Dyddiadau taliadau Budd-dal Plant

Printable version

1. Pan fyddwch yn cael eich talu

Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei dalu bob 4 wythnos ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth.

Mae dyddiadau talu gwahanol (yn Saesneg) os yw’n ddyledus ar ŵyl y banc.

Gallwch gael Budd-dal Plant ei dalu’n wythnosol os ydych yn rhiant sengl, neu os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol, fel Cymhorthdal Incwm.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyfrifo’ch taliad nesaf

Gallwch gyfrifo pan fyddwch nesaf yn mynd i gael Budd-dal Plant drwy gyfrif 4 wythnos ymlaen o’ch taliad diwethaf. Peidiwch â chyfrif ymlaen os oedd eich taliad yn ddyledus ar ŵyl banc (yn Saesneg) - mae’r dyddiadau’n wahanol.

Os nad ydych yn gwybod pryd y cawsoch eich taliad diwethaf, gwiriwch eich datganiad banc. Bydd y cyfeirnod talu yn dechrau gyda ‘Budd-dal Plant CThEF’ ac yn cynnwys 18 o gymeriadau.

Eich taliad TAW

Gwiriwch eich hysbysiad o ddyfarniad i ddarganfod pryd mae’ch taliad cyntaf yn ddyledus. Gallwch gyfrif ymlaen 4 wythnos o’r dyddiad hwn i gyfrifo pan fyddwch yn ei gael nesaf.

Mae’n bosibl na fyddwch yn cael eich taliad cyntaf am 12 wythnos (gall fod yn hirach os ydych newydd symud i’r DU). Bydd yn cael ei ôl-ddyddio am hyd at 3 mis.

Os nad ydych chi wedi cael eich taliad

Gwiriwch eich dyddiad talu a chysylltwch â’ch banc cyn ffonio’r Swyddfa Budd-dal Plant (yn Saesneg) os yw taliad yn hwyr.

Mae’n bosibl bod eich taliadau wedi dod i ben oherwydd:

  • nad ydych wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant bod eich banc wedi newid nac am gynlluniau addysg eich plentyn ar ôl iddo droi’n 16 oed
  • nad ydych wedi ymateb i lythyr gan y Swyddfa Budd-dal Plant
  • mae’ch plentyn bellach yn byw gyda rhywun arall (yn Saesneg)
  • nad ydych bellach yn gymwys (yn Saesneg) i hawlio Budd-dal Plant

Rhowch wybod am newidiadau mewn amgylchiadau (yn Saesneg) i wneud yn siŵr bod eich taliadau’n gywir.

2. Gwyliau banc

Fel arfer mae’ch taliad Budd-dal Plant yn cael ei dalu’n gynnar os yw’n ddyledus ar ŵyl y banc (yn Saesneg).

Dyddiad cau   Dyddiad talu
02 Ionawr 2023 30 Rhagfyr 2022
20 Mawrth 2023 21 Mawrth (Gogledd Iwerddon yn unig)
10 Ebrill 2023 6 Ebrill
1 Mai 2023 28 Ebrill
8 Mai 2023 5 Mai
29 Mai 2023 26 Mai
28 Awst 2023 25 Awst
25 Rhagfyr 2023 22 Rhagfyr
26 Rhagfyr 2023 22 Rhagfyr
01 Ionawr 2024 29 Rhagfyr

Gallwch gyfrifo pan fyddwch yn cael eich talu (yn Saesneg).

Gwyliau cyhoeddus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Bydd CThEF yn cyhoeddi’ch taliad ar y dyddiad arferol, ond efallai na fydd eich banc yn ei brosesu’n syth.

Gwiriwch gyda’ch banc am y dyddiad y byddwch yn cael eich taliad.

Gwyliau lleol yn yr Alban

Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei ohirio oherwydd gwyliau lleol os ydych yn byw yn y lleoedd canlynol:

  • Glasgow ac Aberdeen - gwyliau lleol ar 25 Medi
  • Caeredin - gwyliau lleol ar 18 Medi
  • Dundee - gwyliau lleol ar 2 Hydref