Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hyn ar yr hysbysiad cosb anfonodd CThEF atoch.

Dylech gynnwys y slip talu o’r hysbysiad o gosb. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei ohirio os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu

Gallwch argraffu slip talu (yn agor tudalen Saesneg) i’w ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.