Debyd Uniongyrchol

Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol.

  • talu’ch bil yn awtomatig
  • gwneud taliad unigol

Talu’ch bil yn awtomatig

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig yn seiliedig ar y swm ar eich Ffurflen Dreth (a elwir hefyd yn Gyflwyniad Taliad Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg). Dim ond unwaith y bydd angen i chi drefnu’r Debyd Uniongyrchol.

Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.

Os ydych chi’n talu’n chwarterol, dylech barhau i gyflwyno Ffurflen Dreth fisol. Bydd CThEF yn casglu cyfanswm y taliad bob 3 mis.

Fel arfer bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • yn fuan ar ôl yr 22ain o’r mis
  • 4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth (os byddwch yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu fan bellaf. Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.

Pryd y gallwch ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol

Gallwch dalu’r taliadau canlynol gan ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol:

  • Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS)
  • Cyflwyniad o Daliadau’r Cyflogwr (EPS)
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
  • Ardoll Brentisiaethau (AL)
  • Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
  • Diweddariad Blwyddyn Gynharach

Ni allwch dalu’r taliadau canlynol gan ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol:

  • unrhyw log neu gosbau sydd arnoch
  • taliadau Ffurflen Dreth dros £20 miliwn

Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu i dalu’r taliadau hyn.

Gwneud taliad unigol

Bydd angen i chi drefnu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF drwy ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol.

Ewch ati i’w drefnu o leiaf:

  • 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad cau eich Ffurflen Dreth y tro cyntaf rydych ei wneud
  • 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad cau eich Ffurflen Dreth y tro nesaf, os ydych yn defnyddio’r un manylion banc

Bydd y taliadau yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NDDS’.

Cyfeirnod

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:

  • yn eich cyfrif CThEF ar-lein
  • ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)

Bydd yn rhaid i chi ychwanegu rhifau ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau bob tro y byddwch yn gwneud y canlynol

  • taliad cynnar (cyn y 6ed o’r mis treth neu’r chwarter mae’r taliad yn ddyledus)
  • taliad hwyr (ar neu ar ôl y 5ed o’r mis treth ar ôl i’r taliad fod yn ddyledus)

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.