Talu eich bil Treth Gorfforaeth

Printable version

1. Trosolwg

Bydd y dyddiad cau ar gyfer eich taliad yn dibynnu ar eich elw trethadwy.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Elw trethadwy hyd at £1.5 miliwn

Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth naw mis ac un diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu. Fel arfer, eich cyfnod cyfrifyddu yw’ch blwyddyn ariannol, ond mae’n bosibl y bydd gennych ddau gyfnod cyfrifyddu yn ystod y flwyddyn y gwnaethoch sefydlu’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

Elw trethadwy dros £1.5 miliwn

Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth fesul rhandaliad.

Gwiriwch y rheolau a’r dyddiadau cau:

Dulliau o dalu

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os na fyddwch yn talu mewn pryd. Bydd yn talu llog i chi (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch yn talu’ch treth yn gynnar.

Talu nawr

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu Treth Gorfforaeth drwy’r post.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).

2. Debyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu a gwneud newidiadau i Ddebyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich cwmni.

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 cymeriad o hyd, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn ei dalu.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)
  • yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘bwrw golwg dros eich cyfrif’, ‘cyfnod cyfrifyddu’, yna dewiswch y cyfnod cywir

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf.

Unwaith y byddwch eisoes wedi awdurdodi Debyd Uniongyrchol gan CThEF, dylai gymryd 3 diwrnod gwaith bob tro y byddwch yn talu.

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflenni banc fel ‘HMRC NDDS’.

3. Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch bil Treth Gorfforaeth yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Treth Gorfforaeth.

Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn ei dalu.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’, neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)
  • yn cyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘bwrw golwg dros gyfrif’, wedyn ‘cyfnod cyfrifyddu’, a dewiswch y cyfnod cywir

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Gwiriwch eich cyfrif i sicrhau bod y taliad wedi mynd allan ar y diwrnod cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, siaradwch â’ch banc.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Bydd eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF yn rhoi gwybod i chi i ba gyfrif y dylech dalu. Os nad ydych yn siŵr, defnyddiwch HMRC Cumbernauld.

  • cod didoli: 08 32 10
  • rhif y cyfrif: 12001039
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

Neu:

  • cod didoli: 08 32 10
  • rhif y cyfrif: 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Cyfeirnod

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 cymeriad o hyd, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn ei dalu.

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Os ydych wedi talu drwy drosglwyddiad banc yn y gorffennol ac wedi cadw CThEF fel talai, bydd eich banc wedi cadw’r cyfeirnod diwethaf i chi ei ddefnyddio yn awtomatig. Bydd angen i chi ddiweddaru hwn efo’r cyfeirnod cywir.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
  • yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘Bwrw golwg dros eich datganiad Treth Gorfforaeth’, ‘cyfnodau cyfrifyddu’, yna dewiswch y cyfnod cywir

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Cyfrifon tramor

Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB62 BARC 2011 4770 2976 90

  • cod adnabod y banc (BIC) - BARCGB22

  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

Neu:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92

  • cod adnabod y banc (BIC) - BARCGB22

  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.

Taliadau lluosog drwy CHAPS

Anfonwch ffurflen ymholiadau ar-lein os hoffech wneud taliad unigol i gwmpasu mwy nag un cwmni ar gyfer yr un cyfnod cyfrifyddu.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

5. Â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu’ch bil Treth Gorfforaeth yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu.

Cyfeirnod

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 cymeriad o hyd, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn ei dalu.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF

  • yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘Bwrw golwg dros eich datganiad Treth Gorfforaeth’, ‘cyfnodau cyfrifyddu’, yna dewiswch y cyfnod cywir

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Dim ond os oes gennych slip talu i mewn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) y gallwch dalu yn eich cangen ag arian parod neu siec.

Talu â siec

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gefn eich siec.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF

  • yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘bwrw golwg dros eich cyfrif’, ‘cyfnod cyfrifyddu’, ac yna dewiswch y cyfnod cywir

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF.

Os nad oes gennych slip talu i mewn

Bydd angen i chi dalu drwy ddull arall yn lle hynny, er enghraifft:

7. Taliadau ar gyfer grŵp o gwmnïau

Os yw’ch cwmni mewn grŵp, gallwch dalu Treth Gorfforaeth o dan Drefniant Taliadau Grŵp (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth atoch.

8. Rhoi gwybod i CThEF nad oes taliad yn ddyledus

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad oes gennych unrhyw beth i’w dalu. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd CThEF yn anfon atoch nodynnau atgoffa i dalu.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF drwy lenwi’r ffurflen ‘dim i’w dalu’ (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth eich cwmni o hyd.

9. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Gwiriwch eich cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i weld a yw’ch taliad wedi dod i law. Dylai gael ei ddiweddaru o fewn ychydig o ddiwrnodau wedi i’r taliad ddod i law CThEF.