Sut i brisio ystad at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth

Printable version

1. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

I ganfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu, mae angen i chi brisio arian, eiddo a meddiannau (‘ystad’) yr unigolyn a fu farw.

Rhaid i chi wneud hyn cyn gwneud cais am brofiant (os oes ei angen arnoch).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen i chi gwblhau 3 prif dasg pan fyddwch yn prisio’r ystad.

  1. Nodi asedion a dyledion yr ymadawedig megis cynilion, buddsoddiadau, morgeisi a benthyciadau.

  2. Amcangyfrif gwerth yr ystad. Bydd hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn rhoi gwybod am y gwerth, a’r dyddiadau cau ar gyfer rhoi gwybod am, a thalu, unrhyw Dreth Etifeddiant. Nid yw’r rhan fwyaf o ystadau’n cael eu trethu.

  3. Rhoi gwybod am werth yr ystad – mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad a’i gwerth.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Mae prisio ystad yn gallu cymryd sawl mis, ond mae’n gallu cymryd mwy o amser os yw’n ystad fawr neu gymhleth (er enghraifft, os yw’n ymwneud ag ymddiriedolaethau neu os oes treth i’w thalu).

Dyddiadau cau

Dim ond os oes ar yr ystad Dreth Etifeddiant y mae yna ddyddiadau cau.

Os oes ar yr ystad Dreth Etifeddiant, bydd angen i chi:

Cael help

Gallwch gyflogi gweithiwr proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr) i helpu gyda rhai neu bob un o’r tasgau sy’n gysylltiedig â phrisio ystad.

Mae gwefan HelpwrArian yn rhoi arweiniad ynghylch sut a phryd i gyflogi rhywun proffesiynol. Mae gwefan Law Donut yn rhoi cyngor ynghylch cadw ffioedd cyfreithwyr i lawr.

2. Nodi asedion a dyledion

Cyn y gallwch brisio arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig (ei ystad), bydd angen i chi nodi’r pethau yr oedd yn berchen arnynt (ei asedion) a’i ddyledion.

Mae asedion yn cynnwys pethau fel cyfrifon banc, cynilion a phensiynau, yn ogystal ag eiddo, nwyddau i’r tŷ ac eitemau personol.

Mae dyledion yn cynnwys pethau fel biliau cyfleustodau, morgeisi ac arian sy’n ddyledus ar gardiau credyd. Maent hefyd yn cynnwys costau angladd, megis cost trefnydd angladdau, carreg fedd neu blac, a lluniaeth.

Yna, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cael gwybod pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw (gallwch wneud hyn drwy chwilio drwy bapurau’r ymadawedig neu drwy ofyn i ffrindiau, teulu ac unrhyw gyfreithiwr neu gyfrifydd a oedd gan yr unigolyn)
  • ysgrifennu at y sefydliadau hyn i ofyn am werth yr ased neu’r ddyled pan fu’r unigolyn farw (bydd angen i chi gynnwys copi o’r dystysgrif marwolaeth)

Pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw

Mae sefydliadau sy’n dal asedion yn aml yn cynnwys:

  • banc yr unigolyn
  • darparwr pensiwn yr unigolyn – gofynnwch a ddylech gynnwys pensiwn preifat pan fyddwch yn prisio’r ystad
  • cyflogwr yr unigolyn – mae’n bosibl bod cyflog yn ddyledus i’r unigolyn
  • unrhyw gwmnïau yr oedd gan yr unigolyn gyfranddaliadau ynddynt – dylech gynnwys nifer y cyfranddaliadau, manylion y cwmni a rhif tystysgrif y cyfranddaliadau (os oes gennych hwn)
  • Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) ar gyfer Bondiau Premiwm – defnyddiwch y gwasanaeth olrhain sy’n rhad ac am ddim os na allwch ddod o hyd i dystysgrifau
  • sefydliadau eraill sy’n dal asedion fel cyfrifon ISA, cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu asedion mewn ymddiriedolaeth (yn Saesneg)
  • y landlord, os oedd gan yr unigolyn – efallai ei fod wedi talu rhent ymlaen llaw

Yn eich llythyr i’r banc, dylech hefyd holi ynghylch:

  • unrhyw archebion sefydlog a debydau uniongyrchol sydd i’w stopio (neu sydd i’w trosglwyddo os oeddent mewn enw ar y cyd)
  • rhestr o unrhyw dystysgrifau cyfranddaliadau neu weithredoedd yr oedd y banc yn eu dal ar ran yr unigolyn a fu farw

Os oedd gan yr unigolyn forgais

Gofynnwch i’r benthyciwr morgeisi a fydd angen i daliadau barhau tra rydych yn gwneud cais am brofiant. Os felly, bydd yn rhaid i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • talu’r biliau hyn eich hun – a’u hawlio’n ôl o’r ystad unwaith y bydd gennych brofiant
  • gwirio a oedd gan yr unigolyn yswiriant bywyd neu bolisi diogelu morgais sy’n cwmpasu’r taliadau hyn

3. Amcangyfrif gwerth yr ystad

Bydd angen amcangyfrif arnoch o werth yr ystad (arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig) er mwyn canfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu.

Fel arfer, does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • mae gwerth yr ystad o dan y trothwy, sef £325,000
  • rydych yn gadael popeth sydd uwchben y trothwy o £325,000 i’ch priod, partner sifil, elusen, neu glwb chwaraeon amatur cymunedol

Os mai gweddw oedd yr unigolyn a fu farw, neu os yw’n rhoi ei gartref i ffwrdd i’w blant, gall y trothwy treth fod yn uwch.

Cyfrifo’ch amcangyfrif

Bydd angen i chi amcangyfrif cyfanswm gwerth yr ystad. Mae hyn yn cynnwys:

Ar yr adeg hon, bydd dim ond angen i’ch amcangyfrif fod yn ddigon cywir i chi wybod a oes treth yn daladwy ar yr ystad. Bydd angen prisiadau cywir arnoch os oes treth yn daladwy.

Gallwch gyfrifo’r amcangyfrif eich hun, neu gallwch ddefnyddio’r gwiriwr Treth Etifeddiant.

Defnyddio’r gwiriwr Treth Etifeddiant ar-lein

Bydd y gwiriwr yn:

  • rhoi i chi amcangyfrif o werth yr ystad
  • eich helpu i benderfynu a oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn debygol o fod yn ddyledus ai peidio

Nid yw’r gwiriwr yn:

  • cyfrifo swm y Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus
  • rhoi gwybod i HMRC am werth terfynol yr ystad

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i amcangyfrif gwerth yr ystad:

  • manylion asedion yr unigolyn, gan gynnwys asedion ar y cyd
  • manylion unrhyw roddion a wnaeth

Prisio’r asedion

Dechreuwch drwy restru asedion yr unigolyn – y pethau yr oedd yr unigolyn yn berchen arnynt a oedd â gwerth ariannol.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • eu cartref
  • unrhyw eiddo arall, adeiladau eraill neu dir arall
  • arian mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gyfrifon ISA, neu arian parod yn eu cartref
  • stociau a chyfranddaliadau
  • eitemau i’r tŷ ac eitemau personol, gan gynnwys dodrefn, paentiadau a gemwaith
  • ceir, carafannau neu gychod
  • asedion tramor, megis eiddo tramor
  • arian sy’n ddyledus iddynt – er enghraifft, cyflog neu ad-daliadau o filiau’r cartref
  • taliadau pan fu’r unigolyn farw – er enghraifft, yswiriant bywyd neu gyfandaliad ‘buddiant marwolaeth’ o bensiwn

Yna, amcangyfrifwch werth pob un ar y dyddiad y bu’r unigolyn farw.

Dylech gynnwys pob ased yn eich amcangyfrif. Mae hyn yn cynnwys unrhyw asedion a adawyd i briod neu bartner sifil yr unigolyn, neu i elusen – ni fyddwch yn talu treth ar yr asedion hyn.

Ar gyfer eitemau megis gemwaith, paentiadau neu nwyddau eraill i’r tŷ, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe baech wedi’u gwerthu ar y farchnad agored. Gallwch ddefnyddio marchnadfeydd ar-lein i helpu i gyfrifo eu gwerth.

Prisio asedion ar y cyd

Mae angen i chi ganfod pa asedion yr oedd yr unigolyn yn berchen arnynt ar y cyd â rhywun arall, a sut y perchenogwyd yr asedion hynny.

Mae’r rheolau ar gyfer prisio asedion ar y cyd, megis eiddo, gemwaith neu baentiadau, yn amrywio yn dibynnu a oedd y bobl dan sylw yn berchen arnynt fel:

  • ‘cyd-denantiaid’ (‘cydberchnogion’ yn yr Alban)
  • ‘tenantiaid cydradd’ (‘perchnogion cydradd’ yn yr Alban)

Cyd-denantiaid

Mae cyd-denantiaid yn trosglwyddo unrhyw asedion, megis tir neu eiddo, yn awtomatig i’r perchnogion eraill os bydd un ohonynt yn marw.

Os perchenogwyd yr ased, megis tir neu eiddo, fel cyd-denant gyda phriod neu bartner sifil yr unigolyn, rhannwch werth yr ased â 2.

Os perchenogwyd y tir neu’r eiddo gyda chyd-denantiaid eraill, er enghraifft ffrindiau, brodyr neu chwiorydd, gwnewch y naill a’r llall o’r canlynol:

  • rhannu’r gwerth â nifer y perchnogion
  • didynnu 10% oddi wrth gyfran yr unigolyn a fu farw

Enghraifft

Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo fel cyd-denant gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y buodd farw, sy’n rhoi cyfran o £50,000 iddo (£200,000 wedi’u rhannu â 4).

Ar ôl didynnu 10% (£5,000) oddi wrth gyfran £50,000 yr ymadawedig, y gwerth terfynol yw £45,000 (£50,000 - £5,000 = £45,000).

Yn yr Alban, os perchenogwyd tir neu eiddo ar y cyd â phobl eraill (ac eithrio priod neu bartner sifil), didynnwch £4,000 oddi wrth werth yr ased cyfan cyn cyfrifo cyfran yr ymadawedig.

Enghraifft

Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo yn yr Alban fel cydberchennog gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y buodd farw.

Ar ôl i £4,000 gael ei ddidynnu oddi wrth gyfanswm gwerth yr eiddo, mae £196,000 yn weddill (£200,000 - £4,000).

Ar ôl rhannu hyn â nifer y perchnogion, cyfran yr ymadawedig o’r eiddo yw £49,000 (£196,000 wedi’u rhannu â 4).

Er mwyn prisio cyfrif banc ar y cyd, rhannwch y swm â nifer y deiliaid cyfrif, oni bai bod y cyfrif yn un ar y cyd er cyfleustra yn unig. Er enghraifft, efallai y bydd person hŷn yn ychwanegu ei blentyn er mwyn ei helpu gyda’r cyfrif. Os felly, defnyddiwch y swm yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno mewn gwirionedd yn lle hynny.

Tenantiaid cydradd

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer tenantiaid cydradd, gan nad yw tenantiaid cydradd yn trosglwyddo’n awtomatig unrhyw asedion y maent yn berchen arnynt ar y cyd.

Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo neu dir ar y cyd fel tenant cydradd, cyfrifwch y gwerth yn seiliedig ar ei gyfran.

Cyfrifo gwerth unrhyw roddion

Mae angen i chi gyfrifo gwerth unrhyw roddion a wnaed gan yr unigolyn a fu farw.

Dim ond os gwnaed y rhoddion yn ystod y 7 mlynedd cyn i’r unigolyn farw a dim ond os oedd cyfanswm gwerth y rhoddion dros yr eithriad blynyddol o £3,000 y mae rhoddion yn cyfrif tuag at werth ystad.

Os bydd unigolyn yn byw am 7 mlynedd ar ôl gwneud rhodd, ni fydd Treth Etifeddiant i’w thalu.

Mae unrhyw rodd yr oedd unigolyn yn parhau i gael budd ohoni cyn iddynt farw hefyd yn cyfrif tuag at werth ystad – er enghraifft, os gwnaeth yr unigolyn roi tŷ i ffwrdd ond ei fod yn byw ynddo’n ddi-rent (yr enw ar hyn yw ‘rhodd â budd amodol’).

Does dim Treth Etifeddiant i’w thalu ar roddion i elusennau neu bleidiau gwleidyddol.

Yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd

Gall rhodd gynnwys:

  • arian
  • nwyddau’r tŷ a nwyddau personol, er enghraifft dodrefn, gemwaith neu hynafolion
  • tŷ, tir neu adeiladau
  • stociau a chyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
  • cyfranddaliadau heb eu rhestru, a ddaliwyd am lai na 2 flynedd cyn i’r unigolyn farw

Gwirio am roddion

Gallwch wirio am roddion drwy wneud y canlynol:

  • darllen drwy gyfriflenni banc
  • siarad ag aelodau o’r teulu
  • edrych drwy ddogfennau ariannol

Cofnodwch werth unrhyw rodd a’r dyddiad rhoi.

Amcangyfrif gwerth y rhodd

I amcangyfrif gwerth pob rhodd, defnyddiwch y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • amcangyfrif o werth y rhodd ar yr adeg y cafodd ei rhoi (pris gwerthu realistig)
  • pris realistig ar gyfer gwerthu’r rhodd, os oedd yr ymadawedig yn parhau i gael budd o’r rhodd ar ôl ei rhoi i ffwrdd (sef ‘rhodd â budd amodol’)

Dyledion

Peidiwch â chynnwys dyledion yr ystad wrth amcangyfrif y gwerth gros. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (HMRC) am unrhyw ddyledion wrth roi gwybod am werth yr ystad.

Gwiriwch am gofnodion o ddyledion pan fu farw’r unigolyn, er enghraifft:

  • ei forgais, benthyciadau, cardiau credyd neu orddrafftiau
  • ‘rhwymedigaethau’ megis biliau’r cartref neu filiau am nwyddau neu wasanaethau yr oedd yr unigolyn wedi’u cael ond heb dalu amdanynt eto (megis gwaith adeiladu, peintwyr a phapurwyr, cyfrifwyr)

Yr hyn i’w wneud nesaf

Gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am werth yr ystad.

4. Gwirio a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad

Cyn i chi roi gwybod am werth yr ystad (arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig), gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad, fel eich bod yn llenwi’r ffurflenni cywir.

Mae’r wybodaeth y mae angen i chi ei darparu, a sut y gwnewch hyn, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus ai peidio.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir.

Os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus

Bydd angen i chi roi manylion llawn am yr ystad os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i gael gwybod a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Dysgwch beth mae angen i chi ei wneud os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus

Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus, os yw un o’r canlynol yn wir am yr unigolyn a fu farw:

Os yw’r ystad yn cynnwys ymddiriedolaethau

Bydd angen i chi gwblhau cyfrif llawn os yw un o’r canlynol yn wir am yr ymadawedig:

  • gwnaeth roddion a dalwyd i mewn i ymddiriedolaethau
  • roedd yn dal asedion a oedd yn werth mwy na £250,000 mewn ymddiriedolaeth
  • roedd yn dal mwy nag un ymddiriedolaeth

Bydd angen i chi hefyd gwblhau cyfrif llawn os cafodd asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth eu pasio i briod neu bartner sifil sy’n fyw neu i elusen, ac os mai gwerth yr ymddiriedolaeth oedd:

  • £1 filiwn neu fwy
  • £250,000 neu fwy, ar ôl didynnu’r swm sy’n cael ei basio i’r priod neu’r partner sifil sy’n fyw neu i elusen

Pryd nad oes angen manylion llawn – ‘ystadau eithriedig’

Nid oes angen i chi roi manylion llawn am werth ystad os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • mae’r ystad yn cyfrif fel ‘ystad eithriedig’
  • nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu
  • rydych wedi gwirio nad yw’r un o’r rhesymau o dan ‘Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus’ yn berthnasol

Mae’r rhan fwyaf o ystadau’n rhai eithriedig.

Beth sy’n cyfrif fel ystad eithriedig

Mae ystad fel arfer yn ystad eithriedig os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

Mae rheolau gwahanol ar gyfer ystadau eithriedig os bu farw’r unigolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf

Mae’r broses y mae angen i chi ei dilyn yn dibynnu a ydych yn delio ag:

Delio ag ystad eithriedig

Gallwch roi gwybod am werth ystad eithriedig os ydych yn gwneud cais am brofiant. Gwiriwch a oes angen profiant arnoch, a gwnewch gais amdano, os felly.

Does dim angen i chi roi gwybod am werth ystad eithriedig os nad oes angen profiant arnoch.

Mae ffordd wahanol o roi gwybod am ystad eithriedig os bu farw’r unigolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).

Gwneud cais am brofiant yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Mae ffordd wahanol o wneud cais am brofiant os oedd yr ymadawedig yn byw yn yr Alban (yn Saesneg) neu’n byw yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg).

Os oes angen help arnoch gyda phrofiant neu werth ystad

Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF os nad ydych yn sicr a fydd angen profiant arnoch neu os bydd gwerth yr ystad yn newid.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 09:00 - 17:00, dydd Gwener, 09:00 — 16:30
Ar gau ar wyliau’r banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Os oes angen help arnoch gyda Threth Etifeddiant

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg HMRC os oes gennych gwestiynau ynghylch Treth Etifeddiant.

5. Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus neu os oes angen manylion llawn

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am werth yr ystad i Gyllid a Thollau EF (HMRC) drwy lenwi ffurflen IHT400.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen cyn pen 12 mis i farwolaeth yr unigolyn.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn methu’r dyddiad cau.

Cael prisiadau cywir

Bydd angen i chi roi prisiadau cywir wrth i chi lenwi’r ffurflen.

Gallwch gael prisiad o unrhyw eiddo neu dir gan asiant tai neu syrfëwr siartredig.

Gallwch hefyd gael prisiad proffesiynol ar gyfer unrhyw beth sy’n werth dros £1,500.

Gallwch amcangyfrif gwerth asedion rhatach, megis nwyddau arferol y tŷ ac eitemau personol fel dodrefn, eitemau trydanol, paentiadau neu emwaith.

Rhoi gwybod am werth yr ystad drwy lenwi ffurflen IHT400

Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen IHT400. Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi ffurflen IHT400.

Gallwch ofyn i HMRC gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus, os ydych yn llenwi’r ffurflen heb help gan weithiwr profiant proffesiynol megis cyfreithiwr. Gallwch wneud hyn wrth lenwi’r ffurflen.

Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg HMRC i gael help gyda llenwi’r ffurflen IHT400.

Sut i ddiwygio ffurflen ar ôl ei chyflwyno

Bydd angen i chi lenwi ffurflen cyfrif cywirol (yn Saesneg) a’i hanfon i HMRC os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i wybodaeth rydych eisoes wedi’i chyflwyno.

Talu Treth Etifeddiant

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r unigolyn farw. Er enghraifft, os bu farw’r unigolyn ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf.

Gallwch dalu fesul rhandaliad blynyddol ar gyfer rhai pethau a allai gymryd amser i’w gwerthu, megis tŷ.

Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant gan Gyllid a Thollau EF (HMRC) o leiaf 3 wythnos cyn talu unrhyw dreth.

Pryd y gallwch wneud cais am brofiant

Ar ôl i chi anfon eich ffurflen IHT400 wedi’i llenwi i HMRC, bydd angen ichi aros i HMRC anfon llythyr gyda chod atoch cyn y gallwch wneud cais am brofiant.

6. Cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion penodol ar ôl prisio ystad.

Gall Cyllid a Thollau EF (HMRC) ofyn am gael gweld eich cofnodion hyd at 20 mlynedd ar ôl i’r Dreth Etifeddiant gael ei thalu.

Mae’n rhaid i chi gadw copïau o unrhyw:

  • ewyllys
  • copïau o ffurflenni a dogfennau atodol ynghylch Treth Etifeddiant sydd wedi’u llofnodi
  • cofnodion sy’n dangos sut y gwnaethoch gyfrifo gwerth asedion yr ystad, er enghraifft prisiad asiant tai
  • dogfennau sy’n dangos unrhyw drothwy Treth Etifeddiant sydd heb ei ddefnyddio a all gael ei drosglwyddo i briod neu bartner sifil sy’n fyw
  • cyfrifon terfynol

Cyfrifon terfynol

Dylech gynnwys unrhyw ddogfennau sy’n dangos sut y gwnaethoch ddosbarthu arian, eiddo neu feddiannau personol o’r ystad, er enghraifft:

  • llythyrau gan HMRC sy’n cadarnhau eich bod wedi talu Treth Etifeddiant
  • derbynebau sy’n dangos dyledion wedi’u talu, er enghraifft biliau cyfleustodau
  • derbynebau ar gyfer eich treuliau yn sgil delio â’r ystad
  • cadarnhad ar bapur fod y ‘buddiolwyr’ (unrhyw un sydd wedi etifeddu) wedi cael eu cyfran o’r ystad

Anfonwch gopïau o’r cyfrifon terfynol at bob buddiolwr.