Ffurflenni Treth Hunanasesiad

Printable version

1. Trosolwg

Mae Hunanasesiad yn system y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei defnyddio i gasglu Treth Incwm.

Fel arfer, didynnir treth yn awtomatig oddi wrth gyflogau a phensiynau. Mae’n rhaid i bobl a busnesau sydd ag incwm arall roi gwybod am yr incwm hwn mewn Ffurflen Dreth.

Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, llenwch hi ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) y mae’n berthnasol iddi.

Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os bydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb os na fyddwch yn cyflwyno a thalu mewn pryd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Anfon eich Ffurflen Dreth

Cyflwynwch eich Ffurflen Dreth ar-lein, neu ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am ffurflen SA100.

Dyddiadau cau

Anfonwch eich Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cau.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gellir codi dirwy arnoch.

Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Llenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) fel eich bod yn gallu llenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.

Gallwch gael help i lenwi’ch Ffurflen Dreth.

Talu’ch bil

Bydd CThEF yn cyfrifo’r hyn sydd arnoch yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn rhoi gwybod amdano.

Talwch eich bil Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr.

Bydd faint o dreth a dalwch yn dibynnu ar eich haen Treth Incwm. Mae cyfradd wahanol ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen i chi ei thalu, er enghraifft os ydych yn gwerthu cyfranddaliadau neu ail gartref.

2. Pwy sy’n gorfod anfon Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os, yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf (6 Ebrill i 5 Ebrill), roedd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

Efallai y bydd hefyd angen i chi anfon Ffurflen Dreth os oes gennych unrhyw incwm sydd heb ei drethu, megis:

  • arian o roi eiddo ar osod
  • cildyrnau a chomisiwn
  • incwm o gynilion, buddsoddiadau a difidendau
  • incwm tramor

Gwirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth

Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen. Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Rhesymau eraill dros anfon Ffurflen Dreth

Gallwch ddewis llenwi Ffurflen Dreth er mwyn:

3. Cofrestru ac anfon Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.

Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os yw’r broses Hunanasesu yn newydd i chi, bydd angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) er mwyn i chi allu llenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.

Gallwch gael help i lenwi’ch Ffurflen Dreth.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd yn rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad i CThEF erbyn y dyddiad cau.

Anfon Ffurflen Dreth i CThEF

Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein yw 31 Ionawr.

Anfon Ffurflen Dreth bapur

Os oes angen copi o’r Ffurflen Dreth Hunanasesiad arnoch ar bapur, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am ffurflen SA100.

Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ar gyfer ymddiriedolwyr cynllun pensiwn cofrestredig, bydd yn rhaid i chi lawrlwytho ffurflen SA970 (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon Ffurflen Dreth bapur yw 31 Hydref (neu 31 Ionawr os ydych yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn cofrestredig neu’n gwmni dibreswyl).

Y cyfeiriad i anfon y ffurflen iddo, yw:

Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Ar ôl anfon eich Ffurflen Dreth bapur, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth SA100 ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022, neu ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, mae ffurflenni ar gael o’r Archifau Gwladol.

Defnyddio meddalwedd fasnachol i anfon Ffurflen Dreth

Gallwch ddefnyddio meddalwedd fasnachol:

  • ar gyfer partneriaeth
  • ar gyfer ymddiriedolaeth ac ystâd
  • os ydych yn cael incwm o ymddiriedolaeth
  • os oeddech yn byw dramor (yn agor tudalen Saesneg) fel unigolyn dibreswyl
  • os ydych yn un o danysgrifenwyr Lloyd’s
  • os ydych yn weinidog crefyddol
  • i roi gwybod am elw a wnaed wrth werthu neu gael gwared ar fwy nag un ased (‘enillion trethadwy’)

Dod o hyd i ddarparwr meddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg).

4. Os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth bellach

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn credu nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth bellach.

Os yw CThEF yn cytuno, byddant yn anfon llythyr yn cadarnhau nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os nad yw CThEF yn cytuno cyn y dyddiad cau Hunanasesiad ar sef 31 Ionawr.

Mae’n bosibl na fydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach oherwydd, er enghraifft:

Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.

Gallwch roi gwybod i CThEF:

Bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch rhif UTR.

5. Dyddiadau cau

Mae’n rhaid i’ch Ffurflen Dreth ac unrhyw arian sydd arnoch ddod i law Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau.

Dechreuodd y flwyddyn dreth ddiwethaf ar 6 Ebrill 2023 a daeth i ben ar 5 Ebrill 2024.

Dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod i CThEF bod angen i chi lenwi Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nad ydych wedi anfon un o’r blaen.

Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth bapur, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno erbyn hanner nos 31 Hydref 2024.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar-lein, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno erbyn hanner nos 31 Ionawr 2025.

Dyddiadau cau ar gyfer talu treth sydd arnoch

Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth sydd arnoch erbyn canol nos ar 31 Ionawr 2025.

Fel arfer, mae ail ddyddiad cau ar gyfer talu, sef 31 Gorffennaf, os ydych yn gwneud taliadau ymlaen llaw tuag at eich bil (gelwir y rhain yn ‘daliadau ar gyfrif’).

Fel arfer, byddwch yn talu cosb os ydych yn hwyr. Gallwch apelio yn erbyn cosb os oes gennych esgus rhesymol.

Os nad ydych yn gwybod eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan

Mae’n bosibl na fyddwch yn gwybod beth fydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, er enghraifft:

  • os yw’ch ‘cyfnod cyfrifyddu’ yn dod i ben ar amser gwahanol i ddiwedd y flwyddyn dreth
  • os yw’ch ‘cyfnod cyfrifyddu’ yn wahanol i’ch ‘cyfnod sail’
  • os ydych chi’n aros am brisiad

‘Cyfnod cyfrifyddu’ yw’r cyfnod y mae cyfrifon busnes yn cael eu cau (12 mis fel arfer) ac yn dod â’r flwyddyn busnes i ben. Gall hyn fod yn wahanol i’r cyfnod a ddefnyddir i nodi’r elw trethadwy mewn unrhyw flwyddyn dreth benodol (a elwir hefyd yn ‘gyfnod sail’).

Os nad ydych yn gwybod beth fydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan cyn y dyddiad cau, dylech ddefnyddio amcangyfrifon (a elwir hefyd yn ‘ffigurau dros dro’).

Dylech roi gwybod i CThEF eich bod wedi defnyddio amcangyfrifon pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Pan fyddwch yn darganfod beth oedd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth. Mae gennych 12 mis o’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad i wneud y newidiadau hyn.

Os oes rhagor o dreth yn ddyledus, bydd angen i chi dalu log ar y gwahaniaeth rhwng eich amcangyfrifon a’r ffigurau terfynol. Bydd y llog yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad dyledus gwreiddiol ar gyfer talu. Os ydych wedi talu gormod o dreth, bydd llog yn cael ei dalu i chi.

Pan fo’r dyddiad cau’n wahanol

Cyflwynwch eich Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr os ydych eisiau i CThEF gasglu’r dreth sydd arnoch yn awtomatig o’ch cyflog a’ch pensiwn. Ewch ati i gael gwybod a ydych yn gymwys i dalu drwy’r dull hwn.

Mae’n rhaid i Ffurflen Dreth bapur gyrraedd CThEF erbyn 31 Ionawr os ydych yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn cofrestredig neu’n gwmni dibreswyl. Ni allwch anfon Ffurflen Dreth ar-lein.

Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn eich e-bostio neu’n ysgrifennu atoch gan roi dyddiad cau gwahanol i chi.

Ffurflenni Treth Partneriaeth os oes gennych gwmni fel partner

Os yw dyddiad cyfrifyddu’ch cwmni’n syrthio rhwng 1 Chwefror a 5 Ebrill a bod un o’ch partneriaid yn gwmni cyfyngedig, mae’r dyddiadau cau ar gyfer y canlynol fel a ganlyn:

  • Ffurflenni Treth ar-lein – 12 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu
  • Ffurflenni Treth papur – 9 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu

Blwyddyn dreth 2022 i 2023 a chynharach

Mae’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad ar gyfer y blynyddoedd treth hyn wedi mynd heibio. Dylech anfon eich Ffurflen Dreth neu’ch taliad cyn gynted â phosibl – bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

6. Cosbau

Codir cosb arnoch os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth a’ch bod yn colli’r dyddiad cau ar gyfer ei chyflwyno, neu ar gyfer talu’ch bil.

Byddwch yn talu cosb o £100 am gyflwyno’n hwyr os yw’ch Ffurflen Dreth hyd at 3 mis yn hwyr. Bydd yn rhaid i chi dalu mwy os yw’n hwyrach, neu os ydych yn talu’ch bil treth yn hwyr.

Codir llog arnoch ar daliadau hwyr.

Amcangyfrifwch eich cosb (yn agor tudalen Saesneg) am Ffurflenni Treth Hunanasesiad sy’n fwy na 3 mis yn hwyr, a thaliadau hwyr.

Gallwch apelio yn erbyn cosb os oes gennych esgus rhesymol.

Cael gwybod sut i dalu cosb.

Gellir codi cosb ar bob partner os yw Ffurflen Dreth Partneriaeth yn hwyr.

7. Os oes angen i chi newid eich Ffurflen Dreth

Gallwch wneud newid i Ffurflen Dreth ar ôl i chi ei chyflwyno, er enghraifft, am eich bod wedi gwneud camgymeriad.

Caiff eich bil ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn rhoi gwybod amdano. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth, neu mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad.

Mae proses wahanol ar waith os oes angen i chi roi gwybod am incwm tramor (yn agor tudalen Saesneg).

Diweddaru’ch Ffurflen Dreth

Gallwch gywiro Ffurflen Dreth o fewn 12 mis i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad, a hynny ar-lein neu drwy anfon Ffurflen Dreth bapur arall.

Enghraifft

Ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, fel arfer bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr 2025.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, neu os bydd angen i chi wneud newid i Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF.

Ffurflenni Treth ar-lein

Mae’n rhaid i chi aros 3 diwrnod (72 awr) ar ôl cyflwyno cyn diweddaru eich Ffurflen Dreth.

  1. Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

  2. O ‘Eich cyfrif treth’, dewiswch ‘cyfrif Hunanasesiad’.

  3. Dewiswch ‘Rhagor o fanylion Hunanasesiad’.

  4. Dewiswch ‘Ar gip’ o’r ddewislen ar y chwith.

  5. Dewiswch ‘Opsiynau Ffurflen Dreth’.

  6. Dewiswch y flwyddyn dreth ar gyfer y Ffurflen Dreth yr ydych am ei diwygio.

  7. Ewch i mewn i’r Ffurflen Dreth, ei chywiro a’i hailgyflwyno.

Ffurflenni Treth papur

Ar gyfer y prif Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ffoniwch CThEF a gofyn am ffurflen SA100. Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.

Yna, bydd angen i chi anfon y tudalennau wedi’u cywiro i’r cyfeiriad ar eich gwaith papur Hunanasesiad.

Dylech ysgrifennu ‘diwygiad’ ar bob tudalen, a chynnwys eich enw a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) – mae hwn ar Ffurflenni Treth blaenorol neu lythyrau gan CThEF.

Os na allwch ddod o hyd i’r cyfeiriad, gallwch anfon eich tudalennau wedi’u cywiro i:


Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF 
Cyllid a Thollau EF 
HMRC
BX9 1ST

Os gwnaethoch ddefnyddio meddalwedd fasnachol

Cysylltwch â’r darparwr meddalwedd (yn agor tudalen Saeneg) i gael help i gywiro’ch Ffurflen Dreth. Cysylltwch â CThEF os nad yw’ch meddalwedd yn gallu gwneud cywiriadau.

Ysgrifennu at CThEF

Mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF os ydych wedi methu’r dyddiad cau i wneud newidiadau neu os oes angen i chi wneud newid i flwyddyn dreth arall.

Bydd angen i chi hefyd ysgrifennu llythyr at CThEF i wneud y canlynol:

  • hawlio rhyddhad gordaliad

  • rhoi gwybod am incwm na wnaethoch ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth

Gallwch hawlio ad-daliad hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.

Yr hyn i’w gynnwys

Mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • y flwyddyn dreth yr ydych yn ei chywiro

  • pam yr ydych o’r farn eich bod wedi talu gormod o dreth, neu heb dalu digon

  • faint yr ydych yn credu eich bod wedi’i ordalu neu ei dandalu

  • eich llofnod (ni all neb arall lofnodi ar eich rhan)

Os ydych yn gwneud hawliad, dylech hefyd gynnwys y canlynol yn eich llythyr:

  • y ffaith eich bod yn gwneud hawliad am ryddhad gordaliad

  • rhywbeth sy’n profi eich bod wedi talu drwy’r drefn Hunanasesiad ar gyfer y cyfnod perthnasol

  • sut yr hoffech gael eich ad-dalu

  • y ffaith nad ydych wedi ceisio hawlio’r ad-daliad hwn yn ôl yn flaenorol

  • datganiad wedi’i lofnodi sy’n nodi bod y manylion yr ydych wedi’u rhoi yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth

Newidiadau i’ch bil

Byddwch yn gweld eich bil diwygiedig yn syth os gwnaethoch ddiweddaru’ch Ffurflen Dreth ar-lein. Cyn pen 3 diwrnod, bydd eich datganiad hefyd yn dangos y canlynol:

  • yr hyn sy’n wahanol i’r hen un, fel y gallwch weld a oes arnoch fwy neu lai o dreth

  • unrhyw log

Er mwyn bwrw golwg dros hyn, mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a dewiswch ‘Bwrw golwg dros ddatganiadau’ oʼr ddewislen ar y chwith.

Os oes treth yn ddyledus i chi

I hawlio ad-daliad, ewch i ‘Gwneud cais am ad-daliad’ o’r ddewislen ar y chwith o fewn eich cyfrif ar-lein CThEF. Dylech ganiatáu 4 wythnos i’ch ad-daliad gael ei anfon i’ch cyfrif banc.

Mae’n bosibl na chewch ad-daliad os oes gennych dreth sy’n ddyledus yn ystod y 35 diwrnod nesaf (er enghraifft ar gyfer taliad ar gyfrif). Yn hytrach, caiff yr arian ei ddidynnu oddi wrth y dreth sydd arnoch.

Os oes angen i chi dalu mwy o dreth

Bydd eich bil diweddaredig yn dangos y canlynol hefyd:

  • y dyddiad cau ar gyfer talu

  • yr effaith ar unrhyw daliadau ar gyfrif y mae’n rhaid i chi eu gwneud

Os gwnaethoch anfon Ffurflen Dreth bapur wedi’i diweddaru

Fel arfer, bydd CThEF yn anfon bil wedi’i ddiweddaru atoch cyn pen 4 wythnos.

Mae’n cymryd mwy o amser nag arfer i brosesu newidiadau. Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Bydd CThEF yn talu unrhyw ad-daliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, cyn belled â’ch bod wedi rhoi’ch manylion banc ar eich Ffurflen Dreth.

8. Sut i gael help

Os oes angen help arnoch gyda Hunanasesiad, gallwch wneud y canlynol:

Help i lenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae arweiniad cychwynnol ar GOV.UK ynghylch y canlynol:

Nodiadau arweiniol a thaflenni cymorth

Gallwch hefyd ddarllen arweiniad yn y canlynol:

9. Ffurflenni Treth ar gyfer rhywun sydd wedi marw

Os mai chi yw’r ‘cynrychiolydd personol’ (ysgutor neu weinyddwr) ar gyfer rhywun sydd wedi marw, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi:

  • Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer incwm roedd y person wedi’i ennill cyn iddo farw
  • Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar wahân ar gyfer incwm yr ystâd a gynhyrchir ar ôl i’r person farw

Mae cynrychiolydd personol yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddelio ag arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig (ei ‘ystâd’).

Os nad ydych eisoes wedi rhoi gwybod i CThEF am farwolaeth, mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl. Defnyddiwch y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i roi gwybod i CThEF a sefydliadau eraill y llywodraeth am y farwolaeth.

Ffurflen Dreth ar gyfer incwm roedd y person wedi’i ennill cyn iddo farw

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ran yr ymadawedig. Os byddwch yn gwneud hynny, bydd yn anfon Ffurflen Dreth i’w llenwi a’i dychwelyd.

Fel arfer, bydd angen manylion cyfrifon banc a chynilion yr ymadawedig arnoch – mae’r canlynol yn enghreifftiau:

  • cyfriflenni banc
  • paslyfrau cymdeithas adeiladu
  • talebau difidend
  • bondiau neu dystysgrifau Cynilion Cenedlaethol

Os oedd yr ymadawedig yn gyflogedig, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:

  • P45 gan ei gyflogwr - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth y bu farw
  • P60 gan ei gyflogwr - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth y bu farw
  • manylion unrhyw dreuliau a dalwyd gan y cyflogwr - er enghraifft ceir cwmni, yswiriant iechyd, treuliau teithio neu ofal plant

Os oedd yr ymadawedig yn cael pensiwn, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:

  • datganiad terfynol gan ei ddarparwr pensiwn - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth y bu farw
  • tystysgrif diwedd blwyddyn gan ei ddarparwr pensiwn - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth y bu farw
  • cadarnhad ynghylch unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd hefyd angen manylion arnoch o unrhyw incwm arall a oedd gan yr ymadawedig, er enghraifft os oedd yr ymadawedig yn gosod eiddo neu’n rhedeg ei fusnes ei hun.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer rhywun sydd wedi marw, neu os na allwch ddod o hyd i’w gofnodion.

Anfon y Ffurflen Dreth

Anfonwch y Ffurflen Dreth Hunanasesiad wedi’i llenwi drwy’r post.

Mae’n rhaid i’r Ffurflen Dreth gyrraedd CThEF erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr a gawsoch ynghyd â’r ffurflen.

Gallwch gyflogi gweithiwr proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg) (fel cyfrifydd) i’ch helpu i gyflwyno Ffurflen Dreth ar ran yr ymadawedig.

Ffurflenni Treth ar gyfer incwm yr ystâd a gynhyrchir ar ôl i’r person farw

Os yw’r ystâd yn cynhyrchu unrhyw incwm newydd ar ôl y farwolaeth (yn agor tudalen Saesneg), mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud y ddau beth canlynol:

  • cofrestru gyda CThEF
  • anfon Ffurflen Dreth ar wahân ar ran yr ystâd

Mae’n rhaid gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm yr ystâd (yn agor tudalen Saesneg).