Cywiro camgymeriadau yn eich Ffurflen TAW

Gallwch gywiro camgymeriadau mewn Ffurflenni TAW am y 4 blynedd blaenorol, cyn belled â bod gwerth net y gwallau:

  • yn £10,000 neu lai
  • rhwng £10,000 a £50,000 ond yn llai nag 1% o gyfanswm gwerth eich gwerthiannau

Ar gyfer camgymeriadau fel hyn, gwnewch addasiad neu gywiriad yn eich Ffurflen TAW nesaf.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar wahân am unrhyw gamgymeriadau net sydd:

  • dros £50,000
  • dros £10,000, os ydynt yn fwy nag 1% o gyfanswm gwerth y gwerthiannau
  • yn gamgymeriadau bwriadol

Gwirio sut i roi gwybod i CThEF am wallau yn eich Ffurflen TAW.

Cyfrifo gwerth net y camgymeriadau

I gyfrifo gwerth net y camgymeriadau:

  • adiwch at ei gilydd y dreth ychwanegol sy’n ddyledus i CThEF
  • tynnwch y dreth sy’n ddyledus i chi

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am gamgymeriadau bwriadol ar wahân - ni allwch gynnwys y rhain yn y cyfrifiad hwn.

Sut i wneud yr addasiad yn eich Ffurflen TAW nesaf

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW nesaf, ychwanegwch y gwerth net at flwch 1 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i CThEF, neu at flwch 4 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i chi.

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadw manylion am y camgymeriad (er enghraifft, y dyddiad y’i canfuwyd, sut y digwyddodd a swm y TAW sydd dan sylw)

  • cynnwys gwerth y camgymeriad yn eich cyfrif TAW

Darllenwch ragor am sut i gywiro camgymeriadau TAW a gwneud addasiadau neu hawliadau (yn agor tudalen Saesneg).

Cysylltwch â’r Tîm Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis os oes angen help arnoch wrth wneud cywiriadau.