Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu Treth Etifeddiant o’ch cyfrif banc eich hun neu gyfrif banc ar y cyd os oedd gennych un yn eich enwi chi ar y cyd â’r ymadawedig. Gallwch ei hawlio’n ôl o ystâd yr ymadawedig.

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn), CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001136 HMRC Inheritance Tax

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant fel y cyfeirnod talu.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.

Rhif y cyfrif (IBAN) Cod Adnabod y Banc (BIC) Enw’r cyfrif
GB66BARC20114763495590 BARCGB22 HMRC Inheritance Tax

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain / London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP