Codi TAW

Fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, rhaid i chi godi TAW ar y nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu gwerthu.

Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW i allu codi TAW ar eich anfonebau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sut i godi TAW

Pan ydych y gwerthu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo’r pris sy’n cynnwys TAW gan ddefnyddio’r gyfradd TAW gywir (y gyfradd safonol, is neu sero)

  • dangos yr wybodaeth TAW ar eich anfoneb - rhaid i anfonebau gynnwys eich rhif TAW a dangos y TAW ar wahân

  • dangos y trafodyn yn eich cyfrif TAW - crynodeb o’ch TAW

  • cofnodi’r swm ar eich Ffurflen TAW

Cyfraddau TAW

Mae 3 cyfradd TAW.

Cyfradd safonol

Mae’r rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau ar y gyfradd safonol. Codwch y gyfradd hon oni bai bod y nwyddau neu’r gwasanaethau wedi’u hystyried ar gyfradd is neu gyfradd sero.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw nwyddau sydd o dan y trothwy gwerthu o bell yr ydych yn eu cyflenwi i Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid yn yr UE sydd heb gofrestru ar gyfer TAW . Os byddwch yn mynd dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi wneud cais i gofrestru ar gyfer TAW yn y wlad honno.

Cyfradd is

Mae pryd y gallwch godi’r gyfradd hon yn dibynnu ar yr eitem ac amgylchiadau’r gwerthu, er enghraifft:

  • codir 5% ar seddi car i blant a thanwydd neu bŵer domestig

  • codir 5% ar gymhorthion symud i bobl hŷn os ydynt ar gyfer rhywun sydd dros 60 oed a bod y nwyddau’n cael eu gosod yn ei gartref

Mae rhestr o nwyddau a gwasanaethau ar gyfradd is ar gael yma.

Cyfradd sero

Mae’r gyfradd hon yn golygu bod y nwyddau’n parhau i fod yn agored i TAW ond mai 0% yw’r gyfradd sy’n rhaid i chi ei chodi.

Codwch y gyfradd sero ar nwyddau y gwnaethoch eu hallforio o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i rywle y tu allan i’r DU

  • Gogledd Iwerddon i rywle y tu allan i’r DU a’r UE

  • nwyddau yr ydych yn eu cyflenwi o Ogledd Iwerddon i fusnes yn yr UE sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW - gallwch wirio os yw’r rhif TAW yn ddilys

Gall cyfraddau newid a rhaid i chi ddefnyddio unrhyw newidiadau i’r cyfraddau o’r dyddiad y maent yn newid.

Prisiau sy’n cynnwys TAW a phrisiau heb gynnwys TAW

Bydd angen i chi gyfrifo’r pris yn cynnwys TAW wrth godi TAW ar nwyddau neu wasanaethau. Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd gyfrifo swm y TAW a daloch ar nwyddau a brynwyd gennych, os ydych yn bwriadu adennill y TAW.

Prisiau sy’n cynnwys TAW

I gyfrifo pris sy’n cynnwys y gyfradd safonol o TAW (20%), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.2.

Enghraifft

Rydych yn gwerthu cadair am £60 ac mae angen ychwanegu 20% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.

60 x 1.2 = 72

Y pris sy’n cynnwys TAW yw £72.

I gyfrifo pris sy’n cynnwys y gyfradd is o TAW (5%), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.05.

Enghraifft

Rydych yn gwerthu sedd car i blant am £200 ac mae angen ychwanegu 5% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.

200 x 1.05 = 210

Y pris sy’n cynnwys TAW yw £210.

Prisiau heb gynnwys TAW

I gyfrifo pris sydd heb gynnwys y gyfradd safonol o TAW (20%), dylech rannu’r pris sy’n cynnwys TAW ag 1.2.

Enghraifft

Gwnaethoch brynu bwrdd a chyfanswm y pris yn cynnwys TAW o 20% oedd £180.

180 ÷ 1.20 = 150

Y pris heb gynnwys TAW yw £150. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif - £30.

I gyfrifo pris sydd heb gynnwys y gyfradd is o TAW (5%), dylech rannu’r pris sy’n cynnwys TAW ag 1.05.

Enghraifft

Gwnaethoch brynu lifft risiau a chyfanswm y pris yn cynnwys TAW o 5% oedd £483.

483 ÷ 1.05 = 460

Y pris heb gynnwys TAW yw £460. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif - £23.