Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw
Printable version
1. Os yw plentyn yn marw
Fel arfer, byddwch yn cael Budd-dal Plant am 8 wythnos ar ôl i’r plentyn farw. Os byddai’r plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn ugain cyn diwedd yr 8 wythnos, bydd y Budd-dal Plant yn dod i ben ar y dydd Llun canlynol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych eisoes wedi hawlio
Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn rydych yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer yn marw. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu drwy’r post.
Mae’n rhaid i chi gynnwys dyddiad y farwolaeth.
Os nad ydych wedi hawlio eto
Os bu farw’r plentyn cyn i chi anfon y ffurflen hawlio, gallwch anfon un o hyd (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig).
Sut i hawlio
-
Dylech gynnwys nodyn â dyddiad marwolaeth y plentyn.
-
Rhowch eich manylion cyswllt a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar y nodyn.
-
Anfonwch rif cofrestru genedigaeth y plentyn (a ddangosir ar dystysgrif geni’r plentyn) neu fabwysiadu’r plentyn gyda’ch ffurflen hawlio (nid oes angen i chi anfon ei dystysgrif marwolaeth).
Os nad oes gennych dystysgrif geni neu fabwysiadu’r plentyn, gallwch archebu un newydd (yn Saesneg) ac anfon rhif cofrestru’r enedigaeth neu’r dystysgrif mabwysiadu yn ddiweddarach.
Os bu farw eich plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni, bydd y cyfnod o 8 wythnos yn dechrau ar y dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.
Gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant am hyd at 3 mis yn unig. Po hiraf y byddwch yn gadael eich hawliad, po leiaf y byddwch yn ei gael.
Os gwnaethoch optio allan o gael Budd-dal Plant
Mae dal angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn marw. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu drwy’r post.
Mae’n rhaid i chi gynnwys dyddiad y farwolaeth.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant a gewch ar ôl i’r plentyn farw.
2. Os bydd un rhiant yn marw, neu’r ddau ohonynt
Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn dod yn brif ofalwr plentyn neu blant i rywun sydd wedi marw.
Rhoi gwybod am y farwolaeth
Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am y farwolaeth cyn gynted â phosibl.
Does dim rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych eisoes wedi defnyddio’r gwasanaeth Tell Us Once (yn Saesneg).
Mae’n rhaid i chi gynnwys union ddyddiad y farwolaeth, ble mae’r plentyn yn byw nawr a phwy sy’n gofalu amdano.
Gallwch wneud hyn naill ai:
- drwy lenwi ffurflen ar-lein (yn Saesneg) – bydd angen i chi greu cyfrif Porth y Llywodraeth os nad oes un gennych
- dros y ffôn neu drwy’r post
Unwaith y byddwch yn rhoi gwybod am y farwolaeth, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn:
- canslo taliadau
- ysgrifennu i gadarnhau hyn cyn pen 20 diwrnod
Gwneud hawliad
Ni fydd Budd-dal Plant yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i chi. Bydd angen i chi wneud hawliad newydd ar gyfer Budd-dal Plant os nad chi yw’r person sydd wedi’i enwi fel yr hawliwr ar y ffurflen hawlio wreiddiol.
Unwaith y bydd hwn yn cael ei adrodd, bydd Budd-dal Plant yn stopio ar y dydd Llun yn dilyn y farwolaeth. Dim ond hyd at 3 mis y gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant.
Cyfrifon banc
Gallwch gadarnhau’r cyfrif banc rydych am i’r arian gael ei dalu iddo ar y ffurflen hawlio.
Os mai chi yw’r person sy’n cael Budd-dal Plant ond cafodd yr arian ei dalu i gyfrif yr ymadawedig, dylech ddewis cyfrif gwahanol.
Cymorth ychwanegol
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael naill ai’r Lwfans Gwarcheidwad neu’r Lwfans Rhiant Gweddw ar ben y Budd-dal Plant.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant y byddwch yn ei gael.