Talu’ch bil Treth Etifeddiant

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw. Er enghraifft, os bu farw’r person ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf.

Mae dyddiadau dyledus gwahanol os ydych yn gwneud taliadau ar ymddiriedolaeth.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus.

Fel arfer mae angen i chi wneud taliad tuag at unrhyw Dreth Etifeddiant sydd arnoch cyn y byddwch yn gallu cael ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir hefyd yn ‘brofiant’). Gelwir hyn yn ‘confirmation’ yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (in English).

Sut i dalu

Bydd angen i chi gael cyfeirnod talu cyn y gallwch dalu’ch bil Treth Etifeddiant.

Talu o’ch cyfrif banc

Gallwch dalu o’ch cyfrif banc eich hun neu o gyfrif ar y cyd â’r ymadawedig.

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

  • trosglwyddiad banc

Talu nawr

Gallwch hefyd dalu drwy’r dulliau canlynol:

Gallwch hawlio’r arian yn ôl o ystâd yr ymadawedig neu’r buddiolwyr unwaith i chi gael profiant.

Talu o gyfrifon yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt

Gallwch dalu drwy ddefnyddio:

Os na allwch dalu

Os nad ydych yn gallu rhyddhau arian o’r ystâd nac yn gallu talu mewn ffordd arall, gallwch ofyn i ohirio talu Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn gwybod faint i dalu

Gallwch wneud taliadau cyn eich bod yn gwybod yr union swm o Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus gan ystâd yr ymadawedig. Gelwir y rhain yn ‘taliadau ar gyfrif’.

Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Nid yw CThEF yn anfon derbynebau ar gyfer pob taliad a wnewch. Byddant yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pan fyddwch wedi talu’r holl Dreth Etifeddiant a’r llog sydd arnoch.

Os ydych wedi talu drwy’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu eich hun, gwiriwch eich cyfriflen er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.

2. Cael cyfeirnod talu

Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) o leiaf 3 wythnos cyn i chi wneud taliad.

Gallwch wneud cais am un:

3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch Treth Etifeddiant yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Treth Etifeddiant.

Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu Treth Etifeddiant o’ch cyfrif banc eich hun neu gyfrif banc ar y cyd os oedd gennych un yn eich enwi chi ar y cyd â’r ymadawedig. Gallwch ei hawlio’n ôl o ystâd yr ymadawedig.

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn), CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001136 HMRC Inheritance Tax

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant fel y cyfeirnod talu.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.

Rhif y cyfrif (IBAN) Cod Adnabod y Banc (BIC) Enw’r cyfrif
GB66BARC20114763495590 BARCGB22 HMRC Inheritance Tax

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain / London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

5. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu Treth Etifeddiant o’ch cyfrif banc eich hun neu gyfrif banc ar y cyd os oedd gennych un yn eich enwi chi ar y cyd â’r ymadawedig. Gallwch ei hawlio’n ôl o ystâd yr ymadawedig.

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.

Llenwch un o slipiau talu eich banc gyda’r manylion canlynol o ran cyfrif banc CThEF:

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
25 61 21 63495590 HMRC Inheritance Tax

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch enw’r ymadawedig a’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant ar gefn y siec. Fe welwch y cyfeirnod ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF, os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

6. Talu â siec drwy’r post

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch y ddau beth canlynol ar gefn y siec:

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Peidiwch â phlygu’ch siec.

Anfonwch eich siec ar wahân i unrhyw ffurflenni neu lythyrau eraill y mae angen i chi eu hanfon at CThEF. Os byddwch yn anfon unrhyw beth arall gyda’ch siec, efallai y bydd eich taliad yn cael ei oedi.

Peidiwch ag anfon sieciau ar gyfer ffioedd profiant i CThEF. Dysgwch sut i wneud cais am brofiant a thalu ffioedd profiant.

Ble i anfon eich siec

Cyllid a Thollau EF
Tîm Treth Etifeddiant
HMRC
BX5 5BD

Caniatewch 10 diwrnod gwaith i’r taliad gyrraedd CThEF.

7. O gyfrif banc yr ymadawedig

Gallwch ofyn i fanciau, cymdeithasau adeiladu neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) dalu’r holl Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus, neu ran ohoni, o gyfrifon y person ymadawedig i Gyllid a Thollau EF (CThEF). Gelwir hyn y ‘Cynllun Taliadau Uniongyrchol’.

Gallwch ddechrau’r broses hon cyn bod gennych brofiant (a elwir hefyd yn gadarnhad neu’n ‘confirmation’ yn yr Alban).

  1. Gofynnwch i’r banc, cymdeithas adeiladu neu NS&I eich gwneud yn ‘gynrychiolydd personol’ - bydd pob un yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol.

  2. Dewch o hyd i’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant.

  3. Llenwch ffurflen IHT423 a’i hanfon i’r banc, cymdeithas adeiladu neu NS&I. Anfonwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob cyfrif yr ydych am ei ddefnyddio i dalu CThEF.

  4. Anfonwch ffurflen Cyfrif Treth Etifeddiant IHT 400 ac unrhyw dudalennau atodol neu ddogfennau ategol at CThEF. Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, dylech gynnwys Crynodeb Profiant ffurflen IHT421 (yn agor tudalen Saesneg). Os ydych yn yr Alban, dylech gynnwys ffurflen gadarnhad C1 (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonwch y ffurflenni at y cyfeiriad canlynol:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Treth Etifeddiant
HMRC
BX9 1ST

Ar ôl i’r arian gael ei drosglwyddo

Bydd y banc, cymdeithas adeiladu neu NS&I yn talu rhywfaint o’r Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus i CThEF, neu’r cyfan ohoni.

Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar ba wlad yn y DU rydych chi ynddi.

Yng Nghymru a Lloegr

Bydd CThEF yn anfon cod unigryw atoch fel y gallwch wneud cais am brofiant ar-lein.

Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban

Bydd CThEF yn stampio ac yn dychwelyd ffurflen Crynodeb Profiant IHT421 (Gogledd Iwerddon) neu ffurflen gadarnhad C1 (yr Alban) - dyma gadarnhad bod gennych brofiant.

8. Defnyddio stociau llywodraeth Prydain

Ysgrifennwch i Computershare Investor Services, sy’n rhedeg y cynllun stociau Llywodraeth Prydain.

Rhowch wybod iddynt eich bod am dalu Treth Etifeddiant a faint o’r stoc yr ydych am ei ddefnyddio. Amgaewch gopi o’r dystysgrif marwolaeth a chyfeirnod y stoc (os yw hynny gennych).

British Government Stocks (Gilts)
Computershare Investor Services plc
The Pavilions
Bristol
BS99 6ZW

Computershare Investor Services plc
gilts@computershare.co.uk
Ffôn: 0370 703 0143
Dysgwch am gostau galwadau

Ar yr un pryd, anfonwch y canlynol i CThEF:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Treth Etifeddiant
HMRC
BX9 1ST

Bydd CThEF yn cysylltu â Computershare i ofyn am drosglwyddo’r arian. Gall hyn gymryd hyd at 4 wythnos.

Peidiwch â thalu drwy’r dull hwn os oes angen i chi gael profiant (a elwir yn gadarnhad neu’n ‘confirmation’ yn yr Alban) yn gyflym. (Profiant yw’r hawl i ddelio ag eiddo, arian a meddiannau’r ymadawedig.)

Ar ôl i’r arian gael ei drosglwyddo

Os nad yw’r swm a drosglwyddwyd yn ddigon i dalu’r Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus gennych, bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint i’w dalu a sut i wneud hynny.

Yng Nghymru a Lloegr

Bydd CThEF yn anfon cod unigryw atoch fel y gallwch wneud cais am brofiant ar-lein.

Yng Ngogledd Iwerddon

Bydd CThEF yn anfon eich ffurflen IHT421 at y Gofrestrfa Profiant. Bydd y Gofrestrfa Profiant yn cadarnhau bod gennych brofiant drwy anfon ‘grant cynrychiolaeth’ atoch.

Yn yr Alban

Bydd CThEF yn dychwelyd eich ffurflen gadarnhad C1 atoch er mwyn i chi allu gwneud cais am gadarnhad (yn agor tudalen Saesneg).

9. Drwy drosglwyddo eiddo treftadaeth genedlaethol

Mewn achosion eithriadol iawn, efallai y gallwch wneud taliadau Treth Etifeddiant drwy drosglwyddo eiddo treftadaeth genedlaethol i’r Goron.

Gall eiddo treftadaeth genedlaethol gynnwys y canlynol:

  • adeiladau neu dir sydd o ddiddordeb hanesyddol, pensaernïol, golygfaol neu wyddonol
  • gweithiau celf, llyfrau a llawysgrifau neu gasgliadau gwyddonol sydd o ddiddordeb hanesyddol, golygfaol neu wyddonol

Caiff cynigion i wneud taliadau Treth Etifeddiant drwy drosglwyddo eiddo treftadaeth genedlaethol i’r Goron eu trin fesul achos.

Cysylltwch â thîm Treftadaeth CThEF i gael gwybodaeth am wneud cynnig.

Treftadaeth CThEF / HMRC Heritage
Ffôn: 03000 562388
Dysgwch am gostau galwadau

Treftadaeth CThEF / HMRC Heritage
Cyllid a Thollau EF
Ferrers House, PO Box 38
Castle Meadow Road
Nottingham
NG2 1BB

Os derbynnir eich cynnig

Hyd yn oed os caiff eich cynnig ei dderbyn, yn y lle cyntaf mae’n rhaid i chi dalu’r holl Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus gennych drwy ddulliau eraill a chael ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir hefyd yn ‘profiant’). Gelwir hyn yn ‘confirmation’ yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg).

Unwaith y bydd eich eiddo wedi’i drosglwyddo, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ad-dalu’r Dreth Etifeddiant rydych wedi’i thalu.

10. Rhandaliad blynyddol

Gallwch dalu eich Treth Etifeddiant ar bethau a all gymryd amser i’w gwerthu mewn rhandaliadau blynyddol cyfartal dros 10 mlynedd.

Rhaid i chi roi gwybod ar y ffurflen Cyfrif Treth Etifeddiant IHT400 os ydych am dalu fesul rhandaliad.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar eich rhandaliadau. Defnyddiwch y cyfrifiannell er mwyn cyfrifo’r llog (yn agor tudalen Saesneg) y bydd angen i chi ei dalu.

Rhaid i chi dalu’r dreth yn llawn pan fyddwch wedi gwerthu asedion yr ymadawedig, megis ei dŷ neu ei gyfranddaliadau.

Pryd fydd yn rhaid i chi dalu

Mae’r rhandaliad cyntaf yn ddyledus ar ddiwedd y chweched mis ar ôl y farwolaeth (er enghraifft, os bu farw ar 12 Ionawr, byddai’n rhaid i chi dalu erbyn 31 Gorffennaf). Gelwir hyn y ‘dyddiad dyledus’. Wedyn, mae taliadau’n ddyledus bob blwyddyn ar y dyddiad hwnnw.

Talu’n gynnar

Gallwch dalu swm llawn y dreth a’r llog ar unrhyw adeg. Ysgrifennwch at Dîm Treth Etifeddiant, Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ofyn am asesiad terfynol (nid oes rhaid i chi gynnwys y taliad).

Yr hyn rydych yn talu llog arno

Ni fyddwch yn talu unrhyw log ar y rhandaliad cyntaf oni bai eich bod yn ei dalu’n hwyr. Ar bob rhandaliad ar ôl hynny, rhaid i chi dalu llog ar y ddau beth canlynol:

  • balans llawn y dreth sy’n ddyledus
  • y rhandaliad ei hun, o’r dyddiad y mae’n ddyledus hyd at ddyddiad y taliad (os caiff ei dalu’n hwyr)

Yr hyn y gallwch ei dalu fesul rhandaliad

Tai

Gallwch dalu 10% a’r llog bob blwyddyn os ydych yn penderfynu cadw’r tŷ i fyw ynddo.

Cyfranddaliadau a gwarantau

Gallwch dalu fesul rhandaliad os oedd y cyfranddaliadau neu’r gwarantau yn galluogi’r ymadawedig i reoli mwy na 50% o gwmni.

Cyfranddaliadau a gwarantau nas rhestrwyd

Gallwch dalu fesul rhandaliad am gyfranddaliadau neu warantau ‘nas rhestrwyd’ (rhai nad ydynt yn cael eu masnachu ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig) os ydynt yn werth mwy na £20,000 a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf (a elwir yn werth ‘nominal’ neu ‘gwerth enwol’)
  • maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf

Gallwch ddod o hyd i werth enwol cyfranddaliad, a ph’un a yw’n gyfranddaliad cyffredin, ar dystysgrif y cyfranddaliad.

Gallwch hefyd dalu fesul rhandaliad os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae o leiaf 20% o gyfanswm y Dreth Etifeddiant sydd ar yr ystâd ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu fesul rhandaliad
  • bydd talu Treth Etifeddiant arnynt mewn un cyfandaliad yn achosi anawsterau ariannol

Busnes sy’n cael ei weithredu er mwyn elw

Gallwch dalu fesul rhandaliad ar werth net busnes, ond nid ei asedion.

Tir ac eiddo amaethyddol

Mae hyn yn anghyffredin, oherwydd bod y rhan fwyaf o dir ac eiddo amaethyddol wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant.

Rhoddion

Gallwch dalu fesul rhandaliad os oes Treth Etifeddiant i’w thalu o hyd, a rhoddwyd y canlynol i chi:

  • adeiladau
  • cyfranddaliadau neu warantau
  • busnes cyfan neu ran ohono

Os oedd y rhodd yn gyfranddaliad neu warant nas rhestrwyd, mae’n rhaid ei bod yn dal heb ei rhestru ar adeg y farwolaeth.

11. Ymddiriedolaethau

  1. Mynnwch eich cyfeirnod talu Treth Etifeddiant o leiaf 3 wythnos cyn i chi eisiau gwneud taliad drwy lenwi Ffurflen IHT122.

  2. Anfonwch ffurflen IHT100 (yn agor tudalen Saesneg) Cyfrif Treth Etifeddiaeth i Gyllid a Thollau EF (CThEF).

  3. Talwch y Dreth Etifeddiant, naill ai drwy fanc neu gymdeithas adeiladu neu drwy dalu â siec drwy’r post.

Dyddiadau cau ar gyfer talu

Trosglwyddiadau

Rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant ar drosglwyddiadau i mewn i ymddiriedolaeth - neu allan o ymddiriedolaeth (a elwir yn ‘daliadau ymadael’) - erbyn 6 mis ar ôl diwedd y mis y gwnaed y trosglwyddiad, fan bellaf.

Tâl 10 mlynedd

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd o adeg sefydlu’r ymddiriedolaeth. Rhaid i chi dalu hwn erbyn 6 mis ar ôl pob 10 mlynedd, fan bellaf.

12. Talwch yn gynnar er mwyn osgoi llog

Gallwch wneud taliadau Treth Etifeddiant cynnar cyn eich bod yn gwybod yr union swm sydd ar yr ystâd (gelwir hyn yn ‘daliad ar gyfrif’).

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os na fyddwch yn talu’r holl dreth sydd ar yr ystâd erbyn y dyddiad dyledus. Os na fyddwch yn gwybod faint o Dreth Etifeddiant sydd ar yr ystâd erbyn i’r taliad fod yn ddyledus, gall taliad ar gyfrif eich helpu i osgoi rhywfaint o’r llog.

Os ydych yn gordalu

Os ydych yn talu mwy o arian nag y mae’r bil terfynol yn nodi sydd ar yr ystâd, bydd CThEF yn ad-dalu’r swm sydd dros ben ar ôl i chi gael profiant (‘confirmation’ yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)). Profiant yw’r hawl i ddelio ag eiddo, arian a meddiannau’r ymadawedig.

Bydd CThEF hefyd yn talu llog i chi (yn agor tudalen Saesneg) ar y swm yr ydych wedi’i ordalu.

I gael ad-daliad, bydd yn rhaid i chi ysgrifennu i CThEF.

Cyllid a Thollau EF
Tîm Treth Etifeddiant
HMRC
BX9 1ST

Rhowch ‘Ad-daliad - manylion pellach’ ar frig y llythyr.

Nodwch enw, rhif a chod didoli’r cyfrif banc yr ydych am i’r ad-daliad fynd iddo.

Rhaid bod y llythyr wedi’i lofnodi gan yr un bobl a lofnododd y ffurflenni IHT400 a IHT100, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gwneud cais heb help cyfreithiwr neu asiant
  • mae’r ad-daliad yn cael ei dalu i gyfrif banc gwanhaol i’r un a enwebwyd yn yr IHT400 neu’r IHT100

Os ydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran yr ystâd ac nad ydych yn gofyn bod yr ad-daliad yn cael ei dalu i gyfrif banc gwahanol, rhowch eich llofnod chi yn unig ar y llythyr.