Cofrestru ar gyfer TAW
Gwerthu neu symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE
Mae angen rhif TAW arnoch sy’n dechrau gydag XI i fasnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Rydych yn gymwys i weithredu o dan delerau Protocol Gogledd Iwerddon os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’ch nwyddau wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon ar adeg eu gwerthu
- rydych yn cael nwyddau yng Ngogledd Iwerddon gan fusnesau yn yr UE sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW at ddibenion busnes
- rydych yn gwerthu neu’n symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad yn yr UE
Gwiriwch a ydych eisoes wedi’ch nodi fel un sy’n masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Bydd rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei helpu i nodi eich bod yn masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn golygu’r canlynol:
- gallwch ddefnyddio symleiddiadau TAW wrth i chi fasnachu â’r UE
- gall eich cyflenwyr godi tâl ar nwyddau y maent yn eu hanfon atoch o’r UE ar gyfradd sero
- gall eich masnach â’r UE gael ei rhestru o hyd fel ‘caffaeliadau ac anfoniadau’ ar eich Ffurflen TAW
Rhoi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys.
Bydd angen arnoch:
- y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer TAW
- eich rhif cofrestru TAW
- enw’ch busnes
Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF
Cewch e-bost gan CThEF i gadarnhau eich bod wedi cael eich cofnodi fel un sy’n gweithredu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Ar ôl i chi gael yr e-bost, bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r rhagddodiad XI cyn eich rhif TAW arferol – er enghraifft, XI 123456789 yn lle GB 123456789.
Defnyddio’ch rhif TAW XI
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch rhif TAW XI ar bob dogfen wrth gyfathrebu â chwsmeriaid neu gyflenwyr yn yr UE (er enghraifft, ar anfonebau).
Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE, cwblhewch Restr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF neu’n defnyddio rhif TAW XI, gallai olygu eich bod yn talu neu’n codi’r TAW anghywir ar nwyddau.
Os ydych wedi rhoi’r gorau i werthu neu symud nwyddau yng Ngogledd Iwerddon
Mae’n rhaid i chi gwblhau unrhyw ymrwymiadau sydd gennych ar gyfer y cynlluniau canlynol cyn dirymu eich statws fel masnachwr yng Ngogledd Iwerddon:
- Ffurflenni TAW ar gyfer cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW
- Rhestrau Gwerthiannau yn y GE
- Ad-daliadau TAW yr UE
Ni fyddwch yn gallu cwblhau unrhyw ymrwymiadau ar gyfer y cynlluniau hyn ar ôl i chi roi gwybod i CThEF eich bod yn dymuno dirymu eich statws.