Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw

Neidio i gynnwys y canllaw

Os yw plentyn yn marw

Fel arfer, byddwch yn cael Budd-dal Plant am 8 wythnos ar ôl i’r plentyn farw. Os byddai’r plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn ugain cyn diwedd yr 8 wythnos, bydd y Budd-dal Plant yn dod i ben ar y dydd Llun canlynol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych eisoes wedi hawlio

Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn rydych yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer yn marw. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu drwy’r post.

Mae’n rhaid i chi gynnwys dyddiad y farwolaeth.

Os nad ydych wedi hawlio eto

Os bu farw’r plentyn cyn i chi anfon y ffurflen hawlio, gallwch anfon un o hyd (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig).

Sut i hawlio

  1. Gwnewch hawliad am Fudd-dal Plant drwy’r post.

  2. Dylech gynnwys nodyn â dyddiad marwolaeth y plentyn.

  3. Rhowch eich manylion cyswllt a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar y nodyn.

  4. Anfonwch rif cofrestru genedigaeth y plentyn (a ddangosir ar dystysgrif geni’r plentyn) neu fabwysiadu’r plentyn gyda’ch ffurflen hawlio (nid oes angen i chi anfon ei dystysgrif marwolaeth).

Os nad oes gennych dystysgrif geni neu fabwysiadu’r plentyn, gallwch archebu un newydd (yn Saesneg) ac anfon rhif cofrestru’r enedigaeth neu’r dystysgrif mabwysiadu yn ddiweddarach.

Os bu farw eich plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni, bydd y cyfnod o 8 wythnos yn dechrau ar y dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.

Gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant am hyd at 3 mis yn unig. Po hiraf y byddwch yn gadael eich hawliad, po leiaf y byddwch yn ei gael.

Os gwnaethoch optio allan o gael Budd-dal Plant

Mae dal angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn marw. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu drwy’r post.

Mae’n rhaid i chi gynnwys dyddiad y farwolaeth.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant a gewch ar ôl i’r plentyn farw.