cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘X’. Mae hwn ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu eich cosb yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.