Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw. Er enghraifft, os bu farw’r person ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf.

Mae yna ddyddiadau dyledus gwahanol os ydych yn gwneud taliadau ar ymddiriedolaeth.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut i dalu

Bydd angen i chi gael cyfeirnod talu cyn y gallwch dalu’ch bil Treth Etifeddiant.

Talu o’ch cyfrif banc

Gallwch dalu o’ch cyfrif banc eich hun neu o gyfrif ar y cyd â’r ymadawedig.

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
  • trosglwyddiad banc

Talu nawr

Gallwch hefyd dalu drwy’r dulliau canlynol:

Gallwch hawlio’r arian yn ôl o ystâd yr ymadawedig neu o’r buddiolwyr unwaith y byddwch yn cael ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir hefyd yn ‘brofiant’). Gelwir hyn yn ‘confirmation’ yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg).

Talu o gyfrifon yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt

Gallwch dalu drwy ddefnyddio:

Os nad ydych yn gwybod faint i dalu

Gallwch wneud taliadau cyn eich bod yn gwybod yr union swm o Dreth Etifeddiant sydd ar ystâd yr ymadawedig. Gelwir y rhain yn ‘taliadau ar gyfrif’.

Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Nid yw CThEF yn anfon derbynebau ar gyfer pob taliad a wnewch. Byddant yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pan fyddwch wedi talu’r holl Dreth Etifeddiant a’r llog sydd arnoch.

Os ydych wedi talu drwy’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu eich hun, gwiriwch eich cyfriflen er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.