cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu’ch bil TWE y cyflogwr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.

Cyfeirnod

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:

  • yn eich cyfrif ar-lein CThEF
  • yn y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.