Talu cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr

Printable version

1. Trosolwg

Mae gennych 30 diwrnod o’r dyddiad ar yr hysbysiad o gosb am dalu TWE yn hwyr i dalu’r gosb neu i apelio yn ei herbyn.

Talu nawr

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dulliau o dalu

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach.

2. Debyd Uniongyrchol

Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich busnes i wneud taliad unigol.

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘X’. Mae hwn ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.

3. Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.

Unwaith y byddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad cosbau TWE a dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Gwiriwch eich cyfrif i sicrhau bod y taliad wedi mynd allan ar y diwrnod cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, siaradwch â’ch banc.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Cyfeirnod

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘X’. Mae hwn ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y banc (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Dylai taliadau tramor fod mewn sterling ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

5. Â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘X’. Mae hwn ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu eich cosb yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.

6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen. Bydd angen i chi ddefnyddio slip talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) sydd wedi’i gynnwys gyda’r hysbysiad o gosb am dalu neu gyflwyno’n hwyr.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hyn ar yr hysbysiad cosb anfonodd CThEF atoch.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener) ac nid ar y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

7. Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hyn ar yr hysbysiad cosb anfonodd CThEF atoch.

Dylech gynnwys y slip talu o’r hysbysiad o gosb. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei ohirio os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu

Gallwch argraffu slip talu (yn agor tudalen Saesneg) i’w ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.

8. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Ewch ati i fwrw golwg dros eich cyfrif CThEF ar-lein i weld a yw’ch taliad wedi dod i law – dylai ddiweddaru cyn pen 6 diwrnod gwaith.

Gallwch hefyd fwrw golwg dros eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.

Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb gan CThEF.