Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Printable version

1. Trosolwg

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy’n rhydd o dreth ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Dod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant fel rhiant neu os ydych chi dros 16 oed.

Daeth y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben yn 2011. Gallwch wneud cais am ISA ar gyfer Plant Iau yn lle hynny.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu i mewn i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Gallwch barhau i ychwanegu hyd at £9,000 y flwyddyn at gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant sy’n bodoli eisoes. Mae’r arian yn eiddo i’r plentyn, a gall y plentyn dim ond ei dynnu o’r cyfrif pan fydd yn troi’n 18 oed. Gall y plentyn gymryd rheolaeth dros y cyfrif pan fydd yn troi’n 16 oed.

Nid oes treth i’w thalu ar incwm Cronfa Ymddiriedolaeth Plant nac ar unrhyw elw y mae’n ei gwneud. Ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth a gewch.

2. Dod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Cysylltwch â darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn uniongyrchol os ydych chi’n gwybod gyda phwy mae’r cyfrif.

Os nad ydych yn gwybod enw’r darparwr, gallwch ofyn i’ch rhiant neu’ch gwarcheidwad.

Gallwch hefyd ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gall CThEF roi gwybod i chi ble agorwyd y cyfrif yn wreiddiol.

Gofyn i CThEF ddod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Defnyddiwch yr offeryn hwn i gael gwybod sut i ofyn i CThEF ddod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Gallwch ofyn i CThEF os ydych:

  • yn rhiant neu’n gwarcheidwad i blentyn sydd o dan 18 oed
  • yn 16 oed, neu’n hŷn, ac yn chwilio am eich cronfa ymddiriedolaeth

Dechrau nawr

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Bydd hefyd angen eich manylion mabwysiadu arnoch, os yw’n berthnasol.

Os ydych yn rhiant neu’n gwarcheidwad sy’n chwilio am gronfa ymddiriedolaeth plentyn, bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw llawn, cyfeiriad, a dyddiad geni’r plentyn
  • unrhyw enwau blaenorol a ddefnyddiwyd gennych chi neu’r plentyn

Gallwch gynnwys Rhif Yswiriant Gwladol y plentyn, os yw hwnnw gennych.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael llythyr oddi wrth CThEF yn nodi manylion y darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Byddwch fel arfer yn cael hwn cyn pen 3 wythnos i’ch cais ddod i law CThEF.

Os na chewch ymateb cyn pen 3 wythnos, gallwch ysgrifennu at CThEF. Cofiwch gynnwys eich cyfeirnod, os oes un gennych.

Ysgrifennwch i’r cyfeiriad isod:

Elusennau, Cynilion a Rhyngwladol 1 / Charities, Savings and International 1
CThEF
HMRC
BX9 1AU

3. Rheoli’r cyfrif

Os mai chi yw’r prif gyswllt ar gyfer cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, chi yw’r ‘cyswllt cofrestredig’. Mae gennych rai cyfrifoldebau tan fydd y plentyn yn 18 oed, neu tan fydd y plentyn yn cymryd rheolaeth dros ei gyfrif ei hun.

Eich cyfrifoldebau fel y cyswllt cofrestredig

Chi yw’r unig berson sy’n gallu:

  • rhoi gwybod i ddarparwr y cyfrif sut mae buddsoddi’r gronfa a rhedeg y cyfrif
  • newid y cyfeiriad a manylion personol eraill
  • newid y math o gyfrif, er enghraifft o arian i stociau a chyfranddaliadau
  • symud y cyfrif i ddarparwr arall

Cysylltwch â darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i wneud hyn.

Symud i gyfrif gwahanol

Gallwch drosglwyddo cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ISA ar gyfer Plant Iau. Cysylltwch â darparwr ISA ar gyfer Plant Iau i wneud hyn.

Cofnodion y mae angen i chi eu cadw

Cadwch y gwaith papur canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw eich plentyn (mae hwn i’w weld ar eich cyfriflen Cronfa Ymddiriedolaeth Plant flynyddol)
  • cyfriflenni’r cyfrif
  • manylion y math o gyfrif a’r darparwr

Newid cyswllt cofrestredig

Gallwch newid y cyswllt cofrestredig i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, fel rhiant, llys-riant neu warcheidwad cyfreithiol os yw’r ddau barti’n cytuno i hyn.

Gall darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant roi gwybod i chi sut mae newid y cyswllt cofrestredig ar gyfer cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Pan fydd eich plentyn yn troi’n 16

Pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oed, gall naill ai:

  • bod yn gyfrifol am y cyfrif drwy gysylltu â darparwr y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • eich gadael chi i fod yn gyfrifol am y cyfrif

4. Talu arian i mewn i'r cyfrif

Gall unrhyw un dalu arian i mewn i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Daeth y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben yn 2011. Gallwch wneud cais am ISA ar gyfer Plant Iau yn lle hynny.

Faint y gallwch ychwanegu

Gallwch roi hyd at £9,000 y flwyddyn i mewn i’r cyfrif - mae’r flwyddyn yn dechrau ar ben-blwydd y plentyn ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn ei ben-blwydd nesaf.

Os na fyddwch yn defnyddio’r terfyn o £9,000, chewch chi ddim trosglwyddo unrhyw swm nas defnyddiwyd i’r flwyddyn ganlynol.

Sut mae talu arian i mewn

Ar gyfer cyfrifon rhanddeiliaid, gallwch ychwanegu arian drwy’r canlynol:

  • siec
  • archeb sefydlog
  • debyd uniongyrchol

Ar gyfer cyfrifon cynilo neu gyfranddaliadau, holwch eich darparwr.

Taliadau gan y llywodraeth

Nid yw taliadau gan y llywodraeth yn cyfrif tuag at y £9,000, ar wahân i daliadau gan gyngor lleol i blentyn mewn gofal.

5. Pan fydd eich plentyn yn troi’n 18 oed

Ar ben-blwydd eich plentyn yn 18 oed, mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn aeddfedu. Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • mae’ch plentyn yn cymryd drosodd y cyfrif yn awtomatig
  • ni ellir ychwanegu rhagor o arian

Gall eich plentyn naill ai:

  • tynnu’r arian
  • trosglwyddo’r arian i ISA ar gyfer oedolion

Yna bydd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cau.

Hyd nes y bydd eich plentyn yn tynnu’r arian neu’n ei drosglwyddo, bydd yr arian yn aros mewn cyfrif nad oes gan unrhyw un arall fynediad ato.

Os nad oes gan eich plentyn y galluedd meddyliol i reoli ei gyfrif pan fydd y cyfrif yn aeddfedu

Mae angen i chi, neu ffrind agos neu berthynas, wneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn dirprwyaeth ariannol fel y gallwch reoli cyfrif eich plentyn pan fydd yn troi’n 18 oed. Unwaith y bydd y cyfrif yn aeddfedu, gellir tynnu’r arian neu ei drosglwyddo i gyfrif ISA.

Yn yr Alban, mae angen gwneud ceisiadau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae angen gwneud ceisiadau i’r Swyddfa Gofal a Gwarchod.

6. Cyfrifon ar gyfer plant mewn gofal

Mae gan rai plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi’i sefydlu ar eu rhan. Mae’r Share Foundation yn gweithredu fel y cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrifon hyn.

Sut mae’r cyfrif yn cael ei reoli

Mae’r Share Foundation yn rheoli’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar ran y plentyn, a bydd yn:

  • ysgrifennu at y plentyn pan fydd yn cymryd rheolaeth dros y cyfrif
  • newid y math o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a’r darparwr os oes angen, ac yn ysgrifennu at y plentyn gan esbonio’r rheswm dros y newid
  • anfon cyfriflenni’r cyfrif at y plentyn

Bydd y Share Foundation yn rheoli’r cyfrif hyd nes:

  • bydd y plentyn yn troi’n 18 oed
  • bydd y plentyn yn troi’n 16 oed ac yn penderfynu rheoli’r cyfrif ei hun
  • bydd rhywun yn cymryd cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, er enghraifft drwy fabwysiadu

Cymryd rheolaeth dros gyfrif

Cysylltwch â’r Share Foundation os ydych yn cymryd cyfrifoldeb rhiant dros blentyn a’ch bod am reoli ei gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Dim ond os ydych chi’n rhiant plentyn a oedd mewn gofal gall y Share Foundation helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, dylech gysylltu â darparwr eich cronfa.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o gyfrifoldeb rhiant, er enghraifft tystysgrif mabwysiadu.

Cewch lythyr yn cadarnhau y gallwch gymryd gyfrifoldeb dros y cyfrif. Dangoswch hwn i’r darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a fydd yn gallu diweddaru’r cyfrif i roi gwybod mai chi yw’r cyswllt cofrestredig.

Share Foundation
E-bost: info@sharefound.org
Ffôn: 01296 310 400
Dysgwch am gostau galwadau

1st Floor
Ardenham Court
Oxford Road
Aylesbury
HP19 8HT

Pan fydd plentyn mewn gofal yn troi’n 16 oed

Bydd y Share Foundation yn ysgrifennu at y plentyn tua 2 fis cyn ei ben-blwydd yn 16 oed, gan roi gwybod iddo sut mae bod yn gyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif.

Os yw’n dewis cymryd rheolaeth dros y cyfrif, gall wneud y canlynol:

  • dechrau rheoli’r cyfrif pan fydd yn troi’n 16 oed
  • tynnu arian o’r cyfrif pan fydd yn troi’n 18 oed

7. Os oes salwch angheuol ar eich plentyn neu os bydd yn marw

Os oes salwch angheuol ar eich plentyn, gallwch dynnu arian o’i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Os bydd yn marw, mae’r arian yn cael ei drosglwyddo i’r person sy’n etifeddu ei ystâd (eiddo).

Os oes salwch angheuol ar eich plentyn

Mae ‘salwch angheuol’ yn golygu bod ganddo glefyd neu salwch sy’n mynd i waethygu ac nad yw’n debygol o fyw am fwy na 6 mis. Dim ond y cyswllt cofrestredig sy’n cael tynnu arian o’r cyfrif.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, mae gennych hyd at 6 mis ar ôl y dyddiad y cafodd eich plentyn ei ddiagnosis i dynnu arian o’r cyfrif.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae gennych hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad y cafodd eich plentyn ei ddiagnosis i dynnu arian o’r cyfrif.

Os ydych yn byw yn yr Alban, does dim terfyn amser o ran tynnu arian o’r cyfrif.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Llenwch y ffurflen mynediad cynnar oherwydd salwch angheuol i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y canlynol:

  • mae salwch angheuol ar eich plentyn
  • eich bod am dynnu’r arian o’r cyfrif

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth er mwyn dangos bod salwch angheuol ar eich plentyn.

Os yw’ch plentyn yn marw

Bydd yr arian yn y cyfrif yn cael ei dalu i’r person sy’n etifeddu ystâd y plentyn. Fel arfer, un o rieni’r plentyn yw hwn. Ond os oedd eich plentyn yn briod, gallai fod yn ŵr neu’n wraig i’r plentyn.

Os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sydd wedi marw, gall hyn barhau am gyfnod byr wedi’r farwolaeth.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Rhoi gwybod i ddarparwr cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Fel rheol bydd angen i chi roi tystiolaeth, er enghraifft y dystysgrif marwolaeth.