Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Neidio i gynnwys y canllaw

Pwy all wneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os:

  • ydych yn byw yn y DU
  • oes gennych yr hawl i weithio yn y DU
  • ydych yn gweithio, chwilio am waith neu fod gennych gynnig i ddechrau swydd

Gallwch ddechrau gweithio cyn derbyn eich rif Yswiriant Gwladol os gallwch brofi bod gennych yr hawl i weithio yn y DU.

Os oes gennych rif Yswiriant Gwladol, nid oes angen i chi wneud cais am un newydd, hyd yn oed os bydd eich manylion personol yn newid. Mae’ch rhif Yswiriant Gwladol yn aros yr un peth am oes.

Mae’r canllaw a’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nid oes angen rhif Yswiriant Gwladol i ddechrau cais am fudd-daliadau neu fenthyciad myfyriwr. Os oes angen rhif Yswiriant Gwladol er mwyn talu eich budd-dal neu fenthyciad myfyriwr, bydd rhywun mewn cyswllt i ddweud wrthych sut i gael un.

Nid oes angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch er mwyn gwneud cais am Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych wedi colli eich rhif Yswiriant Gwladol

Gwiriwch sut i ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol coll.

Os ydych yn breswylydd yn y DU sy’n 19 oed neu’n iau

Fel arfer byddwch yn derbyn rhif Yswiriant Gwladol yn y 3 mis cyn eich penblwydd yn 16 oed os ydy’r canlynol yn wir:

  • rydych yn byw yn y DU
  • mae rhiant neu warcheidwad wedi llenwi ffurflen gais Budd-dal Plant ar eich cyfer

Os na chawsoch rif Yswiriant Gwladol

Os ydych rhwng 16 i 19 oed ac na chawsoch rif Yswiriant Gwladol:

Os oes gennych Drwydded Breswyl Biometrig (BRP)

Os oes gennych BRP, efallai y bydd gennych rif Yswiriant Gwladol yn barod – bydd hwn wedi’i brintio ar gefn eich BRP os oes un gennych.

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol, mae’n rhaid gwneud cais am un os ydych yn bwriadu gweithio. Gallwch ond gwneud cais pan fyddwch yn y DU.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Gall gymryd hyd at 4 wythnos i gael eich rhif Yswiriant Gwladol.

Gallwch ffonio’r llinell gymorth ceisiadau os:

  • wnaethoch gais mwy nag 4 wythnos yn ôl
  • ydych wedi symud tŷ ers gwneud cais
  • yw eich manylion personol wedi newid ers gwneud cais

Os oes gennych gyfeirnod am eich cais, sicrhewch ei fod ar law pan fyddwch yn ffonio. Gallwch ddod o hyd iddo ar ben yr e-bost cadarnhad a anfonwyd atoch ar ôl i chi wneud cais.