Talu cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr
Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Unwaith y byddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad cosbau TWE a dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i sicrhau bod y taliad wedi mynd allan ar y diwrnod cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, siaradwch â’ch banc.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.