Datrys problemau gyda rhedeg cyflogres

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwnaethoch dalu’r swm anghywir i’ch cyflogai neu gwnaethoch y didyniadau anghywir

Gallwch gywiro camgymeriad gyda chyflog neu ddidyniadau cyflogai drwy ddiweddaru’r ffigurau blwyddyn hyd yma yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS) rheolaidd nesaf.

Gallwch hefyd ei gywiro drwy anfon FPS ychwanegol cyn bod eich FPS rheolaidd nesaf yn ddyledus. Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • diweddarwch y ffigurau ar gyfer y cyfnod cyflog hwn gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir
  • cywirwch y ffigurau am y flwyddyn hyd yma
  • rhowch yr un dyddiad talu â’r FPS gwreiddiol
  • rhowch yr un amlder talu â’r FPS gwreiddiol
  • rhowch ‘H - Cywiriad i gyflwyniad cynharach / H - Correction to earlier submission’ yn y maes ar gyfer nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr

Cywiro buddiant marwolaeth pensiwn neu daliad hyblyg

Os ydych yn weinyddwr pensiwn sydd angen cywiro taliad hyblyg neu daliad buddiant marwolaeth, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dewiswch y dynodydd ar gyfer taliad pensiwn hyblyg neu’r dynodydd ar gyfer taliad buddiant marwolaeth pensiwn
  • diweddarwch y maes ar gyfer taliad trethadwy pensiynau a godir o’r gronfa neu’r maes ar gyfer taliad nad yw’n drethadwy pensiynau a godir o’r gronfa (neu’r ddau), gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir

Os gwnaethoch dandalu’ch cyflogai

Talwch yr un swm i’ch cyflogai â’r un a dandalwyd gennych. Ar neu cyn diwrnod y taliad hwn, anfonwch FPS ychwanegol gyda’r canlynol:

  • y gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r swm cywir yn y maes ‘yn y cyfnod cyflog hwn’
  • ffigurau wedi’u diweddaru am y flwyddyn hyd yma
  • ‘H - Cywiriad i gyflwyniad cynharach / H - Correction to earlier submission’ yn y maes ar gyfer nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr

Cywiro didyniadau Yswiriant Gwladol cyflogai

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.

Os oedd y camgymeriad yn ystod y flwyddyn dreth hon

Ad-dalwch neu didynnwch y balans oddi wrth eich cyflogai. Diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma i’r swm cywir yn eich FPS rheolaidd nesaf neu anfonwch FPS ychwanegol.

Os na wnaethoch ddidynnu digon, ni allwch adennill mwy na chyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogai a oedd yn ddyledus y mis hwnnw.

Enghraifft:

Gwnaethoch ddidynnu £100 yn llai nag y dylech ym mis Ionawr. Ym mis Chwefror, mae’ch meddalwedd yn cyfrifo didyniad Yswiriant Gwladol sy’n £80. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu adennill hyd at £80 tuag at dandaliad y mis hwnnw (didyniad sy’n dod i gyfanswm o £160).

Adenillwch yr £20 sy’n weddill mewn mis arall.

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2020 a 05 Ebrill 2024

Anfonwch FPS gyda’r swm y dylech fod wedi ei ddidynnu.

Bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r gwahaniaeth yn negyddol oherwydd eich bod wedi didynnu gormod o Yswiriant Gwladol, neu wedi rhoi gwybod am ormod ohono
  • mae arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd, er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth

Yn eich llythyr bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • y cyfeirnod ‘Cyfraniadau YG a ordalwyd’
  • enw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol eich cyflogai
  • pam y gwnaethoch ordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • ym mha flynyddoedd treth y gwnaethoch ordalu
  • faint o Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ordalu
  • pam na allwch wneud y taliad i’r cyflogai

Ar gyfer hawliad am un cyflogai neu fwy nag un cyflogai, anfonwch y llythyr at:

Cyllid a Thollau EF
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2018 a 5 Ebrill 2020

Anfonwch FPS gyda’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch meddalwedd gyflogres yn eich galluogi i gyflwyno FPS
  • gallwch dalu unrhyw ad-daliadau Yswiriant Gwladol sydd arnoch

Os na allwch ddefnyddio FPS, anfonwch Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) gyda’r gwahaniaeth rhwng y canlynol:

  • swm yr Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ddidynnu’n wreiddiol
  • y swm cywir y dylech fod wedi ei ddidynnu

Os yw’r gwahaniaeth yn negyddol (oherwydd eich bod wedi nodi gormod wrth roi gwybod am Yswiriant Gwladol neu wedi didynnu gormod ohono), mae hefyd angen i chi osod y dangosydd ad-daliad CYG ar:

  • ‘Iawn’, os ydych wedi ad-dalu’ch cyflogai neu os nad oedd ad-daliad yn ddyledus
  • ‘Na’, os oes arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd (er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth)

Os oes tandaliad

Os na wnaethoch ddidynnu digon o Yswiriant Gwladol, talwch y tandaliad i CThEF ar unwaith. Gallwch adennill y swm oddi wrth eich cyflogai drwy wneud didyniadau o’i gyflog.

Ni allwch adennill mwy na swm yr Yswiriant Gwladol sydd ar y cyflogai mewn mis (fel nad yw’r cyflogai’n talu mwy na dwbl ei gyfraniad arferol). Trosglwyddwch y gwahaniaeth i fisoedd hwyrach - gallwch ond gwneud didyniadau yn y flwyddyn dreth pan wnaethoch y camgymeriad a’r flwyddyn ar ôl hynny.

Cywiro ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cyflogai

Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.

Os oedd y gwall yn ystod y flwyddyn dreth hon

Ad-dalwch neu didynnwch y balans oddi wrth eich cyflogai. Diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma i’r swm cywir yn eich FPS rheolaidd nesaf neu anfonwch FPS ychwanegol.

Os gwnaethoch ddidynnu rhy ychydig, ni allwch adennill mwy na’r ad-daliad benthyciad myfyriwr a oedd yn ddyledus y mis hwnnw.

Enghraifft:

Gwnaethoch ddidynnu £50 yn rhy ychydig ym mis Mehefin. Ym mis Gorffennaf, mae’ch meddalwedd yn cyfrifo didyniad benthyciad myfyriwr sy’n £30, mae hyn yn golygu eich bod yn gallu adennill hyd at £30 tuag at dandaliad y mis hwnnw (didyniad sy’n dod i gyfanswm o £60).

Adenillwch y £20 sy’n weddill mewn mis arall.

Os oedd y gwall yn ystod blynyddoedd treth blaenorol

Does dim rhaid i chi gymryd unrhyw gamau pellach os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • nid ydych wedi didynnu digon
  • rydych eisoes wedi cyflwyno eich FPS terfynol ar gyfer y flwyddyn honno

Dylai’ch cyflogai gysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i weld sut y mae’n effeithio arno.

Os gwnaethoch ddidynnu gormod, ac nid ydych wedi anfon eich FPS terfynol ar gyfer y flwyddyn honno, gallwch ad-dalu eich cyflogai. Anfonwch FPS gyda’r ffigur cywir ar gyfer ad-daliad benthyciad myfyriwr am y flwyddyn hyd yma fel yr oedd ar 5 Ebrill ar gyfer y flwyddyn flaenorol.