Codi, adennill a chofnodi TAW
Printable version
1. Codi TAW
Fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, rhaid i chi godi TAW ar y nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu gwerthu.
Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW i allu codi TAW ar eich anfonebau.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i godi TAW
Pan ydych y gwerthu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi wneud y canlynol:
-
cyfrifo’r pris sy’n cynnwys TAW gan ddefnyddio’r gyfradd TAW gywir (y gyfradd safonol, is neu sero)
-
dangos yr wybodaeth TAW ar eich anfoneb - rhaid i anfonebau gynnwys eich rhif TAW a dangos y TAW ar wahân
-
dangos y trafodyn yn eich cyfrif TAW - crynodeb o’ch TAW
-
cofnodi’r swm ar eich Ffurflen TAW
Cyfraddau TAW
Mae 3 cyfradd TAW.
Cyfradd safonol
Mae’r rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau ar y gyfradd safonol. Codwch y gyfradd hon oni bai bod y nwyddau neu’r gwasanaethau wedi’u hystyried ar gyfradd is neu gyfradd sero.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw nwyddau sydd o dan y trothwy gwerthu o bell yr ydych yn eu cyflenwi i Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid yn yr UE sydd heb gofrestru ar gyfer TAW . Os byddwch yn mynd dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi wneud cais i gofrestru ar gyfer TAW yn y wlad honno.
Cyfradd is
Mae pryd y gallwch godi’r gyfradd hon yn dibynnu ar yr eitem ac amgylchiadau’r gwerthu, er enghraifft:
-
codir 5% ar seddi car i blant a thanwydd neu bŵer domestig
-
codir 5% ar gymhorthion symud i bobl hŷn os ydynt ar gyfer rhywun sydd dros 60 oed a bod y nwyddau’n cael eu gosod yn ei gartref
Mae rhestr o nwyddau a gwasanaethau ar gyfradd is ar gael yma.
Cyfradd sero
Mae’r gyfradd hon yn golygu bod y nwyddau’n parhau i fod yn agored i TAW ond mai 0% yw’r gyfradd sy’n rhaid i chi ei chodi.
Codwch y gyfradd sero ar nwyddau y gwnaethoch eu hallforio o dan yr amgylchiadau canlynol:
-
Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i rywle y tu allan i’r DU
-
Gogledd Iwerddon i rywle y tu allan i’r DU a’r UE
-
nwyddau yr ydych yn eu cyflenwi o Ogledd Iwerddon i fusnes yn yr UE sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW - gallwch wirio os yw’r rhif TAW yn ddilys
Gall cyfraddau newid a rhaid i chi ddefnyddio unrhyw newidiadau i’r cyfraddau o’r dyddiad y maent yn newid.
Prisiau sy’n cynnwys TAW a phrisiau heb gynnwys TAW
Bydd angen i chi gyfrifo’r pris yn cynnwys TAW wrth godi TAW ar nwyddau neu wasanaethau. Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd gyfrifo swm y TAW a daloch ar nwyddau a brynwyd gennych, os ydych yn bwriadu adennill y TAW.
Prisiau sy’n cynnwys TAW
I gyfrifo pris sy’n cynnwys y gyfradd safonol o TAW (20%), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.2.
Enghraifft
Rydych yn gwerthu cadair am £60 ac mae angen ychwanegu 20% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.
60 x 1.2 = 72
Y pris sy’n cynnwys TAW yw £72.
I gyfrifo pris sy’n cynnwys y gyfradd is o TAW (5%), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.05.
Enghraifft
Rydych yn gwerthu sedd car i blant am £200 ac mae angen ychwanegu 5% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.
200 x 1.05 = 210
Y pris sy’n cynnwys TAW yw £210.
Prisiau heb gynnwys TAW
I gyfrifo pris sydd heb gynnwys y gyfradd safonol o TAW (20%), dylech rannu’r pris sy’n cynnwys TAW ag 1.2.
Enghraifft
Gwnaethoch brynu bwrdd a chyfanswm y pris yn cynnwys TAW o 20% oedd £180.
180 ÷ 1.20 = 150
Y pris heb gynnwys TAW yw £150. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif - £30.
I gyfrifo pris sydd heb gynnwys y gyfradd is o TAW (5%), dylech rannu’r pris sy’n cynnwys TAW ag 1.05.
Enghraifft
Gwnaethoch brynu lifft risiau a chyfanswm y pris yn cynnwys TAW o 5% oedd £483.
483 ÷ 1.05 = 460
Y pris heb gynnwys TAW yw £460. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif - £23.
2. Pryd i beidio â chodi TAW
Ni allwch godi TAW ar nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio.
Os byddwch yn prynu neu’n gwerthu eitem sydd wedi’i heithrio, dylech gofnodi’r trafodyn yn eich cyfrifon busnes cyffredinol o hyd.
Mae nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW yn cynnwys:
-
gwasanaethau ariannol, buddsoddiadau ac yswiriant
-
garejys, llefydd parcio ac angorau cwch preswyl
-
eiddo, tir ac adeiladau
-
addysg a hyfforddiant
-
gofal iechyd a thriniaeth feddygol
-
cynlluniau angladd, gwasanaethau claddu neu amlosgi
-
digwyddiadau elusennol
-
hynafolion
-
hapchwarae neu docynnau loteri
-
gweithgareddau chwaraeon
Mae rhestr lawn o’r nwyddau sydd wedi’u heithrio rhag TAW ar gael yma.
Nwyddau a gwasanaethau sydd ‘y tu hwnt i gwmpas’
Mae rhai nwyddau a gwasanaethau tu allan i’r system TAW (‘y tu hwnt i gwmpas’), felly ni allwch godi nac adennill TAW arnynt. Er enghraifft:
-
nwyddau neu wasanaethau rydych yn eu prynu a’u defnyddio y tu allan i’r DU
-
ffioedd statudol, megis tâl atal tagfeydd Llundain
-
nwyddau rydych yn eu gwerthu fel hobi, megis stampiau o gasgliad
-
cyfraniadau i elusen, os fe’u rhoddir heb gael unrhyw beth yn ôl
Codi TAW ar elusennau
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW werthu rhai nwyddau a gwasanaethau i elusennau ar y gyfradd sero neu’r gyfradd is o TAW.
Dysgwch beth sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd is.
Os ydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a yw’r elusen yn gymwys, ac i ddefnyddio’r gyfradd gywir.
Nid yw clybiau chwaraeon amatur cymunedol yn gymwys i gael y rhyddhadau TAW ar gyfer elusennau.
Gwirio bod yr elusen yn gymwys
Gofynnwch i’r elusen roi tystiolaeth i chi ei bod yn elusen. Gall hyn fod yn un o’r canlynol:
-
rhif cofrestru’r Comisiwn Elusennau
-
llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) os nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (er enghraifft, os yw’n elusen yn yr Alban neu’n Gogledd Iwerddon)
Cael datganiad ysgrifenedig
Mae angen i chi hefyd ofyn i’r elusen roi datganiad ysgrifenedig neu dystysgrif i chi yn cadarnhau ei bod yn bodloni’r amodau ar gyfer y rhyddhad TAW penodol.
Rhaid i elusennau ddilyn fformat penodol ar gyfer y datganiad neu dystysgrif. Rhaid i’r datganiad fod ar wahân i’r ffurflen archebu neu anfoneb.
Mae’n rhaid i chi gadw unrhyw ddatganiad neu dystysgrif am o leiaf 4 blynedd.
3. TAW ar ostyngiadau neu roddion
Mae gwahanol reolau ar gyfer codi TAW ar ostyngiadau, rhoddion a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim.
Codi TAW ar ostyngiadau
Pan ddaw i ostyngiadau sylfaenol (er enghraifft, gostyngiad o 20%) codwch TAW ar y pris gostyngol.
Cynigion amleitem
Cynigion amleitem yw pan fo’r cwsmer yn cael gostyngiad am brynu rhagor o eitemau, er enghraifft 3 eitem am £20.
Ar gyfer cynigion amleitem lle mae pob eitem â’r un gyfradd TAW (fel arfer y gyfradd safonol), codwch TAW ar y pris cyfunol.
Os oes gan yr eitemau yn y cynnig gyfraddau gwahanol o TAW, mae angen i chi ddefnyddio dull o’r enw ‘dosrannu’.
Darllenwch adran 8 o’r arweiniad ar reolau a gweithdrefnau TAW i weld sut mae dosrannu’n gweithio.
Cynigion drwy arbedion-cyswllt
Cynigion drwy arbedion-cyswllt yw pan fo’r cwsmer yn cael ail eitem am bris gostyngol (neu am ddim) gyda’i bryniant, er enghraifft ‘prynu un, cael un am ddim’.
Defnyddiwch y dull ‘dosrannu’ i gyfrifo’r TAW, oni bai bod yr eitem sy’n rhad ac am ddim neu’n ostyngol:
-
â gwerth o ran ailwerthu sy’n llai na £1
-
â gwerth o ran gwerthu sy’n llai na £5
-
yn costio llai nag 20% o gyfanswm yr eitemau eraill yn y cynnig i chi
-
ddim yn cael ei gwerthu am bris ar wahân i’r prif gynnyrch
Os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, codwch TAW ar werth cyfun yr eitemau.
Codi TAW ar gwponau neu dalebau
Peidiwch â chodi TAW ar y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
cwpon neu daleb arian parod rydych chi’n ei roi am ddim gydag eitem arall ar adeg y prynu
-
talebau ‘gwerth enwol’ y gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nag un math o nwyddau neu wasanaeth (os cânt eu gwerthu am eu gwerth ariannol neu am lai)
Codwch TAW pan fydd cwsmer yn defnyddio taleb ‘gwerth enwol’ i brynu rhywbeth oddi wrthych. Os gwnaethoch werthu’r daleb am bris gostyngol, codwch TAW ar y gwerth gostyngol.
TAW ar roddion
Nid oes arnoch TAW os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn rhoi’ch nwyddau a gwasanaethau eich hunan i ffwrdd
-
mae cyfanswm gwerth y rhoddion a roddir i’r un person mewn cyfnod o 12 mis yn llai na £50
TAW ar nwyddau a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim
Fel arfer nid oes arnoch TAW ar nwyddau a gwasanaethau a rowch i ffwrdd am ddim.
Eitem neu wasanaeth | Amod i’w fodloni i fod wedi eich eithrio rhag talu TAW |
---|---|
Samplau rhad ac am ddim | I’w defnyddio at ddibenion marchnata a rhoi digon ohonynt i ganiatáu i ddarpar gwsmeriaid brofi’r cynnyrch |
Benthyciadau am ddim o asedion busnes | Mae cost llogi’r ased wedi’i chynnwys mewn rhywbeth arall rydych yn ei werthu i’r cwsmer |
Gwasanaethau rhad ac am ddim | Nid ydych yn cael unrhyw daliad neu nwyddau neu wasanaethau yn gyfnewid |
4. Adennill TAW ar dreuliau busnes
Gallwch adennill TAW ar eitemau rydych yn eu prynu i’w defnyddio yn eich busnes. Gwnewch hyn yn eich Ffurflen TAW.
Os yw’r eitemau hynny hefyd at ddefnydd personol, dim ond cyfran fusnes y TAW y gallwch ei hawlio.
Enghreifftiau
Mae hanner eich galwadau ffôn symudol yn bersonol. Gallwch adennill 50% o’r TAW ar y pris prynu a’r cynllun gwasanaeth.
Rydych yn gweithio gartref ac mae’ch swyddfa’n cymryd 20% o arwynebedd llawr eich tŷ. Gallwch adennill 20% o’r TAW ar eich biliau cyfleustodau.
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion i gefnogi’ch hawliad ac i ddangos sut y gwnaethoch gyfrifo’r gyfran busnes ar gyfer pryniant. Mae’n rhaid i chi hefyd fod ag anfonebau TAW dilys.
Os ydych yn adennill TAW ar nwyddau neu wasanaethau nad ydych wedi talu amdanynt, rhaid i chi ad-dalu CThEM. Gelwir hyn yn ‘adfachu’. Darllenwch yr arweiniad ar adfachu i wybod pryd a sut i ad-dalu TAW yrydych wedi’i hadennill yn flaenorol.
Os ydych yn gwerthu nwyddau sy’n drethadwy a nwyddau sydd wedi’u heithrio
Os ydych yn gwerthu nwyddau sy’n gymysgedd o nwyddau trethadwy a nwyddau sydd wedi’u heithrio, ystyrir bod eich busnes wedi’i ‘eithrio’n rhannol’. Dysgwch am eithriad rhannol a sut i gyfrifo’r hyn y gallwch ei adennill.
Pryniannau a wnaed cyn cofrestru
Gallwch adennill TAW ar nwyddau neu wasanaethau a brynwyd cyn i chi gofrestru ar gyfer TAW os gwnaethoch eu prynu o fewn:
-
4 blynedd ar gyfer nwyddau sydd gennych o hyd, neu ar gyfer nwyddau a ddefnyddiwyd i wneud nwyddau eraill sydd gennych o hyd
-
6 mis ar gyfer gwasanaethau
Gallwch dim ond adennill TAW ar bryniannau ar gyfer busnesau sydd bellach wedi cofrestru ar gyfer TAW. Mae’n rhaid iddynt ymwneud â’ch ‘dibenion busnes’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ymwneud â nwyddau neu wasanaethau trethadwy TAW yr ydych yn eu cyflenwi.
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW
Ni allwch adennill TAW ar eich pryniannau - ar wahân i asedion cyfalaf penodol dros £2,000.
Cerbydau
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio’r TAW i gyd ar gar newydd neu ar gerbyd masnachol os ydych yn ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn unig. Mae’n rhaid i chi allu dangos nad yw’n cael ei ddefnyddio ar sail personol, er enghraifft mae wedi’i nodi’n benodol yng nghontract eich cyflogai.
Mae ‘defnydd personol’ yn cynnwys teithio rhwng eich cartref a’ch gwaith, oni bai ei fod yn fan gweithio dros dro.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio’r TAW i gyd ar gar newydd os yw’n cael ei ddefnyddio’n bennaf:
-
fel tacsi
-
ar gyfer gwersi gyrru
-
ar gyfer hunan-yrru ar log
Os ydych yn prynu car at ddefnydd busnes, rhaid i’r anfoneb gwerthu ddangos y TAW.
Os ydych yn llogi car i gymryd lle car cwmni sydd oddi ar y ffordd, fel arfer gallwch hawlio 50% o’r TAW ar y gost o’i logi.
Os ydych yn llogi car at ddefnydd busnes yn unig, gallwch adennill yr holl TAW os byddwch yn ei logi am ddim mwy na 10 diwrnod.
Costau tanwydd
Mae gwahanol ffyrdd o adennill TAW ar danwydd, os nad ydych yn talu cyfradd sefydlog o dan y Cynllun Cyfradd Unffurf.
Gallwch adennill y TAW i gyd ar danwydd os yw’ch cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn unig.
Os ydych yn defnyddio’r cerbyd ar gyfer dibenion busnes a personol, gallwch naill ai:
-
adennill y TAW i gyd a thalu’r raddfa tanwydd ffordd cywir ar gyfer eich cerbyd
-
adennill y TAW ar danwydd yr ydych yn ei ddefnyddio ar gyfer tripiau busnes yn unig - bydd angen i chi gadw cofnodion milltiroedd manwl
Mae’n bosibl y byddwch yn dewis peidio ag adennill unrhyw TAW, er enghraifft os yw eich milltiroedd busnes mor isel fel y byddai’r tâl graddfa tanwydd yn uwch na’r TAW y gallwch ei hadennill.
Os ydych yn dewis peidio ag adennill TAW ar danwydd ar gyfer un cerbyd, ni allwch adennill TAW ar unrhyw danwydd ar gyfer cerbydau a ddefnyddir gan eich busnes.
Costau ychwanegol cerbyd
Fel arfer gallwch adennill y TAW ar gyfer:
-
yr holl gostau o ran rhedeg a chynnal a chadw sy’n gysylltiedig â busnes, megis atgyweiriadau neu barcio oddi ar y stryd
-
unrhyw ategolion rydych wedi’u gosod at ddibenion busnes
Gallwch wneud hyn hyd yn oed os na allwch adennill TAW ar y cerbyd ei hun.
Treuliau teithio
Gallwch adennill TAW ar dreuliau teithio cyflogai ar gyfer teithiau busnes. Gall treuliau teithio gynnwys trafnidiaeth, prydau a llety yr ydych yn eu talu. Dysgwch pwy sy’n cael ei ystyried yn gyflogai.
Gallwch adennill TAW ar fathau eraill o dreuliau (nid dim ond y rhai sy’n ymwneud â theithio) ar gyfer pobl hunangyflogedig sy’n cael eu trin fel cyflogeion.
Ni allwch adennill TAW os ydych yn talu cyfradd unffurf i’ch cyflogeion ar gyfer treuliau.
Asedion busnes o £50,000 neu fwy
Mae rheolau arbennig ar gyfer adennill TAW yn y Cynllun Nwyddau Cyfalaf, sy’n golygu bod yn rhaid i chi rannu’r TAW a gafodd ei hawlio yn y lle cyntaf dros nifer o flynyddoedd.
Yr hyn na allwch ei adennill
Ni allwch adennill TAW ar y canlynol:
-
unrhyw beth sydd at ddefnydd personol yn unig
-
nwyddau a gwasanaethau mae’ch busnes yn eu defnyddio i wneud cyflenwadau sydd wedi’u heithrio rhag TAW
-
cost gwesteia neu ddarparu lletygarwch i bobl yr ydych yn gwneud busnes â nhw (er enghraifft tocynnau theatr neu chwaraeon)
-
nwyddau a werthir i chi o dan un o’r cynlluniau TAW gorswm ail law
-
asedion busnes sydd wedi’u trosglwyddo i chi fel ‘busnes byw’
5. Cadw cofnodion TAW
Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn gwirio’ch cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.
Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw
Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r canlynol:
- popeth yr ydych yn ei brynu neu’n ei werthu (yn cynnwys eitemau sydd ar y gyfradd sero, y gyfradd is neu sydd wedi’u heithrio rhag TAW)
- copïau o’r holl anfonebau rydych yn eu rhoi
- pob anfoneb a gewch (copïau gwreiddiol neu electronig)
- cytundebau hunan-filio (pan fo cwsmeriaid yn paratoi’r anfoneb)
- enw, cyfeiriad a rhif TAW unrhyw gyflenwyr hunan-filio
- nodiadau debyd neu gredyd
- unrhyw nwyddau a rowch i ffwrdd neu’n eu cymryd o stoc ar gyfer eich defnydd preifat
Cadwch gofnodion busnes cyffredinol fel datganiadau banc, llyfrau arian parod, bonion sieciau, slipiau talu i mewn a rholiau til.
Dysgwch pa gofnodion sy’n rhaid i chi eu cadw pan ydych yn allforio nwyddau.
Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw’n ddigidol
Mae’n rhaid i chi gadw rhai cofnodion yn ddigidol - oni bai eich bod wedi’ch eithrio rhag dilyn rheolau Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW.
Cadwch gofnodion digidol o’r canlynol:
- y TAW ar nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cyflenwi (cyflenwadau a wnaed)
- y TAW ar nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cael (cyflenwadau a gafwyd)
- yr ‘amser cyflenwi’ a ‘gwerth y cyflenwad’ (gwerth heb gynnwys TAW) am bopeth rydych wedi’i brynu a’i werthu
- unrhyw addasiadau a wnewch i Ffurflen TAW
- trafodion tâl gwrthdro - lle rydych yn cofnodi’r TAW ar bris gwerthu a phris prynu nwyddau a gwasanaethau rydych yn eu prynu
- unrhyw gynlluniau cyfrifyddu TAW a ddefnyddiwch
- cyfanswm eich derbyniadau gros dyddiol os ydych yn defnyddio cynllun manwerthu
- eitemau y gallwch adennill TAW arnynt os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf
- cyfanswm eich gwerthiannau, a’r TAW ar y gwerthiannau hynny, os ydych yn masnachu aur ac yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Aur
Cadwch gopïau digidol o ddogfennau sy’n ymdrin â nifer o drafodion a wnaed ar ran eich busnes drwy’r canlynol:
- gwirfoddolwyr ar gyfer codi arian elusennol
- busnes trydydd parti
- cyflogeion ar gyfer treuliau mewn arian mân
Sut i gadw cofnodion digidol
Defnyddiwch becyn meddalwedd sy’n cydweddu neu feddalwedd arall (megis taenlenni) sy’n cysylltu â systemau Cyllid a Thollau EM (CThEM).
Os ydych yn defnyddio mwy nag un pecyn meddalwedd ar gyfer cadw cofnodion a chyflwyno Ffurflenni TAW, mae angen i chi eu cysylltu.
Gallwch gysylltu’ch meddalwedd mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- defnyddio fformiwlâu i gysylltu celloedd o fewn taenlenni
- e-bostio cofnodion
- rhoi cofnodion ar ddyfais gludadwy i’w rhoi i’ch asiant
- mewnforio ac allforio ffeiliau XML a CSV
- lawrlwytho ac uwchlwytho ffeiliau
Mae hyn yn eich galluogi i gyflwyno Ffurflen TAW eich busnes ar-lein.
Nid oed angen i chi sganio anfonebau neu dderbynebau papur.
Pan ydych wedi’ch eithrio rhag cadw cofnodion digidol
Mae’n rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer y cynllun ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW’ drwy gadw rhai cofnodion yn ddigidol oni bai:
- mae’ch busnes yn defnyddio’r gwasanaeth GIANT TAW, er enghraifft os ydych yn un o adrannau’r llywodraeth neu’n Ymddiriedolaeth y GIG
- rydych yn gymwys am eithriad
Pa mor hir y mae’n rhaid i chi gadw cofnodion
Dechreuwch gadw cofnodion pan ydych yn cofrestru ar gyfer TAW. Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion TAW am o leiaf 6 blynedd (neu 10 mlynedd os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW neu wedi defnyddio’r Gwasanaeth Mini Un Cam (GUC) ar gyfer TAW.
Anfonebau TAW
Dim ond busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW all gyhoeddi anfonebau TAW. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, rhaid i chi wneud y canlynol:
- anfon a chadw anfonebau dilys
- cadw copïau o’r holl anfonebau gwerthu yr ydych yn eu cyhoeddi hyd yn oed os byddwch yn eu canslo neu’n cynhyrchu un drwy gamgymeriad
- cadw pob anfoneb prynu ar gyfer eitemau rydych yn eu prynu
Dysgwch beth i’w gynnwys ar anfoneb TAW dilys.
Ni allwch adennill TAW gan ddefnyddio anfoneb annilys, anfoneb pro-forma, datganiad na nodyn dosbarthu.
Os yw cyflenwr yn anfon anfoneb anghywir atoch
Os yw cyflenwr yn anfon anfoneb atoch a bod y swm sydd i’w dalu yn anghywir, mae angen i chi ofyn i’r cyflenwr ei gywiro ac anfon anfoneb newydd.
Os ydych yn talu llai na’r swm sy’n ddyledus ar anfoneb, dim ond ar y swm a dalwyd y gallwch adennill y TAW - nid yr hyn sydd ar yr anfoneb.
Ni allwch hawlio mwy o TAW na ddangosir ar anfoneb TAW ddilys.
Cyfrif TAW
Mae’n rhaid i chi gadw cofnod ar wahân o’r TAW rydych yn ei chodi a’r TAW rydych chi’n ei thalu ar eich pryniannau. Gelwir y cofnod hwn yn ‘cyfrif TAW’.
Rydych yn defnyddio’r ffigurau o’ch cyfrif TAW i lenwi’ch Ffurflen TAW.
Nid oes unrhyw reolau ar beth ddylai cyfrif TAW edrych fel, ond mae’n rhaid iddo ddangos y canlynol:
- cyfanswm eich gwerthiannau TAW
- cyfanswm eich pryniannau TAW
- y TAW sydd arnoch gan Gyllid a Thollau EM (CThEM)
- y TAW y gallwch ei hadennill gan CThEM
- os yw’ch busnes yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW - y ganran gyfradd unffurf a’r trosiant y mae’n berthnasol iddo
Os ydych yn fusnes yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, rhaid i chi hefyd ddangos y TAW ar unrhyw bryniannau neu werthiannau yn yr UE.
Dychwelyd a chyfnewid
Pan fyddwch yn dychwelyd nwyddau i gyflenwr neu os bydd cwsmer yn dychwelyd nwyddau i chi, dylech setlo balans y taliad drwy anfon naill ai:
- anfoneb newydd yn lle’r hen un
- nodyn credyd neu ddebyd
Nodwch y rhain yn eich cyfrifon a chadwch unrhyw nodiadau gwreiddiol.
Os ydych yn cyfnewid y nwyddau am nwyddau sydd â’r un gwerth, nid oes angen i chi anfon anfoneb TAW newydd.
Rhaid i’ch nodyn credyd neu’ch nodyn debyd gynnwys y canlynol:
- yr un wybodaeth â’r anfoneb TAW
- y rheswm pam y cafodd ei hanfon
- cyfanswm y credyd, heb gynnwys TAW
- rhif a dyddiad yr anfoneb TAW wreiddiol
Gwallau
Os ydych wedi gwneud camgymeriad ar eich Ffurflen TAW dylai’r cyfrif TAW ddangos y canlynol:
- y dyddiad y gwnaethoch ddarganfod y gwall
- manylion am y gwall - er enghraifft sut y digwyddodd, a sut y gwnaethoch ei gywiro
Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd roi gwybod i CThEM am y gwall.
Drwgddyledion
Os nad yw cwsmer yn talu’r hyn sydd arno am nwyddau neu wasanaethau, gallwch ddileu’r anfoneb fel ‘drwgddyled’. Mae’n bosibl y gallech hawlio rhyddhad rhag TAW ar ddrwgddyledion. Gwnewch hyn yn eich Ffurflen TAW.
Os byddwch yn dileu anfoneb fel drwgddyled, mae’n rhaid i chi gadw ‘cyfrif drwgddyledion TAW’ ar wahân. Rhaid i’r ddyled fod yn hŷn na 6 mis pan fyddwch yn gwneud eich hawliad.
Mae’n rhaid i chi hawlio ad-daliad gan CThEM o fewn 4 blynedd a 6 mis o’r dyddiad pan oedd y taliad yn ddyledus neu o ddyddiad y cyflenwad (pa un bynnag oedd hwyraf).
Ar gyfer pob drwgddyled, rhaid i chi ddangos:
- cyfanswm y TAW dan sylw
- swm wedi’i ddileu ac unrhyw daliadau rydych wedi’u cael
- y TAW rydych yn ei hadennill ar y ddyled
- y cyfnod(au) TAW y gwnaethoch dalu’r TAW ac yn adennill y rhyddhad
- manylion anfoneb megis y dyddiad ac enw’r cwsmer
Mae’n rhaid i chi gadw’r wybodaeth hon am 4 blynedd ar ôl gwneud yr hawliad, neu 10 blynedd os gwnaethoch ddefnyddio’r Gwasanaeth Mini Un Cam ar gyfer TAW.
Amser cyflenwi neu bwynt treth
Mae angen i chi wybod amser cyflenwi (neu ‘pwynt treth’) trafodyn. Dyma’r dyddiad y mae’r trafodyn yn digwydd at ddibenion treth.
Mae’r pwynt treth yn rhoi gwybod i chi i ba gyfnod TAW y mae’r trafodyn yn perthyn, ac ar ba Ffurflen TAW i’w rhoi arno.
Gall y pwynt treth amrywio, ond mae fel arfer y canlynol:
Sefyllfa | Pwynt treth |
---|---|
Nid oes angen anfoneb | Dyddiad y cyflenwad |
Anfoneb TAW wedi’i chyhoeddi | Dyddiad yr anfoneb |
Anfoneb TAW wedi’i chyhoeddi 15 diwrnod neu fwy ar ôl dyddiad y cyflenwad | Dyddiad y digwyddodd y cyflenwad |
Taliad neu anfoneb a gyhoeddir cyn y cyflenwad | Dyddiad talu neu anfoneb (pa un bynnag sydd gynharach) |
Dyddiad y cyflenwad yw:
- ar gyfer nwyddau - y dyddiad y caiff eu hanfon, eu casglu neu eu darparu (er enghraifft, pan maent wedi’u gosod yn nhŷ’r cwsmer)
- ar gyfer gwasanaethau - y dyddiad y mae’r gwaith wedi’i orffen
Eithriadau i’r rheol pwynt treth
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW, y pwynt treth yw’r dyddiad y daw’r taliad i law bob amser.
Darllenwch yr arweiniad ar sut i gyfrifo’r pwynt treth mewn sefyllfaoedd eraill. Er enghraifft, mae rheolau gwahanol o ran pwyntiau treth ar gyfer:
- rhai masnachau - fel bargyfreithwyr, adeiladu
- lle nad yw’r cyflenwad yn ‘werthiant’ – er enghraifft eitemau busnes ac sydd wedi’u cymryd ar gyfer defnydd personol
Weithiau, gall un gwerthiant arwain at 2 bwynt treth neu fwy - er enghraifft lle mae’r cwsmer yn talu blaendal ymlaen llaw, ac yna daliad terfynol.