Trosolwg

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Treth) os ydych am herio rhai penderfyniadau gan:

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth, CThEF, Llu’r Ffiniau, NCA, WRA a’r Comisiwn Hapchwarae. Bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Apelio yn erbyn penderfyniad CThEF

Gallwch apelio yn erbyn y rhan fwyaf o benderfyniadau ynghylch ‘treth uniongyrchol’ a ‘threth anuniongyrchol’.

Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm
  • Treth Talu Wrth Ennill
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • Treth Etifeddiant

Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth ar Werth
  • Toll Gartref
  • Toll Dramor

Mae sut i apelio yn erbyn penderfyniad yn dibynnu ar p’un a yw’n ymwneud â threth uniongyrchol neu dreth anuniongyrchol.

Mae’n rhaid i chi apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch treth uniongyrchol i CThEF cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.

Gan amlaf, gallwch apelio yn erbyn penderfyniadau treth anuniongyrchol yn syth i’r tribiwnlys. Cyn apelio i’r tribiwnlys, gallwch wneud cais am adolygiad statudol. Gall hyn fod yn gynt ac yn rhatach na mynd at y tribiwnlys. Gallwch apelio i’r tribiwnlys o hyd os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.

Mae’n rhaid i chi apelio cyn pen y terfyn amser - fel arfer, bydd wedi’i nodi ar unrhyw lythyr o benderfyniad a gewch.

Os ydych wedi apelio i’r tribiwnlys a bod eich apêl wedi’i derbyn, gallwch wneud cais i CThEF am ddull amgen o ddatrys anghydfod (ADR).

Mae yna ffordd wahanol i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch credydau treth a Treth y Cyngor.

Os na allwch dalu

Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth anuniongyrchol y mae CThEF yn dweud sy’n ddyledus gennych ar unwaith. Gwnewch gais caledi os na allwch wneud hynny. Gwnewch apêl i’r tribiwnlys os na fydd CThEF yn gadael i chi oedi cyn talu.

Gan amlaf, gallwch oedi cyn talu unrhyw dreth uniongyrchol tan ar ôl i’r apêl gael ei phenderfynu. Gwnewch apêl i’r tribiwnlys os na fydd CThEF yn gadael i chi oedi cyn talu.

Nid oes rhaid i chi dalu ar unwaith os ydych chi’n apelio yn erbyn cosb.

Apêl am nwyddau wedi’u hatafaelu

Rhaid i chi ofyn i Lu’r Ffiniau neu CThEF fynd â’ch achos i’r llys ynadon (gelwir hyn yn dechrau ‘achos condemnio’) os credwch na ddylent fod wedi cymryd (neu ‘atafaelu’) eich nwyddau.

Efallai y gallwch apelio i’r tribiwnlys os yw Llu’r Ffiniau neu CThEF:

  • yn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu
  • yn dweud bod angen i chi dalu i gael eich nwyddau wedi’u hatafaelu yn ôl

Cyn y gallwch apelio yn erbyn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu, rhaid i chi ofyn i naill ai Llu’r Ffiniau neu CThEF adolygu eu penderfyniad. Os ydych wedi methu’r terfyn amser ar gyfer adolygiad, gallwch wneud cais i’r tribiwnlys i gael caniatâd i ofyn am adolygiad hwyr.

Os gofynnwyd i chi dalu toll neu gosb

Efallai y gallwch apelio os yw CThEF:

  • yn anfon asesiad atoch ar gyfer toll
  • yn gosod cosb arnoch

Cyn i chi apelio, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu am asesiad toll. Os na allwch, gallwch wneud cais i CThEF i ohirio ei dalu tan ar ôl i’r apêl ddod i ben.

Nid oes angen i chi dalu cosb cyn i chi apelio.

Ceisiadau cau

Gallwch wneud cais am ‘hysbysiad cau’ os yw CThEF yn agor ymholiad i wirio’ch ffurflen dreth am ‘dreth uniongyrchol’ ac rydych chi am iddo gael ei gau.

Bydd y tribiwnlys yn penderfynu pryd y dylai CThEF gau’r ymchwiliad.

Ni allwch wneud cais am hysbysiad cau os yw’ch ffurflen dreth yn cael ei gwirio am dreth anuniongyrchol.

Apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)

Gall NCA wirio’ch ffurflen dreth yn lle CThEF mewn rhai achosion.

Gallwch wneud apêl os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad trwy ysgrifennu at NCA. Mae’n rhaid i chi apelio i’r NCA cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol / National Crime Agency
Units 1 - 6 Citadel Place
Tinworth Street
Llundain
SE11 5EF

Apelio yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)

Gallwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wnaed gan WRA ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Gallwch hefyd wneud cais i gau ymholiad i’ch ffurflen dreth.

Rhaid i chi apelio o fewn y terfyn amser - nodir hwn fel arfer ar eich llythyr penderfyniad.

Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu’r hyn y mae WRA yn ei ddweud sy’n ddyledus gennych ymlaen llaw. Gallwch ofyn am gael talu ar ôl i chi gael penderfyniad am eich apêl. Os byddwch yn oedi cyn talu, efallai y codir llog arnoch ar y swm sy’n ddyledus gennych.

Cyn i chi apelio, gallwch ofyn i WRA newid eu penderfyniad.

Cymorth y gallwch ei gael

Efallai y byddwch am gael cymorth a chyngor cyn i chi apelio. Efallai y gall cyfrifydd, cynghorydd treth neu gynghorydd cyfreithiol eich helpu chi.

Gallwch gael cyngor am ddim gan:

Darllenwch wybodaeth fwy manwl ynghylch apelio i’r tribiwnlys.