Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion, megis ffôn symudol y cwmni.

Mae’n rhaid i chi hefyd eu talu ar daliadau dros £30,000 yr ydych yn eu gwneud i gyflogeion pan fo’u cyflogaeth yn dod i ben, megis taliad diswyddo (‘dyfarniadau terfynu’).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar ddyfarniadau terfynu dim ond os nad ydych eisoes wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 arnynt.

Mae yna arweiniad gwahanol ar dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar dystebau chwaraeon.

Pryd i dalu

Mae pryd rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn dibynnu a ydynt yn fuddiannau gwaith neu’n ddyfarniadau terfynu.

Buddiannau gwaith

Mae angen i chi dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith cyn pen 22 Gorffennaf bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Bydd angen i chi dalu erbyn 19 Gorffennaf os ydych yn talu drwy’r post.

Dyfarniadau Terfynu

Rydych yn talu cyfraniadau ar ddyfarniadau terfynu drwy TWE.

Talu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith ar-lein

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

  • Debyd Uniongyrchol (talu’n awtomatig, neu daliad unigol)

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Dulliau eraill o dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu ar-lein neu dros y ffôn gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach.).

2. Debyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • talu’ch bil yn awtomatig
  • gwneud taliad unigol

Ni allwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol sy’n bodoli eisoes ar gyfer taliadau TWE safonol.

Talu’ch bil yn awtomatig

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Dreth.  Dim ond unwaith y bydd angen i chi drefnu’r Debyd Uniongyrchol.

Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.

Bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • yn fuan ar ôl yr 22ain o’r mis
  • 4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth (os ydych yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu, fan bellaf.  Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig os oes gennych Ddebyd Uniongyrchol Newidiol ar gyfer TWE y Cyflogwr ar waith.

Gwneud taliad unigol

Bydd angen i chi roi cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau. Gallwch ddod o hyd iddo:

  • ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf
  • ar flaen eich llyfryn talu neu’r llythyr gan CThEF sydd wedi’i ddisodli

Ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’. Os na fyddwch yn gwneud hyn, caiff eich taliad ei ddyrannu i’r flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.

Enghraifft

Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.

I wneud taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2014 i 2015, ychwanegwch y digidau ‘1513’ at eich cyfeirnod. Eich cyfeirnod 17 o gymeriadau yw 123PA000123451513.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.

3. Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001039 HMRC Cumbernauld

Cyfeirnod

Bydd angen i chi roi cyfeirnod, sy’n 17 o gymeriadau, fel y cyfeirnod talu. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau. Yna, ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’ er mwyn gwneud yn siŵr bod eich taliad yn cael ei neilltuo’n gywir.

Blwyddyn dreth Ychwanegwch y digidau hyn at eich cyfeirnod
2013 i 2014 1413
2014 i 2015 1513
2015 i 2016 1613

Enghraifft

Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.

I wneud taliad ym mis Gorffennaf 2015 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, 2014 i 2015, ychwanegwch y digidau ‘1513’ at eich cyfeirnod fel bod eich cyfeirnod nawr yn 123PA000123451513.

Gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon:

  • ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf
  • ar flaen eich llyfryn talu neu’r llythyr gan CThEF sydd wedi’i ddisodli

Rhaid i chi wneud taliad ar wahân ar gyfer taliadau Dosbarth 1A. Ni allwch eu hychwanegu at daliad TWE safonol.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, mae taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor:

Rhif y cyfrif (IBAN) Cod adnabod y banc (BIC) Enw’r cyfrif
GB62BARC20114770297690 BARCGB22 HMRC Cumbernauld

Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

5. Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu’ch bil Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.

Cyfeirnod

Gwnewch eich taliad i swyddfa ‘HMRC Cumbernauld’. Bydd angen i chi roi cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau. Gallwch ddod o hyd iddo:

  • ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch pan wnaethoch gofrestru gyntaf fel cyflogwr

  • ar flaen eich llyfryn talu neu’r llythyr gan CThEF sydd wedi’i ddisodli

Ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’. Os na fyddwch yn gwneud hyn, caiff eich taliad ei ddyrannu i’r flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.

Enghraifft

Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.

I wneud taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2014 i 2015, ychwanegwch y digidau ‘1513’ at eich cyfeirnod. Eich cyfeirnod 17 o gymeriadau yw 123PA000123451513.

6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch gyfeirnod eich slip talu Dosbarth 1A ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar y slip talu a roddwyd gan CThEF.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch slip talu Dosbarth 1A wrth dalu i mewn. Peidiwch â defnyddio slip talu TWE safonol o’ch llyfryn neu bydd eich taliad yn cael ei oedi.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF.

7. Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod Dosbarth 1A ar gefn y siec. Bydd hwn ar eich slip talu.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu anfonodd CThEF atoch. Ni allwch ddefnyddio slip talu TWE safonol o’ch llyfryn. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei ohirio os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu

Gallwch argraffu slip talu (yn Saesneg) i’w ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.

8. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Gwiriwch eich cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) – dylai ddiweddaru o fewn 6 diwrnod gwaith.

Os ydych yn talu â siec drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb gan CThEF.

9. Cyfraniadau Dosbarth 1A ar dystebau chwaraeon

Digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau, i anrhydeddu chwaraewr am ei wasanaeth yw tysteb chwaraeon, megis pan fo chwaraewr yn ymddeol.

Mae’n rhaid i’r pwyllgor tystebau dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A os yw’r taliad i’r chwaraewr:

  • yn fwy na £100,000
  • heb fod yng nghontract y chwaraewr

Elw o’r digwyddiad yw’r taliad fel arfer.

Mae’n rhaid i’r pwyllgor dalu’r cyfraniadau ar y taliad drwy TWE.