaethau cronnol neu amodol

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am dalu treth ar incwm a gafwyd gan ymddiriedolaethau cronnol neu ymddiriedolaethau amodol. Trethir y £1,000 cyntaf ar y gyfradd safonol.

Os oes gan y setlwr fwy nag un ymddiriedolaeth, rhannir y £1,000 hwn rhwng y nifer o ymddiriedolaethau sydd gan y setlwr. Fodd bynnag, os oes gan y setlwr 5 ymddiriedolaeth neu fwy, yr haen gyfradd safonol ar gyfer bob ymddiriedolaeth yw £200.

Mae’r cyfraddau treth i’w gweld isod.

Incwm yr ymddiriedolaeth hyd at £1,000

Math o incwm Cyfradd dreth
Incwm o fath difidend 8.75%
Pob incwm arall 20%

Incwm yr ymddiriedolaeth dros £1,000

Math o incwm Cyfradd dreth
Incwm o fath difidend 39.35%
Pob incwm arall 45%

Difidendau

Nid yw ymddiriedolwyr yn gymwys ar gyfer y lwfans difidend (yn Saesneg). Mae hyn yn golygu bod ymddiriedolwyr yn talu treth ar bob difidend yn ddibynnol ar yr haen draeth y maent yn dod o dani.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu Treth Incwm ar y cyfraddau isod.

Math o incwm Cyfradd Treth Incwm
Incwm o fath difidend 8.75%
Pob incwm arall 20%

Weithiau, mae ymddiriedolwyr yn ‘mandadu’ incwm i’r buddiolwr. Mae hyn yn golygu ei fod yn mynd y syth i’r buddiolwr yn hytrach na chael ei drosglwyddo drwy’r ymddiriedolwyr.

Os bydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid i’r buddiolwr ei gynnwys ar ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad (yn Saesneg) a thalu treth arno.

Ymddiriedolaethau gwag

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag, chi sy’n gyfrifol am dalu treth ar incwm ohoni.

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.

Ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr

Mae’r setlwr yn gyfrifol am Dreth Incwm ar yr ymddiriedolaethau hyn, hyd yn oed os nad yw peth o’r incwm yn cael ei dalu allan iddo. Fodd bynnag, caiff y Dreth Incwm ei thalu gan yr ymddiriedolwyr fel y maent yn cael yr incwm.

  1. Mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Incwm ar incwm yr ymddiriedolaeth drwy lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

  2. Maent yn rhoi datganiad i’r setlwr o’r holl incwm a’r cyfraddau treth a godir arno.

  3. Mae’r setlwr yn rhoi gwybod i CThEF am y dreth y mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu ar ei ran ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Mae’r gyfradd Treth Incwm yn ddibynnol ar ba fath o ymddiriedolaeth yw’r ymddiriedolaeth pan fo buddiant gan setlwr.

Mathau eraill o ymddiriedolaethau

Mae rheolau arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau rhieni ar gyfer plant, ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed ac ymddiriedolaethau lle nad yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Gelwir y rhain yn ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn Saesneg).

Os mai chi yw’r buddiolwr

Yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth a’ch incwm, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio peth o’r Incwm Treth yn ôl.

Os mai chi yw’r ymddiriedolwr

Help wrth lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd (yn Saesneg).

Os oes angen rhagor o help arnoch

Mae arweiniad mwy manwl ar ymddiriedolaethau a Threth Incwm (yn Saesneg).

Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn Saesneg) os oes angen help arnoch.

6. Ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf

Treth Enillion Cyfalaf (yn Saesneg) yw treth ar yr elw (‘enillion’) pan fo rhywbeth (‘ased’) sydd wedi cynyddu mewn gwerth yn cael ei gymryd allan o ymddiriedolaeth neu’n cael ei roi i mewn i un.

Pryd mae’n bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy

Os rhoddir asedion i mewn i ymddiriedolaeth

Caiff treth ei thalu gan naill y person sy’n:

  • gwerthu’r ased i’r ymddiriedolaeth
  • trosglwyddo’r ased (y ‘setlwr’)

Os cymerir asedion allan o ymddiriedolaeth

Fel arfer, rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu’r dreth os ydynt yn gwerthu neu’n trosglwyddo asedion ar ran y buddiolwr.

Nid oes treth i’w thalu mewn ymddiriedolaethau gwag os yw’r asedion yn cael eu trosglwyddo i’r buddiolwr.

Weithiau, efallai y caiff ased ei drosglwyddo i rywun arall ond nid yw Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy. Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn marw ac mae ‘buddiant mewn meddiant’ yn dod i ben.

Mae buddiolwr yn cael rhywfaint o’r asedion, neu’r holl asedion, sydd mewn ymddiriedolaeth

Weithiau, daw ‘hawl absoliwt’ i fuddiolwr ymddiriedolaeth, a gall roi gwybod i’r ymddiriedolwyr beth i’w wneud â’r asedion, er enghraifft pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.

Yn yr achos hwn, mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf yn seiliedig ar werth marchnadol (yn Saesneg) yr asedion pan fo’r buddiolwr yn cael yr hawl iddynt.

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU

Mae’r rheolau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU (yn Saesneg) yn gymhleth. Gallwch gael help gyda’ch treth (yn Saesneg).

Cyfrifo cyfanswm yr enillion

Rhaid i ymddiriedolwyr gyfrifo cyfanswm yr enillion trethadwy (yn Saesneg) er mwyn gwybod a oes angen iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Costau a ganiateir

Gall ymddiriedolwyr ddidynnu costau er mwyn lleihau enillion - mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • cost yr eiddo (gan gynnwys unrhyw ffioedd gweinyddu)
  • ffioedd proffesiynol, er enghraifft ar gyfer cyfreithiwr neu brocer stoc
  • costau gwella eiddo neu dir er mwyn cynyddu ei werth, er enghraifft adeiladu ystafell wydr (ond nid atgyweirio neu gynnal a chadw rheolaidd)

Rhyddhad Treth

Mae’n bosibl y bydd ymddiriedolwyr yn gallu lleihau neu ohirio swm y dreth y mae’r ymddiriedolaeth yn ei thalu os yw’r enillion yn gymwys ar gyfer ryddhad treth.

Rhyddhad Disgrifiad
Rhyddhad Preswylfan Preifat (yn Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu eiddo y mae’r ymddiriedolaeth yn berchen arno. Mae’n rhaid iddo fod y prif fan preswylio ar gyfer rhywun sy’n cael byw yno o dan reolau’r ymddiriedolaeth.
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn Saesneg) Mae ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf o 10% ar enillion cymwys os ydynt yn gwerthu asedion a ddefnyddir ym musnes buddiolwr, sydd bellach wedi dod i ben. Mae’n bosibl iddynt hefyd cael rhyddhad pan fyddant yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni lle’r oedd gan y buddiolwr o leiaf 5% o’r cyfranddaliadau a’r hawliau pleidleisio.
Rhyddhad Daliol (yn Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw dreth os ydynt yn trosglwyddo asedion i’r buddiolwyr (neu ymddiriedolwyr eraill mewn rhai achosion). Mae’r derbynnydd yn talu treth pan fydd yn gwerthu neu’n gwaredu’r asedion, oni bai ei bod hefyd yn hawlio rhyddhad.

Lwfans rhydd o dreth

Dim ond os yw cyfanswm yr enillion trethadwy (yn Saesneg) yn fwy na lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (a elwir yn ‘swm eithriedig blynyddol’) y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau yw:

Os oes yna fwy nag un buddiolwr, gall y lwfans uwch fod yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt sy’n agored i niwed.

Gweler lwfansau rhydd o dreth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn Saesneg).

Mae’n bosibl i’r lwfans rhydd o dreth gael ei ostwng os yw setlwr yr ymddiriedolaeth wedi creu mwy nag un ymddiriedolaeth (‘setliad’) ers 6 Mehefin 1978.

Mae yna wybodaeth fwy manwl am Dreth Enillion Cyfalaf a Hunanasesiad ar gyfer ymddiriedolaethau (yn Saesneg).

Rhoi gwybod i CThEF am enillion

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eiddo preswyl yn y DU, a’i thalu, gan ddefnyddio cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU (yn Saesneg). Mae’n rhaid iddynt wneud hyn cyn pen:

  • 60 diwrnod o werthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau ar neu ar ôl 27 Hydref 2021
  • 30 diwrnod o werthu’r eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2020 a 26 Hydref 2021

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am asedion eraill sy’n cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

Ewch ati i lawrlwytho a llenwi ffurflen Treth Enillion Cyfalaf Ymddiriedolaeth ac Ystâd (SA905) (yn Saesneg) os ydych yn ymddiriedolwr ac yn anfon Ffurflen Dreth drwy’r post.

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.

Os oes angen rhagor o help arnoch

Mae yna arweiniad mwy manwl ar Dreth Enillion Cyfalaf (yn Saesneg).

Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn Saesneg) os oes angen help arnoch.

7. Ymddiriedolaethau a Threth Etifeddiant

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddiant ar ystâd person (ei arian a’i eiddo) pan fydd yn marw.

Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus ar 40% ar unrhyw beth sydd dros y trothwy (yn Saesneg) - ond mae yna gyfradd is, sef 36%, os yw ewyllys y person yn gadael mwy na 10% o’i ystâd i elusen.

Gall Treth Etifeddiant hefyd fod yn berthnasol pan eich bod yn fyw os ydych yn trosglwyddo peth o’ch ystâd i mewn i ymddiriedolaeth.

Pryd mae Treth Etifeddiant yn ddyledus

Y prif sefyllfaoedd lle mae Treth Etifeddiant yn ddyledus yw:

Yr hyn yr ydych yn talu Treth Etifeddiant arno

Rydych yn talu Treth Etifeddiant ar ‘eiddo perthnasol’ (yn Saesneg) - asedion megis arian, cyfranddaliadau, tai neu dir. Mae hyn yn cynnwys yr asedion yn y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau.

Mae yna rai achlysuron pan efallai na fydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant - er enghraifft pan fo’r ymddiriedolaeth yn cynnwys eiddo wedi’i eithrio (yn Saesneg).

Rheolau arbennig

Mae rhai mathau o ymddiriedolaethau yn cael eu trin yn wahanol ar gyfer Treth Etifeddiant.

Ymddiriedolaethau gwag

Gyda’r rhain, mae asedion mewn ymddiriedolaeth yn cael eu cadw yn enw ymddiriedolwr, ond maent yn mynd yn uniongyrchol i’r buddiolwr, sydd â hawl i asedion ac incwm yr ymddiriedolaeth.

Gall trosglwyddiadau i mewn i ymddiriedolaethau gwag hefyd fod wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant, cyn belled â bod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad dal yn fyw 7 mlynedd ar ôl gwneud y trosglwyddiad.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Yn yr ymddiriedolaethau hyn, mae gan y buddiolwr hawl i incwm yr ymddiriedolaeth wrth iddo gael ei gynhyrchu - gelwir hyn yn ‘fuddiant mewn meddiant’.

Nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu ar asedion a drosglwyddwyd i mewn i’r math hwn o ymddiriedolaeth cyn 22 Mawrth 2006.

Gall y tâl Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd fod yn ddyledus ar asedion a drosglwyddwyd ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006.

Yn ystod oes yr ymddiriedolaeth, nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu cyn belled â bod yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau i fod yn ‘fuddiant’ y buddiolwr.

Rhwng 22 Mawrth 2006 a 5 Hydref 2008:

  • gall buddiolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant drosglwyddo’u buddiant mewn meddiant i fuddiolwyr eraill, megis eu plant
  • gelwid hyn yn gwneud ‘buddiant cyfresol trosiannol’
  • does dim Treth Etifeddiant i’w thalu yn y sefyllfa hon

O 5 Hydref 2008 ymlaen:

  • ni all buddiolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant drosglwyddo’u buddiant fel buddiant cyfresol trosiannol
  • os yw buddiant yn cael ei drosglwyddo ar ôl y dyddiad hwn, mae’n bosibl y bydd tâl o 20% a thâl Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd yn daladwy oni bai ei fod yn ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl

Os ydych yn etifeddu ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant oddi wrth rywun sydd wedi marw, nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu ar achlysur 10 mlynedd. Yn lle hynny, bydd treth o 40% yn ddyledus pan fyddwch yn marw.

Os sefydlwyd yr ymddiriedolaeth gan ewyllys

Efallai y bydd rhywun yn gofyn bod rhai o’u hasedion, neu eu hasedion i gyd, yn cael eu rhoi i mewn i ymddiriedolaeth. Gelwir hyn yn ‘ymddiriedolaeth ewyllys’.

Rhaid i gynrychiolydd personol yr ymadawedig sicrhau bod yr ymddiriedolaeth wedi’i chreu yn y ffordd gywir, a bod yr holl drethi yn cael eu talu, a rhaid i’r ymddiriedolwyr sicrhau bod Treth Etifeddiant yn cael ei thalu ar unrhyw daliadau yn y dyfodol.

Os yw’r ymadawedig wedi trosglwyddo asedion i mewn i ymddiriedolaeth cyn iddo farw

Os ydych yn prisio ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi gael gwybod p’un a ydyw wedi gwneud unrhyw drosglwyddiadau yn ystod y 7 mlynedd cyn iddo farw. Os yw wedi gwneud hynny, ac mae wedi talu Treth Etifeddiant o 20%, bydd angen i chi dalu 20% ychwanegol o’r ystâd.

Hyd yn oed os nad oedd Treth Etifeddiant i’w thalu ar y trosglwyddiad, mae’n dal yn rhaid i chi ychwanegu ei werth at ystâd y person pan fyddwch yn ei phrisio at ddibenion Treth Etifeddiant.

Ymddiriedolaethau ar gyfer plant dan oed mewn profedigaeth

Plentyn dan oed mewn profedigaeth yw person o dan 18 oed sydd wedi colli o leiaf un rhiant neu lys riant. Pan fo ymddiriedolaeth wedi’i chreu ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth, nid oes taliadau Treth Etifeddiant os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r asedion yn yr ymddiriedolaeth wedi’u neilltuo ar gyfer y plentyn dan oed mewn profedigaeth yn unig
  • mae’n cael hawl llwyr i’r asedion erbyn iddo droi’n 18 oed

Gall ymddiriedolaeth ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth gael ei chreu fel ymddiriedolaeth 18 i 25 oed - nid yw’r tâl bob 10 mlynedd yn berthnasol. Fodd bynnag, dyma’r prif wahaniaethau:

  • rhaid i’r buddiolwr gael hawl llwyr i’r asedion yn yr ymddiriedolaeth erbyn iddo droi’n 25 oed
  • pan fo’r buddiolwr rhwng 18 oed a 25 oed, gall taliadau ymadael Treth Etifeddiant fod yn berthnasol

Ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr sy’n anabl

Nid oes tâl bob 10 mlynedd na thâl ymadael ar y math hwn o ymddiriedolaeth, cyn belled â bod yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau i fod yn ‘fuddiant’ y buddiolwr.

Hefyd, nid oes rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant wrth drosglwyddo asedion i mewn i ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl cyn belled â bod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad dal yn fyw 7 mlynedd ar ôl gwneud y trosglwyddiad.

Talu Treth Etifeddiant

Rydych yn talu Treth Etifeddiant (yn Saesneg) drwy ddefnyddio ffurflen IHT100.

Os ydych yn prisio ystâd rhywun sydd wedi marw, efallai y bydd angen i chi brisio asedion eraill ar wahân i ymddiriedolaethau i weld a oes Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Rhagor o help a gwybodaeth

Mae yna arweiniad mwy manwl ar ymddiriedolaethau a Threth Etifeddiant (yn Saesneg).

Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn Saesneg) os oes angen help arnoch.

8. Buddiolwyr - talu ac adennill treth ar ymddiriedolaethau

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth, mae yna reolau gwahanol yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth drwy Hunanasesiad neu mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ad-daliad treth.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, a bod angen i chi wneud hynny, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.

Darllenwch yr wybodaeth ar y gwahanol fathau o ymddiriedolaeth er mwyn deall y prif wahaniaethau rhyngddynt. Os nad ydych yn siŵr pa fath o ymddiriedolaeth sydd gennych, gofynnwch i’r ymddiriedolwyr.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag, chi sy’n gyfrifol am ddatgan a thalu treth ar ei hincwm. Gwnewch hyn ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, a bod angen i chi wneud hynny, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Os mai chi yw buddiolwr y math hwn o ymddiriedolaeth, mae gennych hawl i’w hincwm (ar ôl treuliau) wrth iddo godi.

Os ydych yn gwneud cais am ddatganiad, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr roi gwybod i chi am y canlynol:

  • y gwahanol ffynonellau o incwm
  • faint o incwm rydych wedi ei gael
  • faint o dreth sydd wedi’i thalu ar yr incwm

Fel arfer, byddwch yn cael yr incwm drwy law yr ymddiriedolwyr, ond mae’n bosibl y byddant yn ei roi yn uniongyrchol i chi, heb dalu treth yn gyntaf. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid i chi ei gynnwys ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref y flwyddyn ar ôl i chi gael yr incwm.

Enghraifft

Cawsoch incwm o’r ymddiriedolaeth ym mis Awst 2022. Rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn 5 Hydref 2023.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol

Ni fydd arnoch unrhyw dreth ychwanegol. Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad er mwyn dangos yr incwm yr ydych yn ei gael o ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant, ond byddwch yn cael credyd ar gyfer y dreth y mae’r ymddiriedolwyr yn ei thalu. Mae hyn yn golygu nad yw’r incwm yn cael ei drethu dwywaith.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch

Bydd yn rhaid i chi dalu treth ychwanegol ar y gwahaniaeth rhwng y dreth y mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu a’r hyn yr ydych chi, fel trethdalwr cyfradd uwch, yn agored iddi. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo pan fyddwch yn gwneud eich Hunanasesiad.

Sut i adennill treth

Gallwch adennill y dreth a dalwyd ar y canlynol:

Bydd swm y lwfans yn cael ei ostwng os yw wedi cael ei ddefnyddio eisoes yn erbyn peth o’r incwm. Gelwir y lwfans sydd gennych dros ben yn ‘lwfans sydd ar gael’.

Os yw swm yr incwm yr ydych yn ei gael yn llai na’r lwfans sydd ar gael, neu’n gyfartal ag ef, gallwch adennill yr holl dreth a dalwyd.

Os yw swm yr incwm yr ydych yn ei gael yn fwy na’r lwfans sydd ar gael, gallwch ond hawlio’r dreth a dalwyd ar y lwfans sydd ar gael.

Enghraifft

Cawsoch incwm difidend o £10,000 gan ymddiriedolaeth yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023. Y lwfans difidend ar gyfer y flwyddyn honno oedd £2,000.

Rydych wedi defnyddio’ch lwfans personol, ond nid oes gennych incwm difidend arall, felly y lwfans difidend sydd ar gael yw £2,000. Mae’r ymddiriedolwyr wedi talu £875 o dreth ar y difidendau (£10,000 x 8.75%).

Gallwch adennill y dreth a dalwyd gan yr ymddiriedolwyr ar swm sy’n gyfartal â’r lwfans difidend sydd ar gael, felly gallwch adennill £175 (£2000 x 8.75%).

Os ydych yn drethdalwr Hunanasesiad bydd yr ad-daliad yn cael ei gyfrifo fel rhan o’ch Ffurflen Dreth.

Os nad ydych yn drethdalwr Hunanasesiad, gallwch adennill y dreth drwy ddefnyddio ffurflen R40.

Mae angen i chi wneud hawliad ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth.

Ymddiriedolaethau cronnol neu amodol

Yn yr ymddiriedolaethau hyn, caiff yr holl incwm a gafwyd gan fuddiolwyr ei drin fel petai wedi ei drethu eisoes ar 45%. Os ydych yn drethdalwr cyfradd ychwanegol, ni fydd rhagor o dreth i’w thalu.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio treth yn ôl ar incwm yr ymddiriedolaeth yr ydych wedi ei gael os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn drethdalwr
  • rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, sef 20%
  • rydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, sef 40%

Gallwch adennill y dreth sydd wedi’i thalu drwy ddefnyddio ffurflen R40. Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth, gallwch hawlio drwy Hunanasesiad.

Ymddiriedolaethau amodol pan fo buddiant gan setlwr

Os yw’r ymddiriedolaeth pan fo buddiant gan setlwr yn ymddiriedolaeth amodol, caiff taliadau a wnaed i briod neu bartner sifil y setlwr eu trin fel petaent wedi’u trethu eisoes ar 45%. Does dim rhagor o dreth i’w thalu. Fodd bynnag, yn wahanol i daliadau a wnaed o fathau eraill o ymddiriedolaethau, ni all y credyd treth gael ei hawlio’n ôl.

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl

Dyma ymddiriedolaeth lle nad yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Mae’r rheolau treth ar gyfer y math hwn o ymddiriedolaeth yn gymhleth iawn - mae arweiniad manwl ar gael yn ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn Saesneg).

Os yw cynllun pensiwn yn talu i mewn i ymddiriedolaeth

Pan fo cynllun pensiwn yn talu cyfandaliad trethadwym (yn Saesneg) i mewn i ymddiriedolaeth ar ôl i ddeiliad y pensiwn farw, trethir y taliad ar 45%.

Os ydych yn fuddiolwr sy’n cael taliad a ariannir gan y cyfandaliad hwn, byddwch chi’n cael eich trethu hefyd.

Gallwch hawlio’n ôl y dreth a dalwyd ar y cyfandaliad gwreiddiol - gwnewch hyn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn llenwi un, neu defnyddiwch ffurflen R40.

Bydd yr ymddiriedolaeth yn rhoi gwybod i chi beth yw’r swm sydd angen i roi gwybod amdano - fel arfer, bydd hwn yn fwy na’r swm rydych yn ei gael mewn gwirionedd.

9. Ymddiriedolwyr - cyfrifoldebau treth

Fel yr ymddiriedolwr, rydych yn gyfrifol am roi gwybod am dreth a’i thalu ar ran yr ymddiriedolaeth.

Os oes 2 neu fwy o ymddiriedolwyr, enwebwch un fel yr ‘ymddiriedolwr sy’n gweithredu’n bennaf’ i reoli treth yr ymddiriedolaeth. Mae’r ymddiriedolwyr eraill yn dal i fod yn atebol, a gellir codi treth a llog arnynt os nad yw’r ymddiriedolaeth yn talu.

Cofrestru ymddiriedolaeth

Ar ôl i ymddiriedolaeth ddod yn agored i dreth, rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth gyda Chyllid a Thollau EF.

Anfon Ffurflenni Treth

Rhaid i chi roi gwybod am incwm ac enillion yr ymddiriedolaeth ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad ymddiriedolaeth ac ystâd ar ôl diwedd bob blwyddyn dreth. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Gallwch hefyd cael help, er enghraifft gan CThEF neu drwy gael cyfrifydd i wneud eich Ffurflen Dreth ar eich rhan.

Ar ôl i chi anfon eich Ffurflen Dreth, bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch. Bydd angen i chi dalu’r bil Hunanasesiad erbyn y dyddiad cau.

Bydd angen i chi gasglu a chadw cofnodion (yn Saesneg) (er enghraifft, cyfriflenni banc) er mwyn llenwi’ch Ffurflen Dreth.

Rhoi gwybod i fuddiolwyr am dreth ac incwm

Os yw’r buddiolwr yn gwneud cais am un, mae’n rhaid i chi roi datganiad iddo sy’n dangos swm yr incwm a’r dreth a dalwyd gan yr ymddiriedolaeth. Gallwch ddefnyddio ffurflen R185 (trust) (yn Saesneg) i wneud hyn. Mae yna ffurflen wahanol os oes angen i chi roi datganiad i setlwr sy’n cadw buddiant (yn Saesneg).

Os oes mwy nag un buddiolwr, mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth hon i bob un ohonynt mewn perthynas â’r swm y mae bob un yn ei gael.

Taliadau budd-dal marwolaeth o gynllun pensiwn

Rhaid i chi roi gwybodaeth ychwanegol i’r buddiolwr os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

Defnyddiwch ffurflen R185 (LSDB) os ydych yn ymddiriedolwr. Mae yna ffurflen wahanol os ydych yn weinyddwr pensiwn.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r buddiolwr cyn pen 30 diwrnod.

Cyfrifoldebau eraill

Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am bethau eraill. Mae angen i chi wneud y canlynol:

Mae’ch cyfrifoldebau eraill fel ymddiriedolwr yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth ac unrhyw gyfarwyddiadau gan y person a greodd yr ymddiriedolaeth yn y weithred ymddiriedolaeth.

10. Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth

Mae’n rhaid cofrestru’r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau. Mae rhai achosion lle na fydd yn rhaid i chi gofrestru.

Nid oes yn rhaid i chi byth gofrestru ymddiriedolaeth a orfodwyd gan lys neu a grëwyd drwy ddeddfwriaeth.

Gallwch gael cyngor gan gyfreithiwr (yn Saesneg) neu ymgynghorydd treth (yn Saesneg) ynghylch pryd y dylid cofrestru ymddiriedolaeth.

Os yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi’r DU

Fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) os daw’n agored i unrhyw un o’r canlynol:

  • Treth Enillion Cyfalaf

  • Treth Incwm

  • Treth Etifeddiant

  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn

  • Treth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yn yr Alban)

  • Treth Trafodiadau Tir (yng Nghymru)

Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru ymddiriedolaeth er mwyn hawlio rhyddhad treth.

Ymddiriedolaethau dibreswyl

Mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth ddibreswyl (yn Saesneg) os daw’n agored i’r canlynol:

  • treth ar incwm yn y DU

  • treth ar asedion yn y DU

Os nad yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi’r DU

Mae’n rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth, hyd yn oed os nad yw’n agored i drethi’r DU – oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn wir.

Nid oes yn rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r ymddiriedolaeth yn dal arian neu asedion cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU – megis cynllun pensiwn galwedigaethol

  • mae’r ymddiriedolaeth yn dal polisïau bywyd neu ymddeoliad (ar yr amod mai dim ond yn sgil marwolaeth, salwch angheuol neu ddifrifol, neu anabledd parhaol y mae’r polisi’n talu, neu i dalu costau gofal iechyd y person sydd wedi’i yswirio)

  • mae’r ymddiriedolaeth yn dal buddiannau polisi yswiriant a gafwyd ar ôl marwolaeth y person sydd wedi’i yswirio (cyn belled â bod y buddiannau’n cael eu talu gan yr ymddiriedolaeth cyn pen 2 flynedd i’r farwolaeth)

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth elusennol sydd wedi’i chofrestru fel elusen yn y DU neu nad yw’n ofynnol iddi gofrestru fel elusen

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ‘beilot’ a sefydlwyd cyn 6 Hydref 2020 ac nid yw’n dal mwy na £100 – bydd angen i ymddiriedolaethau peilot a sefydlwyd ar neu ar ôl 6 Hydref 2020 gofrestru

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth gydberchnogol a sefydlwyd i ddal cyfrannau o eiddo neu asedion eraill a berchenogir ar y cyd gan 2 neu fwy o bobl ar eu rhan eu hunain fel ‘tenantiaid cydradd’

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ewyllys a grëwyd gan ewyllys person ac sy’n dod i rym adeg ei farwolaeth (ar yr amod mai dim ond am hyd at 2 flynedd ar ôl i’r person farw y mae’r ymddiriedolaeth yn dal asedion yr ystâd)

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ar gyfer plant mewn profedigaeth o dan 18 oed, neu oedolion 18 i 25 oed, a sefydlwyd o dan ewyllys (neu ddiewyllysedd) rhiant ymadawedig neu’r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol

  • mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ‘ariannol’ neu ‘fasnachol’ a grëwyd wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol neu gynnal trafodion busnes er mwyn dal arian neu asedion eraill i gleientiaid

Nid yw rhai cynhyrchion a threfniadau ariannol sydd ag ‘Ymddiriedolaeth’ yn eu disgrifiad (megis y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant neu Ymddiriedolaethau Cyfalaf Menter) yn ymddiriedolaethau mewn gwirionedd. Mynnwch gyngor gan gyfreithiwr (yn Saesneg) neu ymgynghorydd treth (yn Saesneg) os nad ydych yn siŵr.

Sut i gofrestru

Mae sut rydych yn cofrestru ymddiriedolaeth yn dibynnu a ydych yn:

Mae yna broses wahanol os oes angen i chi gofrestru ystâd rhywun sydd wedi marw.