Cofrestru ar gyfer TAW
Printable version
1. Pryd i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw’r canlynol yn wir:
- roedd cyfanswm eich trosiant trethadwy TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf dros £90,000 (y trothwy TAW)
- rydych yn disgwyl i’ch trosiant fod yn fwy na £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru (ni waeth beth fo’r trosiant trethadwy TAW) os yw pob un o’r canlynol yn wir:
- rydych wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU
- mae’ch busnes wedi’i leoli y tu allan i’r DU
- rydych yn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)
Os nad ydych yn sicr a yw hyn yn berthnasol i chi, darllenwch yr arweiniad ar bersonau sy’n agored i dreth y DU, ond heb eu sefydlu yma (NETPs) (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer TAW os yw’ch trosiant yn llai na £90,000 (‘cofrestriad gwirfoddol’).
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw TAW sydd arnoch i CThEF o’r dyddiad y mae’n eich cofrestru.
Os yw popeth rydych yn ei werthu wedi’i eithrio rhag TAW, nid oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Os aethoch y tu hwnt i’r trothwy yn ystod y 12 mis diwethaf
Mae’n rhaid i chi gofrestru os, erbyn diwedd unrhyw fis, oedd cyfanswm eich trosiant trethadwy TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf yn fwy na £90,000.
Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis yr aethoch dros y trothwy. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym yw diwrnod cyntaf yr ail fis ar ôl i chi fynd dros y trothwy.
Enghraifft
Rhwng 10 Gorffennaf 2019 a 9 Gorffennaf 2020, eich trosiant trethadwy TAW yw £100,000. Dyna’r tro cyntaf iddo fynd dros y trothwy TAW. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 30 Awst 2020. 1 Medi 2020 yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.
Os ydych yn mynd i fynd y tu hwnt i’r trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf
Mae’n rhaid i chi gofrestru os sylweddolwch fod cyfanswm eich trosiant trethadwy TAW blynyddol yn mynd i fynd dros y trothwy £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn diwedd y cyfnod hwnnw o 30 diwrnod. Mae’r dyddiad y daw’r cofrestriad i rym yn cyfateb i’r dyddiad y gwnaethoch sylweddoli, nid y dyddiad yr aeth eich trosiant dros y trothwy.
Enghraifft
Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau. Cewch eich talu ar ddiwedd mis Mai. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 30 Mai. 1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.
Os ydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW ac sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon
Bydd yn rhaid i chi gofrestru os ydych dim ond yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpas’ TAW ond eich bod yn prynu nwyddau am fwy na £90,000 oddi wrth gyflenwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE i’w defnyddio yn eich busnes.
Os ydych yn cymryd busnes drosodd sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw trosiant trethadwy cyfunol y busnes newydd a’ch busnes presennol dros y trothwy.
Cyfrifo’ch trosiant
Eich trosiant yw cyfanswm gwerth popeth rydych yn ei werthu nad yw wedi’i eithrio rhag TAW. Mae hefyd yn cynnwys:
-
nwyddau cyfradd sero
-
nwyddau y gwnaethoch eu llogi neu eu rhoi ar fenthyg i gwsmeriaid
-
nwyddau busnes a ddefnyddiwyd at ddibenion personol
-
nwyddau y gwnaethoch eu ffeirio, eu rhan-gyfnewid (yn agor tudalen Saesneg) neu eu rhoi yn rhodd
-
gwasanaethau a gawsoch gan fusnesau mewn gwledydd eraill y bu’n rhaid i chi ddefnyddio’r ‘tâl gwrthdro’ (yn agor tudalen Saesneg) arnynt
-
gwaith adeiladu dros £100,000 (yn agor tudalen Saesneg) a wnaeth eich busnes drosto’i hun
Cofrestru’n hwyr
Os ydych yn cofrestru’n hwyr, mae’n rhaid i chi dalu TAW ar unrhyw werthiannau rydych wedi’u gwneud ers y dyddiad y dylech fod wedi cofrestru.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, yn dibynnu ar faint sydd arnoch a pha mor hwyr yw’ch cofrestriad.
Os byddwch yn mynd dros y trothwy dros dro
Gallwch wneud cais am ‘eithriad’ rhag cofrestru os bydd eich trosiant trethadwy yn mynd dros y trothwy dros dro.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) gyda thystiolaeth sy’n dangos pam rydych yn credu na fydd eich trosiant trethadwy TAW yn mynd dros y trothwy datgofrestru o £88,000 yn ystod y 12 mis nesaf.
Bydd CThEF yn ystyried eich eithriad ac yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig os byddwch yn cael un. Os na fyddwch yn cael eithriad, bydd CThEF yn eich cofrestru ar gyfer TAW.
2. Sut i gofrestru ar gyfer TAW
Gallwch fel arfer gofrestru ar gyfer TAW ar-lein.
Gallwch ddechrau codi TAW ar eich gwerthiannau ac adennill TAW ar eitemau a brynoch o’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW yn dibynnu ar eich math o fusnes.
Os ydych yn gwmni cyfyngedig
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif cofrestru’ch cwmni
- manylion cyfrif banc eich busnes
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- manylion eich trosiant blynyddol
Bydd hefyd angen i chi roi gwybodaeth am eich:
- Hunanasesiad
- Treth Gorfforaeth
- Talu Wrth Ennill (TWE)
Os ydych chi’n unigolyn neu’n bartneriaeth
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dogfen adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru
- manylion eich cyfrif banc
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes gennych un
- manylion eich trosiant blynyddol
Bydd angen i chi hefyd roi gwybodaeth am eich:
- Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- slipiau cyflog
- P60
Cofrestru ar gyfer TAW
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer TAW. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Nid oes rhaid i chi gwblhau’ch cofrestriad cyfan ar un tro. Gallwch gadw’ch cofnod a mynd yn ôl ato’n ddiweddarach os oes angen.
Pan na allwch gofrestru ar-lein
Mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r post gan ddefnyddio VAT1 os ydych:
-
yn dymuno gwneud cais am ‘eithriad rhag cofrestru’
-
yn ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol (yn agor tudalen Saesneg)
-
yn cofrestru adrannau neu unedau busnes corff corfforaethol o dan rifau TAW gwahanol
Cofrestrwch drwy’r post gan ddefnyddio:
-
ffurflen VAT1A os ydych yn fusnes yn yr UE sy’n ‘gwerthu o bell’ i Ogledd Iwerddon
-
ffurflen VAT1B os ydych yn mewnforio (‘caffael’) nwyddau sy’n werth mwy na £90,000 i Ogledd Iwerddon o wlad yn yr UE
-
ffurflen VAT1C os ydych yn gwaredu asedion a’ch bod wedi hawlio ad-daliadau Cyfarwyddeb arnynt
Pan fyddwch yn cael eich rhif TAW gan CThEF, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein (dewiswch yr opsiwn ‘Cyflwyno Ffurflenni TAW’ / ‘VAT submit returns’).
Defnyddio asiant
Gallwch benodi cyfrifydd (neu asiant) (yn agor tudalen Saesneg) i gyflwyno’ch Ffurflenni TAW a delio â CThEF ar eich rhan.
Os ydych yn defnyddio asiant, byddwch yn dal i allu cofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein pan fyddwch yn cael eich rhif TAW (dewiswch yr opsiwn ‘Cyflwyno Ffurflenni TAW’ / ‘VAT submit returns’).
Ar ôl i chi gofrestru
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer TAW byddwch yn cael y canlynol:
- rhif TAW 9 digid y mae’n rhaid i chi ei gynnwys ar bob anfoneb a godwch
- gwybodaeth am sut i drefnu’ch cyfrif treth busnes (os nad oes gennych un eisoes) - bydd angen hyn arnoch i gael mynediad i’r gwasanaeth TAW ar-lein
- gwybodaeth am pryd y bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW gyntaf a’ch taliad cyntaf
- cadarnhad o’ch dyddiad cofrestru (y cyfeirir ato fel y ‘dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym’)
Byddwch yn cael yr wybodaeth hon drwy’r post.
Bydd angen i chi fewngofnodi i Borth y Llywodraeth a chofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein (dewiswch yr opsiwn ‘Cyflwyno Ffurflenni TAW’ / ‘VAT submit returns’) ar ôl i chi gael yr wybodaeth hon.
Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW a’ch bod yn aros i glywed yn ôl am hynny, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Rhoi cyfrif am TAW tra ydych yn aros am eich rhif TAW
Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif TAW, ond gallwch godi’ch prisiau i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.
Enghraifft
Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau i gwsmer newydd. Rydych yn cofrestru ar gyfer TAW gan eich bod yn gwybod y byddwch yn mynd dros y trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu TAW i CThEF ar unrhyw anfonebau a godwch o’r dyddiad hwnnw.
I roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu, rhowch wybod i’ch cwsmer y byddwch yn ychwanegu 20% at swm gwreiddiol y contract o £100,000 ac yna codwch anfoneb am £120,000.
Ar ôl i chi gael eich rhif TAW, ailanfonwch yr anfoneb gan ddangos y swm llawn gan gynnwys y TAW o £20,000. Nid oes angen i’ch cwsmer wneud taliad ychwanegol ond mae bellach yn gallu adennill yr £20,000 ychwanegol oddi wrth CThEF ar ei Ffurflen TAW nesaf.
3. Newid eich manylion
Mae’n rhaid i chi gadw’ch manylion cofrestru TAW yn gyfredol. Mae rhai newidiadau’n golygu bod yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad TAW neu drosglwyddo’ch cofrestriad TAW.
Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) cyn pen 30 diwrnod i unrhyw newidiadau i’r canlynol:
-
enw, enw masnachu neu brif gyfeiriad eich busnes
-
y cyfrifydd neu’r asiant sy’n delio â’ch TAW
-
aelodau partneriaeth, neu enw neu gyfeiriad cartref unrhyw un o’r partneriaid
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na rowch wybod i CThEF am newidiadau cyn pen 30 diwrnod.
Newid eich manylion banc
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF o leiaf 14 diwrnod cyn i chi newid eich manylion banc.
Os ydych yn talu’ch TAW drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd angen i chi roi gwybod i’ch banc hefyd. Peidiwch â gwneud hyn yn y 5 diwrnod banc cyn neu ar ôl dyddiad dyledus eich Ffurflen TAW – gallai olygu y byddwch yn talu ddwywaith.
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg), mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr Uned Gofrestru ar gyfer Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn newid manylion eich Debyd Uniongyrchol. Cofiwch gynnwys eich rhif cofrestru.
Sut i roi gwybod i CThEF
Gallwch newid eich manylion:
-
ar-lein – drwy’ch cyfrif TAW ar-lein
-
drwy’r post – gan ddefnyddio ffurflen VAT484
Mae’n rhaid i chi anfon ffurflen VAT2 i’r Gwasanaeth Cofrestru TAW (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i bartneriaeth.
Os byddwch yn cymryd cyfrifoldebau TAW rhywun arall drosodd
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 21 diwrnod os byddwch yn cymryd drosodd gyfrifoldebau TAW rhywun sydd wedi marw neu sy’n sâl ac nad yw’n gallu rheoli ei faterion ei hun.
Defnyddiwch ffurflen VAT484 a’i phostio i’r cyfeiriad ar y ffurflen. Cofiwch nodi manylion dyddiad y farwolaeth neu’r dyddiad y dechreuodd y salwch.
Os byddwch yn ymuno â grŵp TAW
Os byddwch yn ymuno â grŵp TAW, bydd yn rhaid i’r grŵp lenwi ffurflen VAT50-51. Bydd angen i chi ddefnyddio rhif TAW y grŵp unwaith y byddwch wedi ymuno ag ef. Dylai’r grŵp TAW roi gwybod i CThEF am yr aelod newydd.
Os byddwch yn newid strwythur eich busnes
Mae angen i chi roi gwybod i CThEF os byddwch yn newid strwythur eich busnes.
Gallwch drosglwyddo’ch cofrestriad TAW os ydych am gadw’r un rhif TAW.
4. Canslo’ch cofrestriad
Mae’n rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad os nad ydych bellach yn gymwys i fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW. Er enghraifft:
- rydych yn rhoi’r gorau i fasnachu neu’n rhoi’r gorau i wneud cyflenwadau sy’n agored i TAW
- rydych yn ymuno â grŵp TAW
Mae’n rhaid i chi ganslo cyn pen 30 diwrnod os nad ydych bellach yn gymwys, neu gallech wynebu cosb.
Os yw’ch trosiant trethadwy TAW yn mynd o dan £88,000, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ganslo’ch cofrestriad, oni bai bod pob un o’r canlynol yn wir:
- rydych chi a’ch busnes wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU
- rydych yn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)
Os oes gennych rif EORI
Bydd CThEF yn canslo’ch Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) yn awtomatig ac ar yr un pryd yn canslo’ch cofrestriad TAW.
Pryd nad oes yn angen i chi ganslo
Does dim angen i chi ganslo’ch cofrestriad TAW os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn newid statws cyfreithiol y busnes, neu’n ei werthu, a’ch bod am gadw’r un rhif cofrestru TAW (dylech drosglwyddo’ch cofrestriad)
-
mae cwmni unigol mewn grŵp TAW yn cau i lawr (rhaid i chi lenwi ffurflen VAT50-51 i newid eich grŵp TAW)
-
rydych yn ymuno â grŵp TAW (rhaid i chi lenwi ffurflen VAT50-51)
-
rydych yn creu grŵp TAW newydd (rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW a llenwi ffurflen VAT50-51)
Canslo ar-lein
Gallwch ganslo’ch cofrestriad TAW ar-lein os yw’r canlynol yn wir:
- rydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu ac nid ydych yn rhan o grŵp TAW
- mae’ch trosiant trethadwy TAW yn is na £88,000
-
rydych wedi rhoi’r gorau i wneud nwyddau neu wasanaethau sy’n agored i TAW
- rydych yn gwneud cais am eithriad os yw’r rhan fwyaf o’r hyn rydych yn ei werthu, neu’r cyfan, ar gyfradd sero TAW
I ganslo’ch cofrestriad TAW ar-lein, bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.
Pryd na allwch ganslo ar-lein
Mae’n rhaid i chi ganslo drwy’r post os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch statws cyfreithiol wedi newid a’ch bod am gael rhif cofrestru TAW newydd
- rydych wedi gwerthu’ch busnes ac nid yw’r perchennog yn cadw’r rhif cofrestru TAW
- mae’ch grŵp TAW yn cau (‘diddymu’) – bydd hefyd angen i chi lenwi ffurflen VAT50-51 ac anfon y ddwy ffurflen gyda’i gilydd at CThEF
Canslwch eich cofrestriad drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen VAT7.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol.
Argraffwch eich ffurflen VAT7 wedi’i llenwi a’i hanfon at CThEF, ynghyd ag unrhyw ffurflenni eraill sydd wedi’u llenwi. Mae’r cyfeiriad y dylid anfon y VAT7 iddo yn y ffurflen.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, mae’n cymryd 3 wythnos i CThEF gadarnhau bod eich cofrestriad wedi’i ganslo ac i gadarnhau’ch dyddiad canslo swyddogol. Dyma naill ai’r dyddiad y daeth y rheswm dros ganslo’ch cofrestriad i rym (er enghraifft, pan wnaethoch roi’r gorau i fasnachu), neu’r dyddiad y gwnaethoch ofyn am gael canslo.
Bydd CThEF yn anfon cadarnhad i’ch cyfrif TAW ar-lein neu drwy’r post os na fyddwch yn gwneud cais ar-lein.
Mae’n rhaid i chi roi’r gorau i godi TAW o’r dyddiad canslo ymlaen. Bydd angen i chi gadw’r holl gofnodion TAW am chwe blynedd.
Bydd CThEF yn eich ailgofrestru’n awtomatig os bydd yn sylweddoli na ddylech fod wedi canslo. Bydd yn rhaid i chi roi cyfrif am unrhyw TAW y dylech fod wedi’i thalu yn y cyfamser.
TAW ar ôl i chi ganslo
Bydd yn rhaid i chi gyflwyno Ffurflen TAW derfynol ar gyfer y cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad canslo.
Mae’n rhaid i chi roi cyfrif am unrhyw stoc ac asedion eraill sydd gennych ar y dyddiad hwn os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- gwnaethoch adhawlio TAW pan brynoch yr asedion, neu gallech fod wedi’i adhawlio
- mae cyfanswm y TAW sy’n ddyledus ar yr asedion hyn dros £1,000
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW derfynol cyn pen mis i’r dyddiad canslo, oni bai eich bod yn rhan o’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn rhan o’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, cyflwynwch eich Ffurflen TAW derfynol cyn pen 2 fis i’r dyddiad canslo.
Peidiwch ag aros hyd nes i chi gael eich holl anfonebau cyn cyflwyno’ch Ffurflen TAW derfynol. Pan fyddwch yn eu cael, byddwch yn dal i allu adhawlio TAW.
5. Trosglwyddo eich cofrestriad
Gallwch drosglwyddo cofrestriad TAW os oes newid mewn perchnogaeth busnes neu statws cyfreithiol.
Er enghraifft:
- os byddwch yn cymryd busnes drosodd a’ch bod am barhau i ddefnyddio’i rif TAW
- os bydd eich busnes yn newid o fod yn bartneriaeth i fod yn unig fasnachwr
Mae hyn yn golygu y bydd y busnes yn cadw’r un rhif TAW.
Gwneud cais am drosglwyddiad
Os ydych yn newid statws cyfreithiol eich busnes
-
Argraffwch, llenwch a phostiwch ffurflen VAT68 i Gyllid a Thollau EF (CThEF).
-
Arhoswch i CThEF gadarnhau eich trosglwyddiad - mae hyn fel arfer yn cymryd 3 wythnos.
-
Unwaith y bydd eich trosglwyddiad wedi’i gadarnhau, cofrestrwch ar gyfer TAW.
Os ydych yn prynu busnes
-
Mae’n rhaid i chi a’ch gwerthwr lenwi ffurflen VAT68 - argraffwch, llenwch a phostiwch y ffurflen i CThEF.
-
Arhoswch i CThEF gadarnhau eich trosglwyddiad - mae hyn fel arfer yn cymryd 3 wythnos.
-
Unwaith y bydd eich trosglwyddiad wedi’i gadarnhau, cofrestrwch ar gyfer TAW.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os ydych yn gwerthu’ch busnes:
- canslwch fynediad eich cyfrifydd at eich cyfrif TAW ar-lein – er enghraifft, os gwnaethoch ei awdurdodi i ddelio â’ch TAW
- canslwch unrhyw Ddebydau Uniongyrchol ar eich cyfrif TAW ar-lein
Hefyd, mae’n rhaid i chi roi’ch cofnodion i’r prynwr os ydych yn pasio’ch rhif TAW ymlaen.
Os ydych yn prynu busnes:
- cysylltwch â CThEF cyn pen 21 diwrnod i’r cais i drosglwyddo os ydych am gadw cyfrifydd y gwerthwr
- newidiwch unrhyw drefniadau hunan-filio (yn agor tudalen Saesneg) am rai newydd
- trefnwch Ddebydau Uniongyrchol newydd ar eich cyfrif TAW ar-lein
Os yw’n well gennych gael rhif TAW newydd
Os ydych am gael rhif TAW newydd yn hytrach na chadw’r un presennol, mae angen i chi ganslo’r cofrestriad TAW presennol a chofrestru ar gyfer TAW eto.
6. Cofrestru ar gyfer TAW yng ngwledydd yr UE
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu a ydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau ac o ble rydych yn eu gwerthu.
Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i’r UE
Os ydych wedi gwerthu dros gyfanswm o £8,818 mewn nwyddau i gwsmeriaid yn yr UE (y ‘trothwy ar gyfer gwerthu o bell’), mae’n rhaid i chi dalu TAW yn y gwledydd y mae’r nwyddau’n cael eu hanfon iddynt.
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer naill ai:
- cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg)
- TAW ym mhob gwlad lle rydych yn cyflenwi nwyddau
Os ydych yn gwerthu nwyddau o’r DU i’r UE
Fel arfer nid oes angen i chi godi TAW ar nwyddau rydych yn eu gwerthu i gwsmeriaid y tu allan i’r DU. Dim ond gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) y mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW. Gallwch godi TAW ar gyfradd sero am y gwerthiannau hyn.
Dysgwch ragor am godi TAW ar nwyddau rydych yn eu hallforio (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o’r DU i’r UE
Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o’r DU i gwsmeriaid yn yr UE, gallwch gofrestru ar gyfer cynllun di-undeb y GUC TAW.
Dysgwch ragor am gynllun di-undeb y GUC TAW ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Dysgwch beth i’w wneud os ydych yn cyflenwi gwasanaethau digidol i gwsmeriaid yn yr UE (yn agor tudalen Saesneg).
7. Gwerthu neu symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE
Mae angen rhif TAW arnoch sy’n dechrau gydag XI i fasnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Rydych yn gymwys i weithredu o dan delerau Protocol Gogledd Iwerddon os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’ch nwyddau wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon ar adeg eu gwerthu
- rydych yn cael nwyddau yng Ngogledd Iwerddon gan fusnesau yn yr UE sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW at ddibenion busnes
- rydych yn gwerthu neu’n symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad yn yr UE
Gwiriwch a ydych eisoes wedi’ch nodi fel un sy’n masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Bydd rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei helpu i nodi eich bod yn masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn golygu’r canlynol:
- gallwch ddefnyddio symleiddiadau TAW wrth i chi fasnachu â’r UE
- gall eich cyflenwyr godi tâl ar nwyddau y maent yn eu hanfon atoch o’r UE ar gyfradd sero
- gall eich masnach â’r UE gael ei rhestru o hyd fel ‘caffaeliadau ac anfoniadau’ ar eich Ffurflen TAW
Rhoi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys.
Bydd angen arnoch:
- y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer TAW
- eich rhif cofrestru TAW
- enw’ch busnes
Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF
Cewch e-bost gan CThEF i gadarnhau eich bod wedi cael eich cofnodi fel un sy’n gweithredu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Ar ôl i chi gael yr e-bost, bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r rhagddodiad XI cyn eich rhif TAW arferol – er enghraifft, XI 123456789 yn lle GB 123456789.
Defnyddio’ch rhif TAW XI
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch rhif TAW XI ar bob dogfen wrth gyfathrebu â chwsmeriaid neu gyflenwyr yn yr UE (er enghraifft, ar anfonebau).
Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE, cwblhewch Restr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF neu’n defnyddio rhif TAW XI, gallai olygu eich bod yn talu neu’n codi’r TAW anghywir ar nwyddau.
Os ydych wedi rhoi’r gorau i werthu neu symud nwyddau yng Ngogledd Iwerddon
Mae’n rhaid i chi gwblhau unrhyw ymrwymiadau sydd gennych ar gyfer y cynlluniau canlynol cyn dirymu eich statws fel masnachwr yng Ngogledd Iwerddon:
- Ffurflenni TAW ar gyfer cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW
- Rhestrau Gwerthiannau yn y GE
- Ad-daliadau TAW yr UE
Ni fyddwch yn gallu cwblhau unrhyw ymrwymiadau ar gyfer y cynlluniau hyn ar ôl i chi roi gwybod i CThEF eich bod yn dymuno dirymu eich statws.