Nid yw’ch bil TWE yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl

Bob mis mae’n rhaid i chi dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) yr hyn sydd arnoch fel rhan o redeg y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer eich cyflogeion.

Mae yna bethau y dylech eu gwirio os nad yw’ch bil TWE yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl wrth i chi fwrw golwg dros eich cyfrif ar-lein.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Yr hyn i’w wirio

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS) neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) (EPS) mewn da bryd i’r cyfrif allu cael ei ddiweddaru.

Dylech hefyd wirio eich bod wedi gwneud y canlynol:

  • defnyddio’r dyddiad y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion ar eich adroddiad FPS, nid y dyddiad y gwnaethoch ei anfon
  • adrodd manylion eraill yn eich FPS yn gywir, er enghraifft cyflog a didyniadau
  • adrodd eich EPS yn gywir, er enghraifft er mwyn adennill unrhyw gyflog statudol
  • talu’r swm cywir i CThEF yn flaenorol - mae’n bosibl eich bod wedi talu gormod neu rhy ychydig os oedd eich adroddiadau yn anghywir

Cyflogeion yn dechrau ac yn gadael

Gwiriwch eich bod wedi rhoi gwybod yn gywir am unrhyw gyflogeion sy’n dechrau (yn agor tudalen Saesneg) neu gyflogeion sy’n gadael (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n bosibl y cewch fil anghywir a chofnodion cyflogres dyblyg os gwnaethoch gamgymeriad. Fel arfer, caiff y ddau eu cywiro’n awtomatig – cysylltwch â CThEF os yw’ch bil TWE yn dal i fod yn anghywir erbyn y 12fed o’r mis treth nesaf.

Cywiro gwallau

Os byddwch yn dod o hyd i gamgymeriad, dilynwch yr arweiniad er mwyn:

Gallwch hefyd gywiro camgymeriadau os gwnaethoch dalu’r swm anghywir i’ch cyflogai neu gwnaethoch ddidyniadau anghywir.

Help i gywiro’ch bil TWE

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch.