Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif
Printable version
1. Mewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF
Unwaith eich bod chi wedi creu cyfrif, gallwch fewngofnodi ar gyfer pethau fel eich Cyfrif Treth Personol, Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE i gyflogwyr a TAW.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg.
Os na allwch fewngofnodi i’ch cyfrif
Cael help os ydych yn cael trafferthion wrth fewngofnodi i’ch cyfrif.
Gwasanaethau gyda manylion mewngofnodi gwahanol
Mae yna ffordd wahanol i fewngofnodi ar gyfer:
- gwasanaethau ecséis, mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg)
- eich cyfrif gofal plant
- eich cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU
Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda’ch cyfrif CThEF ar-lein
Defnyddiwch eich cyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein i fewngofnodi ar gyfer:
- Warysu Alcohol a Thybaco
- Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol
- Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu
- Cyfnewid Gwybodaeth yn Awtomatig (AEOI)
- Cyfrif treth busnes
- Elusennau Ar-lein
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
- Treth Gorfforaeth
- Cynllun Adeiladwyr Tai DIY
- Datganiadau Electronig i Ohirio Tollau (DDES)
- Gwybodaeth Electronig am Dariff sy’n Rhwymo (eBTI)
- Cyfryngwyr Cyflogaeth
- System Symudiadau a Rheolaeth Ecséis (EMCS)
- Cynllun Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Busnesau Cyflawni
- Gwasanaeth Treth Hapchwarae
- Rheoli Cynlluniau Pensiwn
- Rhodd Cymorth
- System Rheoli Mewnforion (ICS)
- Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
- Toll Peiriannau Hapchwarae
- Goruchwyliaeth Gwrth-wyngalchu Arian
- System Gludo Gyfrifiadurol Newydd (NCTS)
- Cynllun Allforio Newydd (NES)
- Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA)
- Y Gwasanaeth Un Cam (GUC)
- TWE i gyflogwyr
- Cynlluniau Pensiwn Ar-lein
- Cyfrif Treth Personol
- Treth Deunydd Pacio Plastig
- Gwasanaeth Ymholiadau Olew Ad-daledig
- Hunanasesiad
- Hunanasesiad ar gyfer partneriaethau ac ymddiriedolaethau
- Gweithle sy’n cael ei Rannu
- Ardoll y diwydiant diodydd meddal
- Trethi Stamp
- Gwasanaeth Ymholiadau Olew ‘Tied’
- TAW
- Ad-daliadau TAW yr UE
- Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW (GUC TAW)
2. Creu cyfrif ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF
Bydd angen i chi greu cyfrif Porth y Llywodraeth er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF.
Mae 3 math o gyfrif:
- cyfrifon unigolion
- cyfrifon sefydliadau
- cyfrifon i asiantau
Cyfrifon unigolion
Er enghraifft, gallwch wneud y canlynol:
-
creu cyfrif treth personol i wirio pethau fel eich Treth Incwm amcangyfrifedig a’ch cod treth, diweddaru’ch manylion personol, a hawlio ad-daliad treth os oes un yn ddyledus
-
cofrestru ar gyfer Hunanasesiad os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad i roi gwybod am incwm rhentu neu incwm o fuddsoddi
Gallwch ddefnyddio’r un manylion mewngofnodi ar gyfer Porth y Llywodraeth i gael mynediad at y ddau gyfrif. Er enghraifft, os byddwch yn creu cyfrif treth personol gallwch wedyn ychwanegu Hunanasesiad at y cyfrif hwnnw.
Cyfrifon sefydliadau
Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifon ar gyfer:
-
busnesau, megis cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau ac unig fasnachwyr (cyfrifon treth busnes)
Cyfrifon treth busnes
Unwaith eich bod chi wedi creu eich cyfrif treth busnes, gallwch ei ddefnyddio, er enghraifft, i wneud y canlynol:
-
cofrestru ar gyfer Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig
-
cofrestru ar gyfer TAW os yw’ch trosiant trethadwy dros £85,000
-
trefnu TWE (yn agor tudalen Saesneg) gan eich bod wedi dechrau cyflogi pobl
-
cofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) os ydych wedi sefydlu cwmni cyfyngedig neu sefydliad arall sydd angen talu’r dreth hon
Os ydych yn asiant
Gallwch ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF ar ran eich cleientiaid (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn asiant treth neu’n ymgynghorydd treth.
3. Cael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF
Gallwch gael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF os ydych yn cael anawsterau.
Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu gyfrinair ar goll
Os ydych wedi anghofio’r Dynodydd Defnyddiwr neu’r cyfrinair rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi, gallwch wneud y canlynol:
Os gofynnwyd i chi am god cychwyn
Efallai y bydd angen i chi nodi cod cychwyn, sy’n 12 digid, pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth CThEF am y tro cyntaf.
Byddwch wedi cael gwybod p’un a oes angen cod cychwyn arnoch pan fyddwch yn ymrestru ar gyfer y gwasanaeth. Bydd cod cychwyn yn eich cyrraedd drwy’r post cyn pen 10 diwrnod (neu 21 diwrnod os ydych yn byw dramor).
Os bydd angen cod cychwyn newydd arnoch
Os na allwch ddod o hyd i’ch cod cychwyn neu os yw’ch cod cychwyn wedi dod i ben, gallwch wneud cais am un newydd.
-
Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio’ch cyfrif Porth y Llywodraeth.
-
Dewiswch ‘gwasanaethau gallwch eu hychwanegu’.
-
Dewiswch ‘gwneud cais am god cychwyn newydd’ ac ymrestru ar gyfer y gwasanaeth eto.
Byddwch yn cael cod cychwyn newydd cyn pen 28 diwrnod i ymrestru.
Os ydych wedi’ch cloi allan o’ch cyfrif
Os ydych yn nodi’r Dynodydd Defnyddiwr neu’r cyfrinair anghywir 5 gwaith, byddwch yn cael eich cloi allan o’ch cyfrif.
Caiff eich cyfrif ei ddatgloi ar ôl 2 awr. Ni all ymgynghorwyr y ddesg gymorth ddatgloi’ch cyfrif.
Argaeledd y gwasanaeth a phroblemau
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg).
Cael help gyda phroblemau eraill
Gallwch ofyn cynorthwyydd digidol CThEF (yn agor tudalen Saesneg) am help wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF.
Os na all y cynorthwyydd digidol helpu, gallwch ofyn i gael eich trosglwyddo i sgwrs dros y we ag ymgynghorydd CThEF, os yw’r ymgynghorydd ar gael.
Gallwch hefyd gael help gyda’r canlynol: