Talu’ch bil Treth Etifeddiant
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu Treth Etifeddiant o’ch cyfrif banc eich hun neu gyfrif banc ar y cyd os oedd gennych un yn eich enwi chi ar y cyd â’r ymadawedig. Gallwch ei hawlio’n ôl o ystâd yr ymadawedig.
Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.
Llenwch un o slipiau talu eich banc gyda’r manylion canlynol o ran cyfrif banc CThEF:
Cod didoli | Rhif y cyfrif | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
25 61 21 | 63495590 | HMRC Inheritance Tax |
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch enw’r ymadawedig a’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant ar gefn y siec. Fe welwch y cyfeirnod ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF, os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener.