Cyfrifiannell ar gyfer Treth Etifeddiant ar gyfradd is

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dalu Treth Etifeddiant ar gyfradd is o 36% os ydych yn gadael o leiaf 10% o’ch ystâd net i elusen. Darllenwch ragor am drothwyon, eithriadau a rhyddhadau Treth Etifeddiant.

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo’r swm y bydd angen i chi ei adael i elusen o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • rydych yn ysgrifennu eich ewyllys eich hun
  • rydych yn ysgutor ewyllys yr ymadawedig, neu’n weinyddwr ei ystâd – os oedd y farwolaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012

Ni chewch ddefnyddio’r gyfrifiannell hon o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • roedd y farwolaeth cyn 6 Ebrill 2012
  • mae costau wedi codi yn sgil gohirio treth ar gyfer coetiroedd neu asedion treftadaeth – mae’r dreth ar y rhain bob amser yn 40%
  • mae Treth Etifeddiant yn ddyledus ar ymddiriedolaeth, ac ni fu marwolaeth

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • gwerth yr asedion yn yr ystâd
  • beth yw statws yr asedion o ran perchnogaeth
  • cyfanswm gwerth yr asedion ym mhob rhan o (‘gydran’) yr ystâd
  • gwerth unrhyw ddyledion neu rwymedigaethau y mae’n rhaid i’r ystâd eu talu
  • unrhyw eithriadau a rhyddhadau Treth Etifeddiant
  • swm unrhyw gyfraniadau elusennol sydd eisoes wedi’u gwneud
  • gwerth y drothwy (‘haen cyfradd sero’)
  • gwerth y rhoddion a roddwyd gan yr ymadawedig yn ystod y 7 mlynedd cyn marwolaeth