Anfon Ffurflen TAW

Printable version

1. Pryd i lenwi Ffurflen TAW

Mae Ffurflen TAW yn ffurflen rydych yn ei llenwi er mwyn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) faint o TAW rydych wedi ei chodi a faint rydych wedi ei dalu i fusnesau eraill.

Fel arfer, mae angen i chi anfon Ffurflen TAW i CThEF bob 3 mis. Gelwir hyn eich ‘cyfnod cyfrifyddu’.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen TAW hyd yn oed os nad oes gennych TAW i’w thalu neu ei hadennill.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dyddiadau cau

Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein yw un mis calendr a saith diwrnod ar ôl diwedd cyfnod cyfrifyddu. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer talu CThEF hefyd. Dylech ganiatáu digon o amser i’r taliad gyrraedd cyfrif CThEF.

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein er mwyn:

  • cael gwybod pryd mae dyddiadau cau eich Ffurflenni TAW

  • cael gwybod pryd mae’n rhaid i’r taliad glirio cyfrif CThEF

  • gwirio ac apelio yn erbyn cosbau

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn Saesneg), gallwch drefnu e-bost atgoffa bob tro y bydd angen cyflwyno’ch Ffurflen TAW drwy eich cyfrif ar-lein.

2. Beth i’w gynnwys yn eich Ffurflen TAW

Bydd angen i chi gynnwys:

  • cyfanswm eich gwerthiannau a phryniannau

  • swm y TAW sydd arnoch

  • swm y TAW y gallwch ei adhawlio

  • swm y TAW sy’n ddyledus i chi gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) (os ydych yn adennill TAW ar dreuliau busnes)

Mae’n rhaid i chi gynnwys y TAW ar werth llawn yr hyn a werthwch, hyd yn oed os:

  • ydych yn cael nwyddau neu wasanaethau yn lle arian - er enghraifft os ydych yn cael rhywbeth mewn rhan-gyfnewid

  • nad ydych wedi codi unrhyw TAW ar y cwsmer - caiff pa bynnag bris y codwch ei drin fel pe bai’n cynnwys TAW

Darllenwch yr arweiniad am lenwi eich Ffurflen TAW (yn Saesneg).

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yng Ngogledd Iwerddon, mae’n rhaid i chi gynnwys gwerthiannau yn yr UE ar eich Ffurflen TAW a llenwi Rhestr Gwerthiannau yn y GE (yn Saesneg).

Bydd CThEF yn gallu codi cosb hyd at 100% o unrhyw dreth a danddatganwyd neu a or-hawliwyd os ydych yn anfon Ffurflen TAW anghywir.

Rhoi cyfrif am TAW mewnforio

Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW drwy ddefnyddio ‘cyfrifyddu TAW gohiriedig’ (yn Saesneg). Mae hyn yn eich galluogi i ddatgan TAW mewnforio a’i hadennill fel traul busnes ar yr un Ffurflen TAW.

Defnyddio ffigurau wedi’u hamcangyfrif

Gofynnwch i CThEF am ganiatâd i ddefnyddio ffigurau wedi’u hamcangyfrif. Bydd angen rheswm da arnoch pam na allwch roi ffigurau cywir ar eich Ffurflen TAW.

Os oes caniatâd gennych, ni chodir cosb arnoch oni bai eich bod yn methu’r dyddiad cau neu’n gwneud gwall esgeulus neu fwriadol. Fel arfer, bydd angen i chi roi’r ffigurau cywir yn eich Ffurflen TAW nesaf.

Hawlio rhyddhad ar ddrwgddyledion

Os nad yw cwsmer yn eich talu ar gyfer nwyddau neu wasanaethau, gallwch ddileu’r anfoneb fel ‘drwgddyled’. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae’n bosibl y bydd modd i chi hawlio rhyddhad rhag TAW.

Er mwyn bod yn gymwys am y rhyddhad:

  • rhaid bod y ddyled yn hŷn na 6 mis

  • rhaid i chi gyflwyno’ch hawliad cyn pen 4 blynedd a 6 mis o ddyddiad yr oedd y taliad yn ddyledus neu’r dyddiad cyflenwi (p’un bynnag oedd yn hwyrach)

  • rhaid eich bod heb werthu’r ddyled yn ei blaen

  • rhaid eich bod heb godi mwy na’r pris arferol am yr eitem

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r ddyled. Cyflwynwch eich hawliad am ad-daliad yn eich Ffurflen TAW.

3. Cyflwynwch eich Ffurflen TAW a thalu’ch bil TAW

Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW:

Dim ond os oes gennych eithriad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW (yn Saesneg) y gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW drwy’r post neu ddull arall.

Pryd y gallwch gyflwyno Ffurflen TAW ar bapur

Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur dim ond os:

  • rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol

  • na allwch ddefnyddio cyfrifiaduron oherwydd eich oed, anabledd neu oherwydd nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd lle’r ydych yn byw

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i gael gwybod sut i gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur. Gallwch gael help gyda chyflwyno’ch Ffurflen TAW (yn Saesneg) a deall TAW.

Gall CThEF godi cosb arnoch hyd at £400 os byddwch yn cyflwyno Ffurflen TAW ar bapur ac nad ydych yn gymwys.

Os yw’ch busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur, oni bai bod gennych un o’r canlynol:

Os oes gennych y naill drefniant neu’r llall, gallwch ddewis i gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur neu ar-lein.

Talu eich bil TAW

Mae’n rhaid i chi dalu TAW i CThEF drwy ddull electronig, er enghraifft drwy Ddebyd Uniongyrchol neu fancio ar y rhyngrwyd.

Os na allwch dalu’ch bil TAW, cysylltwch â CThEF.

4. Cywiro camgymeriadau yn eich Ffurflen TAW

Gallwch gywiro camgymeriadau mewn Ffurflenni TAW am y 4 blynedd blaenorol, cyn belled â bod gwerth net y gwallau:

  • yn £10,000 neu lai
  • rhwng £10,000 a £50,000 ond yn llai nag 1% o gyfanswm gwerth eich gwerthiannau

Ar gyfer camgymeriadau fel hyn, gwnewch addasiad neu gywiriad yn eich Ffurflen TAW nesaf.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar wahân am unrhyw gamgymeriadau net sydd:

  • dros £50,000
  • dros £10,000, os ydynt yn fwy nag 1% o gyfanswm gwerth y gwerthiannau
  • yn gamgymeriadau bwriadol

Gwirio sut i roi gwybod i CThEF am wallau yn eich Ffurflen TAW.

Cyfrifo gwerth net y camgymeriadau

I gyfrifo gwerth net y camgymeriadau:

  • adiwch at ei gilydd y dreth ychwanegol sy’n ddyledus i CThEF
  • tynnwch y dreth sy’n ddyledus i chi

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am gamgymeriadau bwriadol ar wahân - ni allwch gynnwys y rhain yn y cyfrifiad hwn.

Sut i wneud yr addasiad yn eich Ffurflen TAW nesaf

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW nesaf, ychwanegwch y gwerth net at flwch 1 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i CThEF, neu at flwch 4 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i chi.

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadw manylion am y camgymeriad (er enghraifft, y dyddiad y’i canfuwyd, sut y digwyddodd a swm y TAW sydd dan sylw)

  • cynnwys gwerth y camgymeriad yn eich cyfrif TAW

Darllenwch ragor am sut i gywiro camgymeriadau TAW a gwneud addasiadau neu hawliadau (yn agor tudalen Saesneg).

Cysylltwch â’r Tîm Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis os oes angen help arnoch wrth wneud cywiriadau.

5. Ffurflenni TAW a thaliadau hwyr

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen TAW, bydd CThEF yn anfon ‘hysbysiad TAW o asesiad treth’ atoch yn rhoi gwybod i chi faint o TAW y maent yn credu sydd arnoch.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu gordal neu gosb am gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar ôl y dyddiad cau, neu os ydych yn ei thalu’n hwyr.

Bydd y swm sydd arnoch yn cael ei gyfrifo’n wahanol, gan ddibynnu ar ba gyfnod cyfrifyddu y mae ar ei gyfer.

Dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted â phosibl os ydych yn ei chael hi’n anodd talu erbyn y dyddiad cau.

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023

Byddwch yn cael cosbau ar wahân am gyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr ac am dalu’n hwyr.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr

Am bob Ffurflen TAW yr ydych yn ei chyflwyno’n hwyr, byddwch yn cael pwynt cosb. Mae hyn yn cynnwys Ffurflenni TAW sy’n dangos ‘dim’ (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan).

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd eich trothwy pwyntiau cosb, cewch gosb o £200. Pennir y trothwy gan eich cyfnod cyfrifyddu (os ydych yn talu bob mis, yn chwarterol neu’n flynyddol).

Byddwch yn cael cosb bellach o £200 am bob cyflwyniad hwyr dilynol tra byddwch ar y trothwy.

Gallwch weld faint o bwyntiau sydd gennych yn eich cyfrif ar-lein.

Cyflwynwch Ffurflenni TAW mewn pryd yn y dyfodol i ddileu pwyntiau cosb o’ch cyfrif.

Os byddwch yn talu’n hwyr

Mae’n bosibl y codir cosb arnoch os byddwch yn talu’n hwyr:

  • ar eich Ffurflen TAW
  • yn dilyn diwygiad neu gywiriad i Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gan CThEF pan na wnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gan CThEF am reswm arall

Mae faint a godir arnoch yn dibynnu ar ba mor hwyr y byddwch yn talu.

Mae cyfanswm y gosb yn codi ar ôl 16 diwrnod, ac yn codi eto ar ôl 31 diwrnod.

Codir llog am dalu’n hwyr arnoch o’r diwrnod cyntaf y bydd eich taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch yn talu’r swm llawn. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn talu mewn rhandaliadau.

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022

Bydd CThEF yn cofnodi ‘diffyg’ ar eich cyfrif os bydd eich Ffurflen TAW neu’ch taliad yn hwyr.

Mae’n bosibl y bydd diffygdalu yn eich rhoi mewn ‘cyfnod gordal’ o 12 mis. Os byddwch yn diffygdalu eto yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 mis, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu swm ychwanegol (‘gordal’) ar ben y TAW sydd arnoch.

Nid ydych yn talu gordal y tro cyntaf eich bod yn diffygdalu.

Dechrau cyfnod gordal

Byddwch yn dechrau cyfnod gordal o 12 mis os byddwch yn talu’n hwyr, ac os yw’ch trosiant yn £150,000 neu’n fwy.

Os yw’ch trosiant yn llai na £150,000, byddwch yn dechrau cyfnod gordal o 12 mis os byddwch yn talu’n hwyr dwywaith o fewn 12 mis.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW neu’ch taliad yn hwyr yn ystod cyfnod gordal

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr, bydd eich cyfnod gordal o 12 mis yn ailddechrau.

Os byddwch yn talu’n hwyr, bydd eich cyfnod gordal o 12 mis yn ailddechrau ac efallai y bydd angen i chi dalu gordal.

Faint rydych yn ei dalu

Mae’r gordal yn ganran o’r TAW heb ei thalu ar gyfer y cyfnod dan ddifygdaliad. Mae’n cael ei gyfrifo ar y dyddiad cau.

Mae’r tabl hwn yn dangos faint a godir arnoch os byddwch yn diffygdalu yn ystod cyfnod gordal. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i esbonio unrhyw ordaliadau sydd arnoch.

Diffygdaliadau cyn pen 12 mis Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn llai na £150,000 Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn £150,000 neu’n fwy
2il Dim gordal 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400)
3ydd 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400)
4ydd 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)
5ed 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)
6 neu fwy 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)

Does dim cosb am gyflwyno Ffurflen TAW sy’n dangos dim (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan) yn hwyr.

Os yw eich hysbysiad TAW o asesiad treth yn anghywir

Os yw’r asesiad yn rhy uchel, anfonwch Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir.

Os yw’r asesiad yn rhy isel, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:

  • rhoi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod
  • anfon Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir

Fel arall, mae’n bosibl y codir cosb arnoch (hyd at 30% o’r asesiad).

Sut i dalu gordal neu gosb

Mae sawl ffordd y gallwch dalu eich bil TAW, gan gynnwys unrhyw ordaliadau a chosbau.

6. Llog ar TAW wedi’i thandalu neu ei gordalu

Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) godi llog arnoch os nad ydych yn rhoi gwybod am y swm cywir o TAW a’i thalu. Os ydych yn talu gormod o TAW oherwydd bod CThEF wedi gwneud camgymeriad, gallwch hawlio llog.

Mae CThEF ond yn codi neu’n talu llog syml (llog ar y swm gwreiddiol, nid llog ar log).

Mae cyfraddau llog gwahanol (yn Saesneg) ar gyfer treth a dandalwyd neu a ordalwyd cyn 22 Awst 2023.

Os nad ydych yn talu digon o TAW

Mae’n bosibl y codir llog o 7.75% arnoch os ydych yn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod am lai o TAW na’r hyn a godoch, neu’n adhawlio mwy na’r hyn rydych yn ei thalu

  • talu asesiad y gwnaeth CThEF ei ganfod yn rhy isel wedi hynny

  • mae arnoch TAW i CThEF oherwydd camgymeriad ar eich Ffurflen TAW

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein i wirio’r swm sydd arnoch.

Bydd CThEF hefyd yn anfon hysbysiad atoch yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch a sut y caiff ei gyfrifo.

Os nad ydych yn talu cyn pen 30 diwrnod, codir llog pellach ar y TAW sy’n ddyledus o ddyddiad yr hysbysiad. Codir llog arnoch am yr holl amser nad ydych yn ei dalu, hyd at uchafswm o ddwy flynedd.

Ni allwch ddidynnu’r llog y mae CThEF yn ei godi arnoch wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

Os ydych yn talu gormod o TAW

Mae’n bosibl y gallwch hawlio llog o 4.25% os yw camgymeriad CThEF yn golygu’r canlynol:

  • rydych yn talu gormod o TAW

  • nid ydych yn adennill digon o TAW

  • cafodd eich taliad gan CThEF ei oedi

Fel arfer, ni fydd CThEF yn ad-dalu llog os ydych wedi talu gormod o TAW o ganlyniad i gamgymeriad a wnaethoch.

Fel arfer, caiff llog ei dalu am y cyfnod llawn, o’r cyfnod pan ordalwyd neu adenillwyd y TAW hyd at y dyddiad y caiff yr ad-daliad ei awdurdodi.

Os gwnaethoch achosi oedi i unrhyw daliadau (er enghraifft, drwy beidio â hawlio ar unwaith), efallai y bydd CThEF yn hepgor yr amser hwn.

Mae’n rhaid i chi hawlio’r llog ar wahân i’r ad-daliad ei hunan.

Ysgrifennwch at CThEF gyda manylion yr ad-daliad, gan egluro pam bod llog yn ddyledus i chi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen pedair blynedd i’r dyddiad a awdurdododd CThEF yr ad-daliad yn wreiddiol. Defnyddiwch y cyfeiriad post ar y llythyr a gawsoch gan CThEF am eich TAW.

Mae unrhyw log a gewch gan CThEF yn cyfrif fel incwm trethadwy.

Talu llog i’ch cwsmeriaid

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw log a gewch (yn ogystal â’r TAW) i’ch cwsmeriaid os yw camgymeriad CThEF yn golygu eu bod wedi talu gormod o TAW.

Cysylltwch â’r person yn CThEF a ddeliodd â’ch hawliad os oes angen i chi gael gwybod sut y cafodd y llog ei gyfrifo. Gall hyn eich helpu i gyfrifo faint sydd angen i chi ei ad-dalu i bob cwsmer.

Mae’n rhaid i chi roi’r arian yn ôl i CThEF cyn pen 14 diwrnod os na allwch gysylltu â chwsmer i’w ad-dalu.

Herio penderfyniad gan CThEF

Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i godi llog arnoch ond gallwch herio’r swm o log a godir arnoch.