Gwnaethoch gamgymeriad yn eich FPS neu’ch EPS

Mae’n bosibl y bydd eich bil TWE yn anghywir os gwnaethoch gamgymeriad yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS). Mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi gywiro’r canlynol:

  • cyflog neu ddidyniadau
  • dyddiadau talu
  • dyddiadau dechrau a dyddiadau gadael ar gyfer eich cyflogai
  • gwybodaeth am y cyflogai
  • adroddiadau a anfonwyd ymlaen llaw
  • llythrennau categori Yswiriant Gwladol
  • y symiau yn eich EPS
  • yr Ardoll Brentisiaethau sydd arnoch (yn dechrau o fis Ebrill 2017) os oes gennych chi, neu gyflogwyr rydych yn gysylltiedig â nhw, fil cyflog blynyddol o fwy na £3 miliwn

Bydd cosb yn cael ei chodi arnoch am gamgymeriad dim ond os nad oeddech wedi cymryd gofal rhesymol neu os oedd yn fwriadol.

Os ydych wedi rhoi gwybod am y cyflog neu ddidyniadau anghywir

I gywiro camgymeriad a wnaed yn y flwyddyn dreth bresennol, diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma yn eich FPS rheolaidd nesaf.

Mae’r rheolau’n wahanol os byddwch yn dod o hyd i gamgymeriad yn eich FPS olaf ar gyfer y flwyddyn (yn agor tudalen Saesneg).

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2024

Cyflwynwch FPS arall yn dangos y ffigurau cywir ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2018 a 5 Ebrill 2020

Gallwch gyflwyno’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • FPS pellach yn dangos y ffigurau cywir ar gyfer y flwyddyn hyd yma
  • Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) yn dangos y gwahaniaeth rhwng beth y gwnaethoch ei ddidynnu yn wreiddiol a’r swm cywir

Gallwch ond defnyddio EYU ar gyfer blynyddoedd treth pan oeddech yn rhoi gwybod ar-lein mewn amser real.

Os na all eich meddalwedd gyflogres anfon EYU, gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol CThEF.

Cywiro buddiant marwolaeth pensiwn neu daliad hyblyg

Os ydych yn weinyddwr pensiwn sydd angen cywiro taliad hyblyg neu daliad buddiant marwolaeth:

  • dewiswch y dynodydd ar gyfer taliad pensiwn hyblyg neu’r dynodydd ar gyfer taliad buddiant marwolaeth pensiwn
  • diweddarwch y maes ar gyfer taliad trethadwy pensiynau a godir o’r gronfa neu’r maes ar gyfer taliad nad yw’n drethadwy pensiynau a godir o’r gronfa (neu’r ddau), gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hyn gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir

Os na all eich meddalwedd gyflogres wneud hyn, cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd.

Os yw’ch cyflogai wedi rhoi’r gorau i weithio i chi

Dylech ei gynnwys yn eich FPS nesaf a chywiro ei ffigurau blwyddyn hyd yma. Nodwch ei ‘Dyddiad gadael’ gwreiddiol a rhowch yr un ‘Dyddiad talu’ a ddangosir ar ei FPS olaf, neu ddyddiad hwyrach.

Cywiro’r dyddiad talu yn eich FPS

Dylech ddefnyddio’r dyddiad y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion yn eich FPS.

Anfonwch FPS ychwanegol gyda’r dyddiad talu cywir os ydych wedi anfon un gyda’r dyddiad talu anghywir. Ysgrifennwch ‘H - Cywiriad i gyflwyniad cynharach / H - Correction to earlier submission’ yn y maes ar gyfer nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr.

Anfonwch eich FPS wedi’i gywiro erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl i chi anfon eich FPS gwreiddiol. Bydd CThEF yn rhoi’r cywiriad ar waith ar gyfer y mis cywir.

Os oedd y dyddiad anghywir mewn mis treth gwahanol, mae’n rhaid i chi adlinio’ch cyflogres i’r cyfnod treth cywir (yn agor tudalen Saesneg).

Cywiro dyddiad dechrau neu ddyddiad gadael cyflogai

Diweddarwch gofnodion eich cyflogres gyda’r dyddiad cywir os gwnaethoch roi’r dyddiad dechrau neu ddyddiad gadael anghywir ar gyfer cyflogai yn eich FPS.

Peidiwch â rhoi gwybod am y diwygiad yn eich FPS nesaf oherwydd ei bod yn bosibl y gall hyn greu cofnod dyblyg ar gyfer y cyflogai.

Cywiro manylion personol eich cyflogai

Cywirwch eich FPS nesaf os ydych wedi gwneud camgymeriad gyda manylion personol eich cyflogai.

Peidiwch â rhoi gwybod am ddiweddariadau i fwy nag un o fanylion personol eich cyflogai (er enghraifft ei enw, dyddiad geni neu rywedd) yn yr un FPS. Gall cofnodion eich cyflogres gael eu dyblygu os gwnewch hynny, ac mae’n bosibl y bydd eich bil TWE yn anghywir.

Os yw manylion eich cyflogai (er enghraifft cyfeiriad neu gyfenw) yn newid:

Cywiro adroddiadau FPS a anfonwyd ymlaen llaw

Os ydych wedi anfon adroddiadau FPS ymlaen llaw ac mae angen eu cywiro (er enghraifft oherwydd bod cyflogai’n gadael), dylech wneud y canlynol:

  • anfon FPS arall ar gyfer y mis treth y mae’r cywiriad yn berthnasol iddo, gan wneud yn siŵr eich bod yn llenwi’r meysydd perthnasol i gyd a diwygio’r ffigurau blwyddyn hyd yma os oes angen

  • cywiro unrhyw adroddiad FPS arall a anfonwyd gennych ymlaen llaw y mae’r newid wedi effeithio arno

Cywiro llythyren gategori Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogai

Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar y rheswm dros newid y llythyren gategori, ac ym mha flwyddyn dreth y digwyddodd hynny.

Rydych wedi defnyddio’r llythyren gategori anghywir yn y flwyddyn dreth bresennol

Rhowch wybod am y camgymeriad yn eich FPS nesaf.

  1. Ychwanegwch y llythyren gategori rydych wedi’i defnyddio’n anghywir.

  2. Rhowch ‘0’ ym mhob maes Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y llythyren gategori hon heblaw am y maes ar gyfer nodi CYG y cyflogai ar gyfer y taliad hwn, a nodwch y swm rydych wedi’i ad-dalu neu ei adennill yma. Er enghraifft, nodwch ‘-£300’ os ydych yn ad-dalu £300 y mae cyflogai wedi’u gordalu.

  3. Ychwanegwch y llythyren gategori gywir, a nodwch yr Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y llythyren gategori hon.

  4. Rhowch ‘0’ ym mhob maes Yswiriant Gwladol ar gyfer y llythyren gategori anghywir am weddill y flwyddyn dreth – does dim angen i chi wneud hyn os na ddylai’r categori byth fod wedi cael ei ddefnyddio.

Mae rhai pecynnau meddalwedd yn eich galluogi i gywiro hyn drwy addasu’r cyflog net. Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi gadw cofnod o’r newid.

Os gwnaeth llythyren gategori’ch cyflogai newid yn ystod y flwyddyn dreth

Yn eich FPS nesaf:

  1. Parhewch i roi gwybod am wybodaeth ynghylch yr hen gategori ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

  2. Rhowch ‘0’ ym mhob maes ‘yn y cyfnod cyflog hwn’ ar gyfer y categori hwn, a defnyddiwch y maes ar gyfer CYG y cyflogai ar gyfer y taliad hwn i addasu unrhyw dandaliad neu ordaliad o Yswiriant Gwladol.

  3. Ychwanegwch y llythyren gategori gywir, a nodwch yr Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y llythyren gategori hon.

Rydych wedi defnyddio’r llythyren gategori anghywir yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2021 a 5 Ebrill 2024

Anfonwch FPS ychwanegol gyda’r llythyren gategori gywir a’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma.

Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021 neu cyn hynny

Anfonwch EYU sy’n dangos:

  • symiau negyddol ym mhob maes Yswiriant Gwladol am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y llythyren gategori anghywir, er mwyn dod ag Yswiriant Gwladol y cyflogai i lawr i sero
  • y llythyren gategori gywir, a’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma

Os ydych yn cywiro camgymeriad a ddigwyddodd yn ystod blynyddoedd treth 2019 i 2020 neu 2020 i 2021, efallai y gallwch anfon FPS yn lle hynny – defnyddiwch eich meddalwedd gyflogres i wirio hynny. Anfonwch hwn gan ddangos y llythyren gategori gywir a’r Yswiriant Gwladol cywir am y flwyddyn hyd yma.

Os gwnaeth y camgymeriad arwain at ordaliad neu dandaliad

Mae’n rhaid i chi gywiro didyniadau Yswiriant Gwladol eich cyflogai os gwnaeth dalu gormod neu os na wnaeth dalu digon oherwydd y defnyddiwyd y llythyren gategori anghywir.

Cywiro EPS

I gywiro camgymeriad yn y flwyddyn dreth bresennol, anfonwch EPS gyda’r ffigurau cywir am y flwyddyn hyd yma.

Ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol, anfonwch EPS gyda’r ffigurau cywir am y flwyddyn hyd yma ar gyfer y flwyddyn dreth lle gwnaethoch y camgymeriad.