Talu TWE y cyflogwr
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TWE (yn agor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn:
-
yr 22ain o’r mis treth nesaf os ydych yn talu bob mis
-
yr 22ain ar ôl diwedd y chwarter os ydych yn talu bob chwarter – er enghraifft, 22 Gorffennaf ar gyfer chwarter 6 Ebrill i 5 Gorffennaf
Os byddwch yn talu â siec drwy’r post, bydd yn rhaid iddi gyrraedd CThEF erbyn yr 19eg o’r mis.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr. Mae ffordd wahanol o dalu cosbau.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu ar-lein
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
-
ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr, bydd yn rhaid i chi ychwanegu 4 rhif at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau. Os byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd yn cyfrifo’r rhifau ar eich rhan.
Yr hyn rydych yn ei dalu
Gall eich bil TWE gynnwys y canlynol:
-
didyniadau Treth Incwm y cyflogai
-
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a Dosbarth 1B (yn agor tudalen Saesneg)
-
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar ddyfarniadau terfynu a thystebau chwaraeon
-
ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr
-
didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) (yn agor tudalen Saesneg)
-
eich taliadau Ardoll Brentisiaethau (yn dechrau o fis Ebrill 2017 ymlaen) os oes gennych chi, neu gyflogwyr rydych yn gysylltiedig â nhw, fil cyflog blynyddol o fwy na £3 miliwn
Rydych yn talu’ch Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion ar wahân.
Mae Cytundebau Setliad TWE hefyd yn cael eu talu ar wahân.
Dulliau o dalu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
-
bancio ar-lein neu fancio dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
3 diwrnod gwaith
-
taliad unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
4 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol awtomatig (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).
5 diwrnod gwaith
- taliad unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Llyfrynnau talu
Nid yw CThEF bellach yn anfon llyfrynnau talu wedi’u printio.
Gallwch barhau i dalu treth sy’n ddyledus o flwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu gan ddefnyddio llyfryn talu, os oes gennych un eisoes. I dalu treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, mae’n rhaid i chi ddewis dull arall o dalu.
2. Debyd Uniongyrchol
Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol.
- talu’ch bil yn awtomatig
- gwneud taliad unigol
Talu’ch bil yn awtomatig
Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig yn seiliedig ar y swm ar eich Ffurflen Dreth (a elwir hefyd yn Gyflwyniad Taliad Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg). Dim ond unwaith y bydd angen i chi drefnu’r Debyd Uniongyrchol.
Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.
Os ydych chi’n talu’n chwarterol, dylech barhau i gyflwyno Ffurflen Dreth fisol. Bydd CThEF yn casglu cyfanswm y taliad bob 3 mis.
Fel arfer bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:
- yn fuan ar ôl yr 22ain o’r mis
- 4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth (os byddwch yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu fan bellaf. Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.
Pryd y gallwch ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol
Gallwch dalu’r taliadau canlynol gan ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol:
- Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS)
- Cyflwyniad o Daliadau’r Cyflogwr (EPS)
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
- Ardoll Brentisiaethau (AL)
- Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
- Diweddariad Blwyddyn Gynharach
Ni allwch dalu’r taliadau canlynol gan ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol:
- unrhyw log neu gosbau sydd arnoch
- taliadau Ffurflen Dreth dros £20 miliwn
Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu i dalu’r taliadau hyn.
Gwneud taliad unigol
Bydd angen i chi drefnu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF drwy ddefnyddio’r math hwn o Ddebyd Uniongyrchol.
Ewch ati i’w drefnu o leiaf:
- 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad cau eich Ffurflen Dreth y tro cyntaf rydych ei wneud
- 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad cau eich Ffurflen Dreth y tro nesaf, os ydych yn defnyddio’r un manylion banc
Bydd y taliadau yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NDDS’.
Cyfeirnod
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
- yn eich cyfrif CThEF ar-lein
- ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Bydd yn rhaid i chi ychwanegu rhifau ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau bob tro y byddwch yn gwneud y canlynol
- taliad cynnar (cyn y 6ed o’r mis treth neu’r chwarter mae’r taliad yn ddyledus)
- taliad hwyr (ar neu ar ôl y 5ed o’r mis treth ar ôl i’r taliad fod yn ddyledus)
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch bil TWE yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad TWE.
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr fod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, siaradwch â’ch banc.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.
Cyfeirnod
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
- yn eich cyfrif CThEF ar-lein
- ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch drosglwyddo arian o’ch cyfrif banc drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001039
- enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB62 BARC 2011 4770 2976 90
- cod adnabod y banc (BIC) - BARCGB22
- enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Dylai taliadau tramor fod mewn sterling ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeirnod
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF
- yn y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Bydd angen i chi ychwanegu rhifau at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, bob tro y byddwch yn gwneud y canlynol:
- taliad cynnar (cyn y 6ed o’r mis treth neu’r chwarter mae’r taliad yn ddyledus)
- taliad hwyr (ar neu ar ôl y 5ed o’r mis treth ar ôl i’r taliad fod yn ddyledus)
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Sawl cynllun TWE
Anfonwch ffurflen ymholiadau CHAPS ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) os hoffech wneud taliad unigol drwy CHAPS ar gyfer mwy nag un cynllun TWE.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
5. Â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch dalu ar-lein.
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu’ch bil TWE y cyflogwr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.
Cyfeirnod
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF
- yn y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Fel bod modd talu yn eich cangen ag arian parod neu siec, bydd angen slip talu ar gyfer y cyfnod cywir arnoch a llyfryn talu gan CThEF.
Fel bod modd talu yn eich cangen ag arian parod neu siec, bydd angen slip talu ar gyfer y cyfnod cywir arnoch.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF.
7. Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec drwy’r post i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) os oes gennych lai na 250 o gyflogeion.
CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Cyfeirnod
Bydd angen i chi ysgrifennu eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, ar gefn y siec.
Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
-
yn eich cyfrif CThEF ar-lein
-
ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Bydd angen i chi ychwanegu rhifau at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, bob tro y byddwch yn gwneud y canlynol:
-
taliad cynnar (cyn y 6ed o’r mis treth neu’r chwarter mae’r taliad yn ddyledus)
-
taliad hwyr (ar neu ar ôl y 5ed o’r mis treth ar ôl i’r taliad fod yn ddyledus)
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Slip talu
Gallwch argraffu slip talu (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys hyn gyda’ch siec.
Dim ond er mwyn talu drwy’r post y gallwch ddefnyddio slip talu. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.
Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.
8. Cyfeirnodau ar gyfer taliadau cynnar a hwyr
Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr:
- drwy Ddebyd Uniongyrchol
- drwy drosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
- â siec drwy’r post
Mae angen i chi ddiweddaru’r cyfeirnod bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.
Os ydych yn talu drwy’r gwasanaeth ar-lein, bydd yn cyfrifo’r rhifau i chi.
Sut i gyfrifo’r rhifau ychwanegol
Mae pob mis a chwarter o’r flwyddyn dreth yn cael rhif. Mae’r 4 rhif rydych yn eu hychwanegu at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yn dibynnu a ydych yn talu:
- bob mis
- bob chwarter
- bob blwyddyn
Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob mis o’r flwyddyn dreth.
Mis o’r flwyddyn dreth | Cyfeirnod |
---|---|
6 Ebrill i 5 Mai | 01 |
6 Mai i 5 Mehefin | 02 |
6 Mehefin i 5 Gorffennaf | 03 |
6 Gorffennaf i 5 Awst | 04 |
6 Awst i 5 Medi | 05 |
6 Medi i 5 Hydref | 06 |
6 Hydref i 5 Tachwedd | 07 |
6 Tachwedd i 5 Rhagfyr | 08 |
6 Rhagfyr i 5 Ionawr | 09 |
6 Ionawr i 5 Chwefror | 10 |
6 Chwefror i 5 Mawrth | 11 |
6 Mawrth i 5 Ebrill | 12 |
Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob chwarter o’r flwyddyn dreth.
Chwarter o’r flwyddyn treth | Cyfeirnod |
---|---|
6 Ebrill i 5 Gorffennaf | 03 |
6 Gorffennaf i 5 Hydref | 06 |
6 Hydref i 5 Ionawr | 09 |
6 Ionawr i 5 Ebrill | 12 |
Os ydych yn talu’n fisol
Dyma’r 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau:
- 2 rif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
- rhif y mis o’r flwyddyn dreth mae eich taliad ar ei gyfer
Enghraifft
Os bydd angen i chi dalu ar gyfer y mis o 6 Mai i 5 Mehefin 2022, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yw 2302. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:
- mae’r flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2023 = 23
- y mis rydych yn talu ar ei gyfer (6 Mai i 5 Mehefin 2022) yw ail fis blwyddyn dreth 2022 i 2023 = 02
Os ydych yn talu’n chwarterol
Dyma’r 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau:
- 2 rif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
- rhif y mis o’r flwyddyn dreth pan ddaeth y chwarter i ben
Enghraifft
Os bydd angen i chi wneud taliad ar gyfer y chwarter sy’n cwmpasu 6 Gorffennaf i 5 Hydref 2022, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yw 2306. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:
- mae’r flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2023 = 23
- mae’r chwarter rydych yn talu ar ei gyfer (6 Gorffennaf i 5 Hydref 2022) yn dod i ben yn ystod y chweched mis o’r flwyddyn dreth = 06
Os ydych yn talu’n flynyddol
Dyma’r 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau:
- 2 rif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
- y mis o’r flwyddyn dreth y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion
Enghraifft
Os gwnaethoch dalu’ch cyflogeion ar 8 Hydref 2022, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu yw 2307. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:
- mae’r flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2023 = 23
- y mis y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion (6 Hydref i 5 Tachwedd) yw’r seithfed mis o’r flwyddyn dreth = 07
9. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law
Gwiriwch eich cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) – dylai ddiweddaru cyn pen 6 diwrnod gwaith ar ôl gwneud taliad.
Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb gan CThEF.
10. Rhoi gwybod i CThEF nad oes taliad yn ddyledus
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion am o leiaf un mis treth.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy lenwi Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi ei anfon erbyn y 19eg o’r mis yn dilyn y mis treth pan na thalwyd unrhyw gyflogeion.
Os na fyddwch yn anfon EPS, bydd CThEF yn anfon hysbysiad atoch yn amcangyfrif faint sydd arnoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw
Gallwch roi gwybod i CThEF na fyddwch yn talu unrhyw gyflogeion hyd at 12 mis ymlaen llaw (yn agor tudalen Saesneg).
Mae angen i gontractwyr yng Nghynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), nad oes ganddynt unrhyw daliadau i’w gwneud, roi gwybod i CThEF drwy ddatganiad CIS (yn agor tudalen Saesneg) a thrwy EPS. Mae angen i gontractwyr CIS gyda thaliadau i wneud gyflwyno datganiad CIS yn unig.