Dyddiadau taliadau Budd-dal Plant

Neidio i gynnwys y canllaw

Pan fyddwch yn cael eich talu

Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei dalu bob 4 wythnos ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth.

Mae dyddiadau talu gwahanol (yn Saesneg) os yw’n ddyledus ar ŵyl y banc.

Gallwch gael Budd-dal Plant ei dalu’n wythnosol os ydych yn rhiant sengl, neu os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol, fel Cymhorthdal Incwm.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyfrifo’ch taliad nesaf

Gallwch gyfrifo pan fyddwch nesaf yn mynd i gael Budd-dal Plant drwy gyfrif 4 wythnos ymlaen o’ch taliad diwethaf. Peidiwch â chyfrif ymlaen os oedd eich taliad yn ddyledus ar ŵyl banc (yn Saesneg) - mae’r dyddiadau’n wahanol.

Os nad ydych yn gwybod pryd y cawsoch eich taliad diwethaf, gwiriwch eich datganiad banc. Bydd y cyfeirnod talu yn dechrau gyda ‘Budd-dal Plant CThEF’ ac yn cynnwys 18 o gymeriadau.

Eich taliad TAW

Gwiriwch eich hysbysiad o ddyfarniad i ddarganfod pryd mae’ch taliad cyntaf yn ddyledus. Gallwch gyfrif ymlaen 4 wythnos o’r dyddiad hwn i gyfrifo pan fyddwch yn ei gael nesaf.

Mae’n bosibl na fyddwch yn cael eich taliad cyntaf am 12 wythnos (gall fod yn hirach os ydych newydd symud i’r DU). Bydd yn cael ei ôl-ddyddio am hyd at 3 mis.

Os nad ydych chi wedi cael eich taliad

Gwiriwch eich dyddiad talu a chysylltwch â’ch banc cyn ffonio’r Swyddfa Budd-dal Plant (yn Saesneg) os yw taliad yn hwyr.

Mae’n bosibl bod eich taliadau wedi dod i ben oherwydd:

  • nad ydych wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant bod eich banc wedi newid nac am gynlluniau addysg eich plentyn ar ôl iddo droi’n 16 oed
  • nad ydych wedi ymateb i lythyr gan y Swyddfa Budd-dal Plant
  • mae’ch plentyn bellach yn byw gyda rhywun arall (yn Saesneg)
  • nad ydych bellach yn gymwys (yn Saesneg) i hawlio Budd-dal Plant

Rhowch wybod am newidiadau mewn amgylchiadau (yn Saesneg) i wneud yn siŵr bod eich taliadau’n gywir.