Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen. Bydd angen i chi ddefnyddio slip talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) sydd wedi’i gynnwys gyda’r hysbysiad o gosb am dalu neu gyflwyno’n hwyr.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hyn ar yr hysbysiad cosb anfonodd CThEF atoch.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener) ac nid ar y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.