Gwnaethoch dalu’r swm anghywir i CThEF

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud i gywiro taliad yn ddibynnol ar p’un a wnaethoch dalu gormod neu rhy ychydig, a sut digwyddodd y gwall.

Os ydych wedi talu rhy ychydig i CThEF

Os gwnaethoch dandalu o ganlyniad i wall yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS), cywirwch hyn yn eich cyflwyniad rheolaidd nesaf. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ychwanegu’r tandaliad at eich bil TWE nesaf.

Os gwnaethoch dandalu oherwydd eich bod wedi nodi’r swm anghywir wrth dalu CThEF, talwch y gweddill cyn gynted â phosibl neu efallai bydd yn rhaid i chi dalu llog neu gosb. Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon wrth dalu.

Os ydych wedi talu gormod i CThEF

Os gwnaethoch ordalu o ganlyniad i gamgymeriad yn eich FPS neu’ch EPS, mae’n rhaid i chi gywiro hyn yn eich cyflwyniad rheolaidd nesaf. Bydd CThEF yn didynnu’r gordaliad o’ch bil TWE nesaf.

Os gwnaethoch ordalu oherwydd eich bod wedi nodi’r swm anghywir wrth dalu CThEF, neu oherwydd eich bod wedi gwneud taliad dyblyg, gallwch fantoli’ch cyfrif drwy dalu llai yn eich bil TWE nesaf.

Gallwch hefyd hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu. Bydd angen i chi gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF er mwyn gwneud hawliad.

Bydd CThEF yn ad-dalu’n syth i’ch cyfrif os ydych wedi anfon EPS (yn agor tudalen Saesneg) gyda’ch manylion banc.

Anfonwch eich manylion banc at CThEF drwy’r post os na allwch eu cynnwys gyda’ch EPS.

Adennill gordaliad ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol

Mae’n rhaid i chi gyfrifo pam eich bod wedi gordalu cyn y gallwch adennill gordaliad ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol.

Cyfrifo pam eich bod wedi gordalu

Cymharwch yr hyn yr ydych wedi’i dalu i CThEF gyda’r hyn a oedd arnoch yn eich cyfrif treth. Mae’n bosibl eich bod wedi gordalu os nad oedd eich taliadau yn ystyried y canlynol:

  • gordaliad wedi’i gario drosodd o flwyddyn dreth flaenorol

  • tâl statudol ar gyfer rhieni roedd gennych yr hawl i’w adennill

  • unrhyw ad-daliadau a wnaed i gyflogeion, er enghraifft oherwydd eich bod wedi defnyddio’r cod treth anghywir

  • unrhyw gywiriadau i’ch adroddiadau

  • didyniadau benthyciad myfyriwr

  • cyflogeion sydd wedi gadael, er enghraifft oherwydd na wnaethoch roi gwybod amdanynt i CThEF yn gywir

  • unrhyw gymelldaliadau oddi wrth CThEF i anfon adroddiadau ar-lein

  • unrhyw ddidyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (yn agor tudalen Saesneg) (CIS), neu os gwnaethoch ddidyniadau yn anghywir

Mae hefyd yn bosibl i chi fod wedi gordalu os gwnaethoch dalu CThEF:

  • ar gyfer y flwyddyn dreth anghywir

  • fwy nag unwaith ar gyfer yr un bil

  • swm amcangyfrifedig ymlaen llaw

Ar gyfer taliadau wedi’u dyblygu neu daliadau amcangyfrifedig, rhowch wybod i CThEF beth wnaethoch ei dalu, beth ddylech fod wedi’i dalu a pham y gwnaethoch dalu’r swm ychwanegol.

Gwneud eich hawliad

Unwaith eich bod yn gwybod pam yr ydych wedi gordalu, gallwch hawlio’ch ad-daliad gan CThEF. Bydd rhaid i chi roi gwybod iddynt:

  • enw a chyfeiriad eich busnes

  • eich cyfeirnod TWE - mae hwn yn eich llythyr cofrestru ar gyfer cyflogwr oddi wrth CThEF

  • eich rhif ffôn cyswllt

  • faint rydych wedi’i ordalu – ar gyfer pob blwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei chyfer

  • y mis treth y gwnaethoch ordalu ynddo (os yn bosibl)

  • pam rydych wedi gordalu – ar gyfer pob blwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei chyfer

  • p’un a ydych wedi hawlio’r gordaliad hwn o’r blaen

Bydd CThEF yn gosod y swm yn erbyn eich bil TWE yn y flwyddyn dreth bresennol. Os nad oes arnoch unrhyw beth, bydd CThEF yn gosod y swm yn erbyn:

  • bil TWE o flwyddyn dreth flaenorol

  • trethi eraill sydd arnoch, er enghraifft Treth Gorfforaeth

Cewch ad-daliad dim ond os nad oes arnoch dreth i CThEF.

Os yw’ch cwmni wedi’i ddiddymu neu wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr

Mae’n rhaid i chi wneud cais drwy lythyr os yw’ch cwmni wedi’i ddiddymu neu wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr. Cysylltwch â CThEF drwy’r post.

Dod o hyd i bryd i ddisgwyl ymateb am eich ad-daliad

Os ydych wedi gwneud cais am ad-daliad drwy’r post neu dros y ffôn, darganfyddwch pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF.