Anghytuno â phenderfyniad treth
Oedi cyn talu wrth apelio
Mae’n bosibl y gallwch oedi cyn talu bil treth neu gosb os ydych yn anghytuno â’r swm.
Treth uniongyrchol
Os ydych wedi apelio ar Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn erbyn penderfyniad treth uniongyrchol (fel Treth Incwm, Treth Gorfforaeth neu Dreth Enillion Cyfalaf), ysgrifennwch i’r swyddfa yn CThEF a anfonodd y penderfyniad atoch, gan roi gwybod am y canlynol:
- pam rydych yn meddwl bod y swm y gofynnwyd i chi ei dalu’n ormodol
- beth rydych yn meddwl yw’r swm cywir a phryd byddwch yn ei dalu
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi ar bapur a yw’n cytuno.
Cosb
Os ydych wedi apelio yn erbyn cosb, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r gosb hyd nes bod eich apêl wedi’i setlo.
Treth anuniongyrchol
Os ydych wedi gofyn i CThEF am adolygiad o benderfyniad treth anuniongyrchol, er enghraifft, TAW neu Dreth Premiwm Yswiriant, ni fydd yn rhaid i chi dalu hyd nes bod yr adolygiad wedi dod i ben.
Os byddwch yn apelio ar y tribiwnlys treth, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth cyn i’r tribiwnlys ystyried eich apêl. Gallwch ofyn am gael gohirio talu’r dreth os byddai ei thalu’n achosi anawsterau ariannol difrifol i chi (er enghraifft, methdaliad neu ddatodiad).
Pan fydd penderfyniad terfynol wedi’i wneud, mae’n rhaid i chi dalu unrhyw arian sydd arnoch yn llawn, gan gynnwys llog.
Cosb
Os ydych wedi gofyn am adolygiad, neu wedi apelio ar y tribiwnlys ynghylch cosb, ni fydd CThEF yn gofyn i chi dalu’r gosb hyd nes bod eich apêl wedi’i setlo.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad gan CThEF
Gallwch ofyn am adolygiad o’r penderfyniad os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.