Debyd Uniongyrchol

Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich busnes i wneud taliad unigol.

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘X’. Mae hwn ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.