Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TWE (y nagor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn:

  • yr 22ain o’r mis treth nesaf os ydych yn talu bob mis
  • yr 22ain ar ôl diwedd y chwarter os ydych yn talu bob chwarter – er enghraifft, 22 Gorffennaf ar gyfer y chwarter 6 Ebrill i 5 Gorffennaf

Os byddwch yn talu â siec drwy’r post, bydd yn rhaid iddi gyrraedd CThEF erbyn y 19eg o’r mis.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os yw’ch taliad yn hwyr. Mae ffordd wahanol o dalu cosbau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu ar-lein

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:

  • yn eich cyfrif CThEF ar-lein
  • ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
  • ar flaen eich llyfryn talu, os oes gennych un

Bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr, bydd yn rhaid i chi ychwanegu 4 rhif at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau. Os byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd yn cyfrifo’r rhifau ar eich rhan.

Talu nawr

Yr hyn rydych yn ei dalu

Gall eich bil TWE gynnwys y canlynol:

Rydych yn talu’ch Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion ar wahân.

Mae Cytundebau Setliad TWE hefyd yn cael eu talu ar wahân.

Dulliau o dalu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

4 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).

5 diwrnod gwaith

  • taliad unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)

Llyfrynnau talu

Bydd angen llyfryn talu arnoch oddi wrth CThEF er mwyn talu yn eich banc, neu’ch cymdeithas adeiladu.

Nid yw CThEF bellach yn cyhoeddi llyfrynnau talu printiedig. Gallwch barhau i ddefnyddio’ch llyfryn talu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024).

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, ni allwch dalu yn eich banc neu gymdeithas adeiladu. Y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel o dalu ar-lein.