Treth Enillion Cyfalaf: yr hyn rydych yn talu’r dreth arno, cyfraddau a lwfansau

Printable version

1. Trosolwg

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth ar yr elw pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’) rhywbeth (‘ased’) y mae ei werth wedi cynyddu.

Yr ennill a wnewch sy’n cael ei drethu, nid swm yr arian a gewch. Er enghraifft, os gwnaethoch brynu llun am £5,000 a’i werthu yn ddiweddarach am £25,000, rydych wedi gwneud elw o £20,000 (£25,000 minws £5,000).

Mae rhai asedion yn rhydd o dreth. Hefyd, does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os yw’ch holl enillion mewn blwyddyn o dan eich lwfans rhydd o dreth.

Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020 a bod gennych dreth ar enillion i’w talu, gallwch adrodd a thalu gan ddefnyddio Treth Enillion Cyfalaf ar gyfrif eiddo’r DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwaredu ased

Mae gwaredu ased yn cynnwys:

  • ei werthu
  • ei roi i ffwrdd fel rhodd, neu ei drosglwyddo i rywun arall
  • ei gyfnewid am rywbeth arall
  • cael iawndal ar ei gyfer – er enghraifft, taliad yswiriant os yw’r ased wedi’i golli neu wedi’i ddinistrio

2. Yr hyn rydych yn talu’r doll arno

Rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar yr ennill pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’):

Yr enw ar y rhain yw ‘asedion trethadwy’.

Os byddwch yn gwerthu crypto-asedion (megis crypto-arian neu bitcoin) neu’n eu rhoi i ffwrdd, dylech wirio a oes yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Yn dibynnu ar yr ased, efallai y byddwch yn gallu gostwng unrhyw dreth rydych yn ei thalu drwy hawlio rhyddhad.

Os byddwch yn gwaredu ased rydych yn berchen arno ar y cyd â rhywun arall, mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar eich cyfran o’r ennill.

Pryd na fyddwch yn ei thalu

Dim ond ar gyfanswm eich enillion sydd dros lwfans rhydd o dreth blynyddol y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Fel arfer, ni fyddwch yn talu treth ar roddion i’ch gŵr, i’ch gwraig, i’ch partner sifil neu i elusen.

Yr hyn nad ydych yn talu’r dreth arno

Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion penodol, gan gynnwys enillion a wnewch yn sgil:

  • ISAs neu PEPs
  • giltiau llywodraeth y DU a Bondiau Premiwm
  • enillion o fetio, y loteri neu’r pyllau pêl-droed

Pan fo rhywun yn marw

Pan fyddwch yn etifeddu ased, fel arfer telir Treth Etifeddiant gan ystâd y person sydd wedi marw. Dim ond os byddwch yn gwaredu’r ased yn nes ymlaen y bydd yn rhaid i chi gyfrifo a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Asedion tramor

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf, hyd yn oed os yw’ch ased dramor.

Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn breswylydd yn y DU ond nad yw’ch cartref parhaol yn y DU.

Os ydych dramor

Mae’n rhaid i chi dalu treth ar enillion a wnewch ar eiddo a thir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) hyd yn oed os ydych yn ddibreswyl at ddibenion treth (yn agor tudalen Saesneg).

Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion eraill yn y DU – er enghraifft, cyfranddaliadau mewn cwmnïau yn y DU – oni bai:

  • rydych yn dychwelyd i’r DU (yn agor tudalen Saesneg) cyn pen 5 mlynedd ar ôl gadael
  • rydych yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni sy’n ‘gyfoethog yn eiddo’r DU’ ac rydych yn bodloni’r amodau ar gyfer gwarediad anuniongyrchol

Mae cwmni yn gyfoethog yn eiddo’r DU os yw 75% neu fwy o werth asedau gros y cwmni yn dir y DU. Dysgwch ragor am werthu neu waredu eiddo a thir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydych yn gwneud gwarediad anuniongyrchol.

3. Lwfansau Treth Enillion Cyfalaf

Dim ond ar gyfanswm eich enillion sydd dros eich lwfans rhydd o dreth (a elwir yn Swm Eithriedig Blynyddol) y mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Y lwfans rhydd o dreth ar gyfer Enillion Cyfalaf yw:

  • £3,000
  • £1,500 ar gyfer ymddiriedolaethau

Gallwch weld lwfansau rhydd o dreth ar gyfer blynyddoedd blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

Hefyd, efallai y byddwch yn gallu gostwng eich bil treth drwy ddidynnu colledion neu drwy hawlio rhyddhad – mae hyn yn dibynnu ar yr ased.

4. Rhoddion i’ch priod neu i elusen

Mae rheolau arbennig ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar roddion neu ar asedion rydych yn eu gwaredu i’r canlynol:

  • eich priod neu bartner sifil
  • elusen

Mae’r rheolau arferol yn berthnasol ar gyfer rhoddion i bobl eraill.

Eich priod neu bartner sifil

Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi neu eu gwerthu i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, oni bai bod un o’r canlynol yn wir:

Mae’r flwyddyn dreth o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Os bydd yn gwerthu’r ased yn nes ymlaen

Efallai y bydd yn rhaid i’ch priod neu bartner sifil dalu treth ar unrhyw ennill, os bydd yn gwaredu’r ased yn nes ymlaen.

Cyfrifir ei ennill ar sail y gwahaniaeth rhwng gwerth yr ased pan ddaeth yn eiddo i chi am y tro cyntaf a’i werth pan wnaeth ei waredu.

Os mai cyn mis Ebrill 1982 oedd hyn, dylai’ch priod neu bartner sifil gyfrifo’i ennill gan ddefnyddio’r gwerth marchnadol ar 31 Mawrth 1982 yn lle hynny.

Dylai gadw cofnod o’r hyn a dalwyd gennych am yr ased.

Rhoddion i elusennau

Does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi i ffwrdd i elusennau.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os byddwch yn gwerthu ased i elusen, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • rydych yn ei werthu am fwy na’r hyn a dalwyd gennych amdano
  • rydych yn ei werthu am lai na’r gwerth marchnadol

Cyfrifwch eich ennill gan ddefnyddio’r swm y mae’r elusen yn ei dalu i chi mewn gwirionedd, yn hytrach na gwerth yr ased.

5. Cyfrifo a oes angen i chi dalu

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu ased, os yw cyfanswm eich enillion trethadwy dros eich lwfans Treth Enillion Cyfalaf blynyddol.

Cyfrifo cyfanswm eich enillion trethadwy

  1. Cyfrifwch yr ennill ar gyfer pob ased (neu ar gyfer eich cyfran chi o ased, os ydyw mewn perchnogaeth ar y cyd). Gwnewch hyn ar gyfer yr eiddo personol (yn agor tudalen Saesneg), y cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau (yn agor tudalen Saesneg), yr eiddo yn y DU neu’r asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi’u gwaredu yn y flwyddyn dreth.

  2. Adiwch yr enillion o bob ased at ei gilydd.

  3. Didynnwch unrhyw golledion caniataol.

Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Bydd angen i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu os yw’ch enillion trethadwy dros eich lwfans.

Os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth

Does dim rhaid i chi dalu treth os yw cyfanswm eich enillion trethadwy yn llai na’ch lwfans Treth Enillion Cyfalaf.

Mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu’r asedion amdano dros £50,000 
  • rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol o flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen.

Ar gyfer y blynyddoedd treth cyn 2023 i 2024, mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu’r asedion amdano dros 4 gwaith yn fwy na’ch lwfans 
  • rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Mae rheolau gwahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.

Os ydych yn ddibreswyl

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF pan fyddwch yn gwerthu eiddo neu dir (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os yw’ch ennill o dan y lwfans rhydd o dreth neu os ydych yn gwneud colled. Nid yw pobl sy’n ddibreswyl yn talu treth ar enillion cyfalaf eraill.

6. Rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu

Nid ydych yn cael bil ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n rhaid i chi gyfrifo a yw cyfanswm eich enillion yn uwch na’ch lwfans sy’n rhydd o dreth.

Os yw cyfanswm eich enillion trethadwy yn uwch na’ch lwfans bydd angen i chi adrodd a thalu Treth Enillion Cyfalaf.

Mae’n bosibl y cewch ostyngiad treth os oeddech yn gwerthu eiddo a oedd yn brif gartref i chi (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd i adrodd a thalu

Mae’n rhaid i chi adrodd am unrhyw enillion cyfalaf a thalu unrhyw arian sy’n ddyledus gennych erbyn y dyddiad cau.

Dyddiad gwerthu (neu ‘gwaredu’) Pryd mae’n rhaid i chi adrodd a thalu
Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU gyda dyddiad cwblhau ar neu ar ôl 27 Hydref 2021 Cyn pen 60 diwrnod
Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU gyda dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2020 a 26 Hydref 2021 Cyn pen 30 diwrnod
Os oes gennych enillion eraill i’w hadrodd Yn y flwyddyn dreth ar ôl i chi werthu neu waredu ased os ydych yn defnyddio Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Os ydych chi’n gymwys, mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Treth Enillion Cyfalaf ‘amser real i adrodd erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn dreth ar ôl y gwerthiant

Peidiwch ag aros tan y flwyddyn dreth nesaf i adrodd am enillion ar eiddo preswyl y DU a werthwyd ers 6 Ebrill 2020. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb, fel arall.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Mae’n rhaid i chi adrodd holl werthiannau eiddo neu dir y DU (yn agor tudalen Saesneg) (preswyl a Dibreswyl) os nad ydych yn breswyl yn y DU, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu.

7. Cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf

Rydych yn talu cyfradd dreth ar enillion o eiddo preswyl sy’n wahanol i’r gyfradd rydych yn ei thalu ar asedion eraill.

Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd uwch

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch neu gyfradd ychwanegol, byddwch yn talu:

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd sylfaenol

Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, mae’r gyfradd rydych yn ei thalu yn dibynnu ar faint o ennill a gewch, ar eich incwm trethadwy, ac ar p’un a yw’ch ennill o eiddo preswyl neu o asedion eraill.

  1. Cyfrifwch faint o incwm trethadwy sydd gennych – dyma’ch incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm arall y mae gennych hawl iddo.

  2. Cyfrifwch gyfanswm eich enillion trethadwy.

  3. Didynnwch eich lwfans rhydd o dreth oddi wrth gyfanswm eich enillion trethadwy.

  4. Adiwch y swm hwn at eich incwm trethadwy.

  5. Os yw’r swm hwn o fewn y band Treth Incwm sylfaenol, byddwch yn talu 10% ar eich enillion (neu 18% ar eiddo preswyl a buddiant a drosglwyddir). Byddwch yn talu 20% ar unrhyw swm sy’n uwch na’r gyfradd dreth sylfaenol (neu 24% ar eiddo preswyl a 28% ar fuddiant a drosglwyddir).

Enghraifft

Mae’ch incwm trethadwy (sef eich incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm) yn £20,000, ac mae’ch enillion trethadwy yn £12,600. Nid yw’ch enillion o eiddo preswyl. 

Yn gyntaf, didynnwch y lwfans rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf oddi wrth eich ennill trethadwy. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, y lwfans yw £3,000 sy’n gadael £9,600 i dalu treth arno. 

Adiwch hwn at eich incwm trethadwy. Oherwydd bod y swm cyfunol, sef £29,600, yn llai na £37,700 (sef y band cyfradd sylfaenol ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025), rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar gyfradd o 10%. 

Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu £960 mewn Treth Enillion Cyfalaf.

Os oes gennych enillion o eiddo preswyl ac o asedion eraill

Gallwch ddefnyddio’ch lwfans rhydd o dreth yn erbyn yr enillion a fyddai’n cael eu trethu ar y cyfraddau uchaf (er enghraifft, lle y byddech yn talu treth ar gyfradd o 24% neu 28%). 

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn ymddiriedolwr, cynrychiolydd personol neu’n fusnes

Mae ymddiriedolwyr, neu gynrychiolwyr personol rhywun sydd wedi marw, yn talu:

  • 24% ar eiddo preswyl
  • 20% ar asedion trethadwy eraill

Mae cynrychiolwyr personol rhywun sydd wedi marw yn talu 28% ar fuddiant a drosglwyddir.

Byddwch yn talu 10% os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth a bod eich enillion yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

8. Os byddwch yn gwneud colled

Gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am golledion ar ased trethadwy er mwyn gostwng cyfanswm eich enillion trethadwy.

Yr enw ar golledion a ddefnyddir fel hyn yw ‘colledion caniataol’.

Defnyddio colledion i ostwng eich ennill

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am golled, mae’r swm yn cael ei ddidynnu oddi wrth yr enillion a wnaethoch yn yr un flwyddyn dreth.

Os yw cyfanswm eich ennill trethadwy yn dal i fod dros y lwfans rhydd o dreth, gallwch ddidynnu colledion sydd heb eu defnyddio o flynyddoedd treth blaenorol. Os byddant yn gostwng eich ennill i’r lwfans rhydd o dreth, gallwch gario’r colledion sy’n weddill ymlaen i flwyddyn dreth yn y dyfodol.

Rhoi gwybod am golledion

Hawliwch am eich colled drwy ei gynnwys ar eich Ffurflen Dreth. Os nad ydych wedi gwneud ennill ar unrhyw adeg, ac os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gallwch ysgrifennu i CThEF yn lle hynny.

Does dim rhaid i chi roi gwybod am golledion ar unwaith – gallwch hawlio hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y gwnaethoch waredu’r ased.

Mae eithriad ar gyfer colledion a wnaed cyn 5 Ebrill 1996 – gallwch hawlio am y rhain o hyd. Mae’n rhaid i chi ddidynnu’r rhain ar ôl unrhyw golledion mwy diweddar.

Colledion wrth waredu asedion i’r teulu a phobl eraill

Eich gŵr, gwraig neu bartner sifil

Fel arfer, nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi neu’n eu gwerthu i’ch priod neu i’ch partner sifil. Ni allwch hawlio colledion yn erbyn yr asedion hyn.

Aelodau eraill o’r teulu a ‘phobl gysylltiedig’

Ni allwch ddidynnu colled sy’n deillio o roi, gwerthu na gwaredu ased i aelod o’r teulu, oni bai eich bod yn gwrthbwyso ennill o’r un person.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i ‘bobl gysylltiedig’ megis partneriaid busnes.

Pobl gysylltiedig

Yn ôl diffiniad CThEF, mae pobl gysylltiedig yn cynnwys:

Hawlio am ased sydd wedi colli ei werth

Gallwch hawlio colledion ar asedion rydych yn dal i berchen arnynt os ydynt yn dod yn ddiwerth, neu’n ‘swm pitw’.

Mae gan CThEF arweiniad ynghylch sut i gyflwyno hawliad am swm pitw (yn agor tudalen Saesneg).

Rheolau arbennig

Mae gan CThEF arweiniad ar y rheolau arbennig ar gyfer colledion:

9. Cadw cofnodion

Mae angen i chi gasglu cofnodion er mwyn cyfrifo’ch enillion a llenwi’ch Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid i chi eu cadw am o leiaf blwyddyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad.

Bydd angen i chi gadw cofnodion yn hirach os ydych wedi anfon eich Ffurflen Dreth yn hwyr, neu os yw Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi dechrau gwiriad o’ch Ffurflen Dreth.

Mae’n rhaid i fusnesau gadw cofnodion am 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cau.

Cofnodion y bydd eu hangen arnoch

Cadwch dderbynebau, biliau ac anfonebau sy’n dangos y dyddiad a’r symiau canlynol:

  • faint a daloch am ased
  • swm unrhyw gostau ychwanegol fel ffioedd ar gyfer cyngor proffesiynol, Tollau Stamp, costau gwella, neu gostau pennu’r gwerth marchnadol
  • faint a gawsoch am yr ased – gan gynnwys pethau fel taliadau a gewch yn nes ymlaen fesul rhandaliad, neu iawndal os cafodd yr ased ei ddifrodi

Dylech hefyd gadw unrhyw gontractau mewn perthynas â phrynu a gwerthu’r ased (er enghraifft, oddi wrth gyfreithwyr neu froceriaid stoc), ynghyd â chopïau o unrhyw brisiadau.

Os nad oes gennych gofnodion

Mae’n rhaid i chi geisio ail-greu’ch cofnodion os na allwch eu hailosod ar ôl iddynt gael eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio.

Os byddwch yn llenwi’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio cofnodion sydd wedi’u hail-greu, bydd angen i chi ddangos:

  • pan fo ffigurau wedi’u hamcangyfrif – eich bod am i CThEF eu derbyn fel ffigurau terfynol
  • pan fo ffigurau’n rhai dros dro – y byddwch yn eu diweddaru’n nes ymlaen gyda’r ffigurau gwirioneddol

10. Gwerth marchnadol

Fel arfer, eich ennill yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y gwnaethoch ei dalu am eich ased a’r hyn y gwnaethoch ei werthu amdano.

Mae rhai sefyllfaoedd lle y byddwch yn defnyddio’r gwerth marchnadol yn lle hynny.

Sefyllfa Defnyddiwch y gwerth marchnadol ar y dyddiadau isod
Rhoddion Dyddiad y rhodd
Asedion a werthwyd am lai na’u gwerth er mwyn helpu’r prynwr Dyddiad y gwerthiant
Asedion a etifeddwyd pan nad ydych yn gwybod gwerth y Dreth Etifeddiant Dyddiad y farwolaeth
Asedion yr oeddech yn berchen arnynt cyn mis Ebrill 1982 31 Mawrth 1982

Gwirio’r gwerth marchnadol

Gall Cyllid a Thollau EM (CThEF) wirio’ch prisiad.

Ar ôl i chi waredu’r ased, llenwch ffurflen ‘gwiriad prisio ôl-drafodyn (yn agor tudalen Saesneg)’. Dylech ei dychwelyd i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen – dylech ganiatáu o leiaf 3 mis i CThEF ymateb.