Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth bellach
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn credu nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth bellach.
Os yw CThEF yn cytuno, byddant yn anfon llythyr yn cadarnhau nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os nad yw CThEF yn cytuno cyn y dyddiad cau Hunanasesiad ar sef 31 Ionawr.
Mae’n bosibl na fydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach oherwydd, er enghraifft:
-
nad ydych bellach yn hunangyflogedig
-
nad ydych bellach yn rhoi eiddo ar osod
-
nad ydych bellach yn talu’r Tâl Incwm Uchel Budd-dal Plant
-
mae’ch incwm yn is na’r trothwy o £150,000
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Gallwch roi gwybod i CThEF:
-
drwy lenwi ffurflen ar-lein – bydd angen cyfrif Porth y Llywodraeth arnoch
Bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch rhif UTR.