Cyfeirnodau ar gyfer taliadau cynnar a hwyr

Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr:

  • drwy Ddebyd Uniongyrchol
  • drwy drosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
  • â siec drwy’r post

Mae angen i chi ddiweddaru’r cyfeirnod bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.

Os ydych yn talu drwy’r gwasanaeth ar-lein, bydd yn cyfrifo’r rhifau i chi.

Sut i gyfrifo’r rhifau ychwanegol

Mae pob mis a chwarter o’r flwyddyn dreth yn cael rhif. Mae’r 4 rhif rydych yn eu hychwanegu at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yn dibynnu a ydych yn talu:

  • bob mis
  • bob chwarter
  • bob blwyddyn

Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob mis o’r flwyddyn dreth.

Mis o’r flwyddyn dreth Cyfeirnod
6 Ebrill i 5 Mai 01
6 Mai i 5 Mehefin 02
6 Mehefin i 5 Gorffennaf 03
6 Gorffennaf i 5 Awst 04
6 Awst i 5 Medi 05
6 Medi i 5 Hydref 06
6 Hydref i 5 Tachwedd 07
6 Tachwedd i 5 Rhagfyr 08
6 Rhagfyr i 5 Ionawr 09
6 Ionawr i 5 Chwefror 10
6 Chwefror i 5 Mawrth 11
6 Mawrth i 5 Ebrill 12

Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob chwarter o’r flwyddyn dreth.

Chwarter o’r flwyddyn treth Cyfeirnod
6 Ebrill i 5 Gorffennaf 03
6 Gorffennaf i 5 Hydref 06
6 Hydref i 5 Ionawr 09
6 Ionawr i 5 Ebrill 12

Os ydych yn talu’n fisol

Dyma’r 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
  • rhif y mis o’r flwyddyn dreth mae eich taliad ar ei gyfer

Enghraifft

Os bydd angen i chi dalu ar gyfer y mis o 6 Mai i 5 Mehefin 2022, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yw 2302. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2023 = 23
  • y mis rydych yn talu ar ei gyfer (6 Mai i 5 Mehefin 2022) yw ail fis blwyddyn dreth 2022 i 2023 = 02

Os ydych yn talu’n chwarterol

Dyma’r 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
  • rhif y mis o’r flwyddyn dreth pan ddaeth y chwarter i ben

Enghraifft

Os bydd angen i chi wneud taliad ar gyfer y chwarter sy’n cwmpasu 6 Gorffennaf i 5 Hydref 2022, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yw 2306. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2023 = 23
  • mae’r chwarter rydych yn talu ar ei gyfer (6 Gorffennaf i 5 Hydref 2022) yn dod i ben yn ystod y chweched mis o’r flwyddyn dreth = 06

Os ydych yn talu’n flynyddol

Dyma’r 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
  • y mis o’r flwyddyn dreth y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion

Enghraifft

Os gwnaethoch dalu’ch cyflogeion ar 8 Hydref 2022, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu yw 2307. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2023 = 23
  • y mis y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion (6 Hydref i 5 Tachwedd) yw’r seithfed mis o’r flwyddyn dreth = 07