Treth Enillion Cyfalaf: yr hyn rydych yn talu’r dreth arno, cyfraddau a lwfansau
Cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf
Rydych yn talu cyfradd dreth ar enillion o eiddo preswyl sy’n wahanol i’r gyfradd rydych yn ei thalu ar asedion eraill.
Fel arfer, nid ydych yn talu treth pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd uwch
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch neu gyfradd ychwanegol, byddwch yn talu:
- 24% ar eich enillion o eiddo preswyl
- 28% ar eich enillion o ’fuddiant a drosglwyddir’ (yn agor tudalen Saesneg) os ydych chi’n rheoli cronfa fuddsoddi
- 20% ar eich enillion o asedion trethadwy eraill
Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd sylfaenol
Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, mae’r gyfradd rydych yn ei thalu yn dibynnu ar faint o ennill a gewch, ar eich incwm trethadwy, ac ar p’un a yw’ch ennill o eiddo preswyl neu o asedion eraill.
-
Cyfrifwch faint o incwm trethadwy sydd gennych – dyma’ch incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm arall y mae gennych hawl iddo.
-
Cyfrifwch gyfanswm eich enillion trethadwy.
-
Didynnwch eich lwfans rhydd o dreth oddi wrth gyfanswm eich enillion trethadwy.
-
Adiwch y swm hwn at eich incwm trethadwy.
-
Os yw’r swm hwn o fewn y band Treth Incwm sylfaenol, byddwch yn talu 10% ar eich enillion (neu 18% ar eiddo preswyl a buddiant a drosglwyddir). Byddwch yn talu 20% ar unrhyw swm sy’n uwch na’r gyfradd dreth sylfaenol (neu 24% ar eiddo preswyl a 28% ar fuddiant a drosglwyddir).
Enghraifft
Mae’ch incwm trethadwy (sef eich incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm) yn £20,000, ac mae’ch enillion trethadwy yn £12,600. Nid yw’ch enillion o eiddo preswyl.
Yn gyntaf, didynnwch y lwfans rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf oddi wrth eich ennill trethadwy. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, y lwfans yw £3,000 sy’n gadael £9,600 i dalu treth arno.
Adiwch hwn at eich incwm trethadwy. Oherwydd bod y swm cyfunol, sef £29,600, yn llai na £37,700 (sef y band cyfradd sylfaenol ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025), rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar gyfradd o 10%.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu £960 mewn Treth Enillion Cyfalaf.
Os oes gennych enillion o eiddo preswyl ac o asedion eraill
Gallwch ddefnyddio’ch lwfans rhydd o dreth yn erbyn yr enillion a fyddai’n cael eu trethu ar y cyfraddau uchaf (er enghraifft, lle y byddech yn talu treth ar gyfradd o 24% neu 28%).
Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn ymddiriedolwr, cynrychiolydd personol neu’n fusnes
Mae ymddiriedolwyr, neu gynrychiolwyr personol rhywun sydd wedi marw, yn talu:
- 24% ar eiddo preswyl
- 20% ar asedion trethadwy eraill
Mae cynrychiolwyr personol rhywun sydd wedi marw yn talu 28% ar fuddiant a drosglwyddir.
Byddwch yn talu 10% os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth a bod eich enillion yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).