Dyddiadau taliadau Budd-dal Plant
Gwyliau banc
Fel arfer mae’ch taliad Budd-dal Plant yn cael ei dalu’n gynnar os yw’n ddyledus ar ŵyl y banc (yn Saesneg).
Dyddiad cau | Dyddiad talu |
---|---|
02 Ionawr 2023 | 30 Rhagfyr 2022 |
20 Mawrth 2023 | 21 Mawrth (Gogledd Iwerddon yn unig) |
10 Ebrill 2023 | 6 Ebrill |
1 Mai 2023 | 28 Ebrill |
8 Mai 2023 | 5 Mai |
29 Mai 2023 | 26 Mai |
28 Awst 2023 | 25 Awst |
25 Rhagfyr 2023 | 22 Rhagfyr |
26 Rhagfyr 2023 | 22 Rhagfyr |
01 Ionawr 2024 | 29 Rhagfyr |
Gallwch gyfrifo pan fyddwch yn cael eich talu (yn Saesneg).
Gwyliau cyhoeddus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
Bydd CThEF yn cyhoeddi’ch taliad ar y dyddiad arferol, ond efallai na fydd eich banc yn ei brosesu’n syth.
Gwiriwch gyda’ch banc am y dyddiad y byddwch yn cael eich taliad.
Gwyliau lleol yn yr Alban
Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei ohirio oherwydd gwyliau lleol os ydych yn byw yn y lleoedd canlynol:
- Glasgow ac Aberdeen - gwyliau lleol ar 25 Medi
- Caeredin - gwyliau lleol ar 18 Medi
- Dundee - gwyliau lleol ar 2 Hydref