Anghytuno â phenderfyniad treth

Printable version

1. Trosolwg

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr o benderfyniad atoch a fydd yn rhoi gwybod a allwch apelio yn erbyn penderfyniad treth.

Gallwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau ynghylch:

  • eich bil treth (er enghraifft, Treth Incwm, Treth Gorfforaeth, TAW)
  • hawliad am ryddhad treth
  • cais am wybodaeth neu gais i wirio’ch cofnodion busnes
  • cosb (er enghraifft, os gwnaethoch dalu’ch treth yn hwyr neu gyflwyno’ch ffurflen dreth yn hwyr)

Gall rhywun sy’n delio â’ch trethi, er enghraifft cyfrifydd, wneud eich apêl hefyd.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu’ch costau eich hun os byddwch yn apelio yn erbyn penderfyniad treth. Mae’n bosibl y gallwch oedi cyn talu cosb neu unrhyw dreth sydd arnoch hyd nes bod eich apêl wedi’i datrys.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os oes angen help arnoch

Gallwch gysylltu â CThEF os oes gennych ymholiad am benderfyniad treth.

Os nad ydych yn deall y penderfyniad, gallwch hefyd gael cyngor gan CThEF neu help proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg).

Os na wnaeth CThEF weithredu ar wybodaeth

Efallai y gallwch ofyn i CThEF ganslo’r dreth sydd arnoch. Gallwch ond gwneud hyn os na wnaeth CThEF weithredu ar wybodaeth y gwnaethoch chi, eich cyflogwr neu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ei rhoi iddo.

Gallwch ofyn i CThEF a oes arnoch y canlynol:

  • Treth Incwm, er enghraifft, oherwydd eich bod ar y cod treth anghywir
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4

2. Apelio yn erbyn penderfyniad treth

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ysgrifennu atoch i roi gwybod a allwch apelio yn erbyn penderfyniad treth.

Mae’r modd yr ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad yn amrywio, yn dibynnu a yw’n dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm
  • Treth TWE
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • Treth Etifeddiant

Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:

  • TAW
  • Toll Ecséis
  • Toll Dramor
  • trethi amgylcheddol fel y Dreth Deunydd Pacio Plastig, y Dreth Dirlenwi neu’r Ardoll Newid Hinsawdd

Apelio yn erbyn penderfyniad treth uniongyrchol

Bydd eich llythyr o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi sut i wneud apêl ac erbyn pryd y mae’n rhaid i chi apelio. Mae’r dyddiad cau fel arfer cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr.

Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • defnyddio’r ffurflen apelio a gawsoch gyda’ch llythyr o benderfyniad
  • ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad yn y llythyr

Os nad oes gennych lythyr, gallwch ysgrifennu at swyddfa CThEF sy’n gysylltiedig â’ch ffurflen.

Mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • eich enw neu enw’ch busnes
  • eich cyfeirnod treth (bydd hwn ar y llythyr o benderfyniad)
  • yr hyn yr ydych yn anghytuno ag ef, a’ch rheswm dros anghytuno

Gallwch hefyd gynnwys y ffigurau sy’n gywir yn eich barn chi, a sut rydych wedi’u cyfrifo, os dymunwch wneud hynny.

Dylech roi gwybod i CThEF hefyd os oes gennych wybodaeth ychwanegol, neu os ydych yn meddwl bod CThEF wedi methu rhywbeth.

Ar ôl i chi anfon eich apêl

Bydd y gweithiwr achos a wnaeth y penderfyniad yn edrych ar eich achos eto ac yn ystyried eich apêl.

Os nad yw’n newid ei benderfyniad ar ôl hyn, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi. Mae hyn yn golygu y bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu gan rywun yn CThEF nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol.

Gallwch dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Fel arfer, mae adolygiadau’n gynt nag apeliadau i’r tribiwnlys treth.

Bydd gennych 30 diwrnod o ddyddiad y cynnig o adolygiad i dderbyn y cynnig o adolygiad.

Apelio yn erbyn penderfyniad treth anuniongyrchol

Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn ei lythyr o benderfyniad. Gallwch naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Bydd gennych 30 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad i dderbyn y cynnig.

Os yw’r tollau wedi cymryd eich pethau, gallwch ofyn am eu cael yn ôl (yn agor tudalen Saesneg).

3. Apelio yn erbyn cosb

Gallwch apelio ar Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn erbyn cosb a godir, er enghraifft am y rhesymau canlynol:

  • ffurflen wallus
  • cyflwyno’ch ffurflen dreth yn hwyr
  • talu treth yn hwyr
  • peidio â chadw cofnodion digonol

Mae sut y byddwch yn apelio yn dibynnu a yw’r gosb ar gyfer naill ai:

  • treth anuniongyrchol, er enghraifft TAW, Toll Dramor neu Doll Ecséis
  • treth uniongyrchol, er enghraifft Treth Incwm, Treth Gorfforaeth neu Dreth Enillion Cyfalaf

Efallai y caiff eich cosb ei chanslo neu ei diwygio os oes gennych esgus rhesymol.

Sut i apelio yn erbyn cosb treth anuniongyrchol

Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn eich llythyr o benderfyniad ynghylch cosb.

Gallwch naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Sut i apelio yn erbyn cosb treth uniongyrchol

Bydd angen i chi ofyn i CThEF fwrw golwg dros eich achos eto ac ystyried eich apêl.

Os bydd CThEF yn anfon llythyr o gosb atoch drwy’r post, defnyddiwch y ffurflen apelio sy’n dod gydag ef. Fel arall, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llythyr.

Ar gyfer Hunanasesiad, TWE, TAW a Threth Gorfforaeth, mae dogfennau ychwanegol y gallwch eu defnyddio i apelio, neu ddulliau eraill o apelio.

Os ydych yn apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad

Os ydych wedi cael cosb am beidio ag anfon ffurflen dreth, ond nad oes rhaid i chi anfon un, gallwch ofyn i CThEF i’w chanslo. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Os ydych yn apelio yn erbyn cosb am gyflwyno ffurflen dreth yn hwyr neu am dalu’n hwyr, mae’r modd yr ydych yn apelio yn dibynnu ar y canlynol:

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y dyddiad y cafodd y gosb ei chodi
  • y dyddiad y gwnaethoch gyflwyno’ch ffurflen dreth Hunanasesiad
  • manylion eich esgus rhesymol dros gyflwyno’n hwyr

Dim ond y partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) a all apelio yn erbyn cosb ar gyfer ffurflen dreth partneriaeth.

Gallwch hefyd apelio drwy anfon llythyr at CThEF:

Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Os ydych yn gyflogwr sy’n apelio yn erbyn cosb TWE

Gallwch apelio ar-lein os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer gwasanaeth TWE i gyflogwyr CThEF. Ar ôl i chi fewngofnodi, dewiswch ‘Apelio yn erbyn cosb’. Byddwch yn cael cydnabyddiaeth ar unwaith pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl.

Os gwnaethoch gyflwyno ffurflen TAW neu ffurflen Dreth Gorfforaeth yn hwyr

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflenni penodol hyn ar gyfer:

Os nad oes gennych ffurflen apelio

Gallwch anfon llythyr wedi’i lofnodi at CThEF yn lle hynny. Mae’n rhaid i chi gynnwys esboniad llawn dros gyflwyno’ch ffurflen neu wneud eich taliad yn hwyr, gan gynnwys dyddiadau.

Dylech hefyd gynnwys y canlynol yn eich llythyr:

  • eich enw
  • eich cyfeirnod – er enghraifft, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad neu’ch rhif cofrestru TAW

Os nad oeddech yn gallu cyflwyno neu dalu oherwydd problemau cyfrifiadurol, dylech gynnwys y canlynol:

  • y dyddiad y gwnaethoch geisio cyflwyno neu dalu ar-lein
  • manylion unrhyw neges wall gan y system

Anfonwch eich hawliad i’r swyddfa yn CThEF sy’n ymwneud â’ch ffurflen dreth.

Dyddiadau cau

Fel arfer, cewch apelio cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad yr anfonwyd eich cosb.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, rhaid i chi esbonio’r rheswm dros yr oedi fel y gall CThEF benderfynu a fydd yn ystyried eich apêl.

Cael adolygiad

Os na fydd CThEF yn newid y penderfyniad a’ch bod yn dal i anghytuno, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.

4. Cael adolygiad o benderfyniad treth neu benderfyniad ynglŷn â chosb

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth neu benderfyniad ynglŷn â chosb, gallwch naill ai:

  • derbyn y cynnig o adolygiad gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ac yna apelio ar y tribiwnlys treth os nad ydych yn fodlon o hyd
  • apelio’n uniongyrchol ar y tribiwnlys treth

Fel arfer mae adolygiadau gan CThEF yn gynt nag apeliadau i’r tribiwnlys treth.

Mae’n rhaid i chi apelio ar CThEF yn gyntaf os ydych yn herio penderfyniad treth uniongyrchol neu gosb dreth uniongyrchol.

Os ydych yn derbyn adolygiad gan CThEF

Bydd rhywun yn CThEF nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol yn adolygu’ch penderfyniad treth. Yr enw ar hyn yw ‘adolygiad statudol’.

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch gael adolygiad.

Fel arfer, mae adolygiadau’n cymryd 45 diwrnod, ond bydd CThEF yn cysylltu â chi os bydd yn cymryd yn hirach.

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i roi canlyniad ei adolygiad i chi.

Apelio ar y tribiwnlys treth

Gallwch apelio ar y tribiwnlys treth:

  • os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad a gawsoch yn sgil adolygiad gan CThEF – fel arfer, mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i’r penderfyniad
  • yn lle derbyn adolygiad gan CThEF

Gallwch hefyd ystyried dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR) (yn agor tudalen Saesneg), ond mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys treth yn gyntaf.

5. Oedi cyn talu wrth apelio

Mae’n bosibl y gallwch oedi cyn talu bil treth neu gosb os ydych yn anghytuno â’r swm.

Treth uniongyrchol

Os ydych wedi apelio ar Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn erbyn penderfyniad treth uniongyrchol (fel Treth Incwm, Treth Gorfforaeth neu Dreth Enillion Cyfalaf), ysgrifennwch i’r swyddfa yn CThEF a anfonodd y penderfyniad atoch, gan roi gwybod am y canlynol:

  • pam rydych yn meddwl bod y swm y gofynnwyd i chi ei dalu’n ormodol
  • beth rydych yn meddwl yw’r swm cywir a phryd byddwch yn ei dalu

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi ar bapur a yw’n cytuno.

Cosb

Os ydych wedi apelio yn erbyn cosb, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r gosb hyd nes bod eich apêl wedi’i setlo.

Treth anuniongyrchol

Os ydych wedi gofyn i CThEF am adolygiad o benderfyniad treth anuniongyrchol, er enghraifft, TAW neu Dreth Premiwm Yswiriant, ni fydd yn rhaid i chi dalu hyd nes bod yr adolygiad wedi dod i ben.

Os byddwch yn apelio ar y tribiwnlys treth, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth cyn i’r tribiwnlys ystyried eich apêl. Gallwch ofyn am gael gohirio talu’r dreth os byddai ei thalu’n achosi anawsterau ariannol difrifol i chi (er enghraifft, methdaliad neu ddatodiad).

Pan fydd penderfyniad terfynol wedi’i wneud, mae’n rhaid i chi dalu unrhyw arian sydd arnoch yn llawn, gan gynnwys llog.

Cosb

Os ydych wedi gofyn am adolygiad, neu wedi apelio ar y tribiwnlys ynghylch cosb, ni fydd CThEF yn gofyn i chi dalu’r gosb hyd nes bod eich apêl wedi’i setlo.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad gan CThEF

Gallwch ofyn am adolygiad o’r penderfyniad os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.

6. Esgusodion rhesymol

Gallwch apelio yn erbyn rhai cosbau os oes gennych esgus rhesymol, er enghraifft dros gyflwyno’ch ffurflen yn hwyr neu dalu’n hwyr.

Yr hyn a all gyfrif fel esgus rhesymol

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth y gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i’w fodloni, er enghraifft:

  • bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch ffurflen dreth neu wneud taliad
  • bu’n rhaid i chi aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, a gwnaeth hynny eich atal rhag delio â’ch materion treth
  • roedd gennych salwch difrifol neu salwch a oedd yn bygwth eich bywyd
  • methodd eich cyfrifiadur neu’ch meddalwedd yn union cyn i chi baratoi’ch ffurflen ar-lein, neu tra oeddech yn gwneud hynny
  • roedd problemau gyda gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg) ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF)
  • gwnaeth tân, llifogydd neu ladrad eich atal rhag llenwi’ch ffurflen dreth
  • roedd oedi gyda’r post na allech fod wedi’i ragweld
  • oedi yn ymwneud ag anabledd neu salwch meddwl sydd gennych
  • nid oeddech yn ymwybodol o’ch ymrwymiad cyfreithiol neu roeddech wedi’i gamddeall
  • gwnaethoch ddibynnu ar rywun arall (yn agor tudalen Saesneg) i anfon eich ffurflen atom, ac ni wnaeth hynny

Mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen neu’ch taliad cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch esgus rhesymol gael ei ddatrys.

Yr hyn na fydd yn cyfrif fel esgus rhesymol

Ni fydd y canlynol yn cael eu derbyn fel esgusodion rhesymol:

  • gwrthodwyd eich siec neu methodd eich taliad gan nad oedd gennych ddigon o arian
  • gwnaethoch ei chael hi’n rhy anodd defnyddio system ar-lein CThEF
  • ni chawsoch nodyn atgoffa gan CThEF
  • gwnaethoch gamgymeriad yn eich ffurflen dreth